Plismon yn gwadu achosi anaf i fachgen a gollodd ran o'i geilliau

Mae Ellis Thomas yn gwadu achosi niwed i'r bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae plismon sydd wedi'i gyhuddo o roi ergyd i fachgen yn ei arddegau gyda'i ben-glin – gan achosi iddo golli hanner un o'i geilliau – wedi gwadu achosi anaf iddo.
Roedd Harley Murphy yn 17 oed pan gafodd ei arestio y tu allan i glwb nos Cube ym Mangor yn ystod oriau mân y bore ar 29 Ionawr 2023, am fod yn feddw ac afreolus.
Mae Ellis Thomas, 24, o Ynys Môn, wedi'i gyhuddo o daro Harley Murphy - a bod hynny wedi arwain at rwygiad i un o'i geilliau oedd yn golygu gorfod tynnu 50% ohoni yn ddiweddarach yn ystod llawdriniaeth.
Mae Mr Thomas yn gwadu achosi niwed corfforol difrifol.
'Amlwg ei fod yn cyflawni trosedd'
Fore Iau wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd yr heddwas fod Mr Murphy wedi mynd ato a'i sarhau.
"Roedd yn amlwg ei fod yn cyflawni trosedd o fod yn feddw ac afreolus mewn man cyhoeddus a throsedd trefn gyhoeddus adran pump," meddai.
Dywedodd ei fod wedi dweud wrtho ei fod yn troseddu gan ychwanegu ei fod wedi "cael noson dda" ac y dylai "fynd adref".
Ond honnodd fod Mr Murphy wedi rhegi a dweud nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Wrth arestio Mr Murphy dywedodd iddo achosi iddo ddisgyn ar lawr gan wthio ei goesau oddi tano ond gwadodd ei fod wedi rhoi ergyd ben-glin iddo.
Dangoswyd lluniau teledu cylch cyfyng o'r digwyddiad honedig iddo a dywedodd ei fod ond wedi codi ei goes oherwydd ei fod yn ceisio taro fferau Mr Murphy am yr eildro.
Pan ofynnwyd iddo a oedd Mr Murphy, pan oedd yn fan yr heddlu, wedi gwneud yn glir pa swyddog oedd wedi rhoi ergyd iddo dywedodd Mr Thomas: "Sylwodd ar y swyddog ar draws y ffordd a dywedodd yn Gymraeg mai fo oedd o."
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2024
Wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Elen Owen fe wadodd iddo golli ei dymer a chynddeiriogi.
Gwyliodd luniau o gamera corff swyddog arall yn ei ddangos yn gweiddi "tyrd yma i ddweud hynny i fy wyneb" wrth un o aelodau grŵp Mr Murphy.
Gofynnodd Ms Owen a oedd ei ymddygiad yn ymosodol ac yn gwaethygu'r sefyllfa ac ai dyna oedd wedi arwain at Mr Murphy yn ei sarhau.
Dywedodd Mr Thomas "i fod yn onest, dydw i ddim yn meddwl hynny".
Esboniodd nad oedd wedi troi ei gamera corff ei hun ymlaen cyn yr arestio gan nad oedd cyfle yn ystod y digwyddiad "deinamig".
Gwrthododd awgrym Ms Owen ei fod yn ceisio cuddio'r hyn a ddigwyddodd.
Dywedodd na allai ddweud pam y rhoddodd ei law dros ei gamera ar ôl dweud wrth gydweithiwr "fi wnaeth ei lorio fo" - a gwadodd fod hynny'n golygu mai ef oedd ar fai am achosi'r anaf.
Ychwanegodd Ms Owen fod adroddiad meddygol yn nodi fod anaf Mr Murphy wedi cael ei achosi gan "ergyd grymus", a'i fod yn anaf "difrifol" sydd i'w weld weithiau mewn chwaraeon lle nad yw chwaraewyr yn defnyddio offer diogelwch digonol.
Gwrthododd Mr Thomas yr awgrym ei fod wedi "newid ei stori" a'i fod wedi "colli rheolaeth" yn ystod y digwyddiad.
Mae'r achos yn parhau.