Oes angen troedio'n ofalus wrth jocian am grefydd?
- Cyhoeddwyd
Mae'r berthynas rhwng comedi a chrefydd wedi hollti barn erioed, a'r cwestiwn mawr yn codi: ydy jocian am grefydd yn rhywbeth sy'n iawn i'w wneud?
Mae'n bwnc sy'n cael ei drafod ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul, gyda Nest Jenkins yn holi enwau adnabyddus o'r byd comedi yng Nghymru am sut maen nhw'n ymdrin â'r peth.
Oes perthynas yn bodoli o gwbl? Ac oes rhai pynciau na ddylid meiddio eu cyffwrdd pan mae hi'n dod at hiwmor?
Dywedodd un o'r rheiny fu'n cyfrannu - y comedïwr a'r cyflwynydd Tudur Owen - ei fod yn "troedio'n ofalus" ym maes crefydd, a bod hynny'n dilyn "cryn dipyn o feddwl am y peth".
Yn un o wynebau mwyaf adnabyddus y byd comedi yng Nghymru, esboniodd ei fod wedi cyfeirio at grefydd mewn jôcs yn y gorffennol, ond ei fod yn cymryd gofal.
"Mi fydda i, a dwi wedi yn achlysurol, ond mae o fel arfer yn dilyn cryn dipyn o feddwl am y peth," meddai.
"Mi ydw i'n troedio'n ofalus pan dwi'n mynd i faes crefydd, ac wrth gwrs nid crefydd ydy'r unig bwnc, yn fy marn i beth bynnag.
"Mae 'na ambell i reol dwi'n rhoi i fi fy hun. Does 'na ddim tabŵs, does dim llinellau dwi'n meddwl na alla i groesi - ond mae 'na reola' dwi'n rhoi i fi nhun, ac un o'r rhai pwysica' ydy fod 'na darged i bob jôc.
"Os dwi'n fodlon g'neud jôc, a'r targed yn ista' o 'mlaen i, yna ma'n iawn i fi 'neud o.
"Ond os nad ydw i'n fodlon 'neud jôc, a 'neud hwyl am ben rhywun, a hwythau'n ista' o 'mlaen i, yna does gen i mo'r hawl i 'neud hynny."
'Lot o scope am gomedi'
Aeth ymlaen i ddweud fod crefydd "i raddau'n disgyn mewn i'r categori yna".
"Dwi'n gorfod troedio'n ofalus. Dwi'n ymwybodol iawn fod yna agwedda' o grefydd na ai'n agos iddyn' nhw.
"Er enghraifft dwi wedi tynnu sylw a 'neud hwyl am ben rhagrith o fewn crefydd falla', neu eithafiaeth o fewn gwahanol fatha' o grefydda'.
"A dwi'n dilyn esiampl pobl erill sydd wedi 'neud o ar hyd y blynyddoedd - mae pobl fel Dave Allen, Monty Python wedi 'neud hynny - a dwi'n meddwl bod lot o scope am gomedi yn y math yna o beth, ar yr ymylon.
"Ond pan mae hi'n dod at ffydd ac at draddodiada', falla'n enwedig yng Nghymru, mae o'n rhywbeth dwi'n meddwl yn galed cyn mynd ar ei ôl, neu cyn 'neud hwyl am ei ben o."
Un gomediwraig brofiadol sydd ddim yn tynnu coes ar unrhyw elfen o grefydd yn ei hiwmor ydy'r awdur Esyllt Sears.
"Fi 'rioed wedi a fi ddim yn credu 'na i fyth, ond am resymau gwahanol i Tudur. Ond fi'n deall beth oedd e'n gweud am beidio pechu pobl eraill," meddai.
"Ti'n gorfod cael rhyw elfen o barch tuag at grefyddau, diwylliannau ac yn y blaen.
"Ond i fi mae e' mwy i 'neud gyda'n magwraeth i. Ges i'n magu mewn teulu crefyddol iawn - teulu Efengylaidd.
"Er bo' fi nawr 'falle fel oedolyn, does gyda fi ddim cred fy hunan - ond fi'n credu fod y fagwraeth yna wedi rhoi cymaint o ofn yndda i am wneud hwyl am ben Duw.
"Er bo' fi ddim yn rhywun sy'n credu mewn Duw, fi'n credu fod e' just yndda i rhywle - dyw e' just ddim yn lle fi ishe mynd iddo."
Mae Manon Ceridwen Jones yn deall dwy ochr y berthynas, oherwydd ei chefndir crefyddol.
Mae hi'n hyfforddi pobl i fynd yn Ficeriaid, ond mae hi bellach wedi dechrau gwneud setiau comedi stand-up hefyd.
Dywedodd ei bod hi'n croesawu trafod crefydd mewn modd hwyliog.
"Yn bendant, yn fy ngwaith yn Padarn Sant dwi'n trio dysgu pobl sut i ddefnyddio hiwmor yn eu pregethau a ballu," meddai.
"Ond hefyd dwi'n trio dysgu pobl i wybod lle mae'r llinell, a lle mae'r llinell i ni.
"Dwi'n meddwl fod 'na beryg braidd yng Nghymru fod genna' ni rhyw barchusrwydd, sy'n cadw ni nôl.
"Felly 'swn i'n annog Esyllt i fod yn hi ei hun hefo fi!"
'Mae'r llinell yn wahanol i bawb'
Ond ble mae'r llinell?
"Dwi'n meddwl mae'r llinell yn wahanol i bawb dydi," meddai Manon.
"Mi 'na i wrando ar gomediwyr, a dwi ddim yn cytuno hefo'u llinell nhw.
"O'n i'n licio be oedd Tudur Owen yn i dd'eud, achos dwi'n meddwl, i fi, ddim y pyncia' ydy'r pethau fyswn i ddim yn fodlon trafod na gwylio - ond yr effaith ma'n gael ar bobl."
Person arall sy'n plethu dau begwn y berthynas rhwng hiwmor a chrefydd ydy Wynne Roberts, sy'n gaplan yn Ysbyty Gwynedd, ond hefyd yn dynwared Elvis Presley.
Wrth ei holi sut mae creu adloniant yn cyd-fynd â delio â sefyllfaoedd anodd ei waith, dywedodd eu bod yn "plethu bob dydd".
"Dwi'n meddwl mae o mor bwysig. Difyrrwr ydw i, dim digrifwr, mewn un ystyr pan dwi'n 'neud y sioeau ac yn y blaen.
"Ond dwi'n defnyddio comedi oddi fewn fy sioe i.
"Fysa rhai pobl yn d'eud mai comedi 'di o gyd pan ma' nhw'n gweld fi yn fy nillad Elvis ac yn gneud y sioea' 'ma!"
"Ond dwi'n meddwl be' sy'n bwysig, oddi fewn i'r gwaith bugeiliol dwi'n neud, yn enwedig pan dwi'n cymryd gwasanaethau fel angladdau fel enghraifft - yn aml iawn ma' pawb yn chwerthin.
"Dwi'n d'eud rhyw stori fach a dwi'n cael pawb i wenu neu chwerthin, ac os dwi'n cael cleifion yn 'sbyty a rhoi gwên ar eu gwyneb nhw, hanner yr amser ma' hynny'n fwy pwysig na'r bilsen ma' nhw wedi'i gael.
"Be' sy'n bwysig i fi ydy bo' fi'n adnabod y rhai sy'n gwrando arna' fi, bod y comedi yn dod allan o'r berthynas sy' gen i efo pobl.
"Ac wedyn o hynny ymlaen o'r berthynas agos yna, da' ni'n gallu canu, a gallu chwerthin hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2021