Buddsoddiad Plaid Cymru yn y cyfryngau digidol yn 'arwyddocaol'

Yr Arglwydd Dafydd Wigley
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arglwydd Dafydd Wigley'n credu bod defnydd Plaid Cymru o'r cyfryngau digidol wedi bod yn rhan bwysig o'u llwyddiant yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd

Mae buddsoddi amser ac adnoddau yn y "cyfryngau modern cyfoes" er mwyn denu pobl ifanc i bleidleisio yn isetholiad Caerffili wedi profi'n arwyddocaol, yn ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru.

Wrth gael ei holi gan Vaughan Roderick ar bennod ddiweddaraf podlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru, dywedodd Dafydd Wigley fod yr isetholiad "yn un hanesyddol iawn".

Llwyddodd Plaid Cymru i sicrhau 47% o'r bleidlais gan drechu Reform a chipio'r sedd seneddol yn yr ardal oddi ar Llafur am y tro cyntaf mewn canrif.

Yn ôl yr Arglwydd Wigley, mae'r ffaith bod Plaid Cymru wedi buddsoddi amser ac adnoddau yn y cyfryngau wedi bod "yn eithriadol o bwysig" ac "arwyddocaol".

Fe lwyddodd Lindsay Whittle o Blaid Cymru i sicrhau 47% o'r bleidlais a mwyafrif o 3,848, gyda Llŷr Powell o Reform yn ail gyda 36.0%, a Llafur yn drydydd.

Roedd gogwydd (swing) o 27% o Lafur, sydd wedi dal y sedd yn San Steffan ers y 1920au ac yn y Senedd ers iddi gael ei sefydlu.

Mae'r Arglwydd Dafydd Wigley'n credu bod Plaid Cymru wedi blaenoriaethu eu presenoldeb ar-lein er mwyn denu'r bobl ifanc i bleidleisio.

"Yn aml iawn dydyn nhw [pobl ifanc] ddim yn gwrando ar y math o raglenni a bwletinau newyddion, fel fyswn i a'n nghyfoedion i'n neud," meddai.

"Ond, mae hyn yn arwyddocaol, os ydy hyn yn ffactor yn y canlyniad yna mae o, gobeithio, am helpu cael canran uchel o bobl ifanc i bleidleisio yn yr etholiad mis Mai ac mae hynny'n bwysig yn ei hun, a ydyn nhw'n pleidleisio dros y Blaid ai peidio."

Aeth ymlaen i bwysleisio bod gan bobl ifanc "diddordeb yn y materion sy'n effeithio ar eu cymuned nhw, ar eu gwlad nhw a bo' nhw'n fodlon troi allan i bleidleisio dros yr hyn maen nhw'n ei gredu ynddo".

Disgrifiad,

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, mae mwy o bobl ifanc yn ffafrio Plaid Cymru yng Nghymru bellach nac unrhyw blaid arall

Wrth ddadansoddi nifer y pleidleiswyr, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones ei fod yn "drawiadol iawn fod 'na gymaint wedi troi allan".

Ychwanegodd ei fod "yn uchel mewn cyd-destun etholiad San Steffan hyd yn oed" a bod "hynny wrth gwrs wedi helpu Plaid Cymru yn sylweddol".

Mewn ymateb i sylwadau'r Arglwydd Dafydd Wigley bod pobl yn pleidleisio "i geisio stopio Reform" mynegodd yr Athro Richard Wyn Jones fod hyn "yn wir, yn eglur iawn o'r data" a bod pobl ifanc yn "llawer iawn mwy ffafriol i Blaid Cymru yng Nghymru bellach nac unrhyw blaid arall".

"O ran y to 16 i 24, sef y cohort 'fengaf, mae Plaid Cymru bron iawn, yn ôl yr arolwg barn diwethaf, yn cael tua 60% o'r bleidlais o'i gymharu hefo 15% i Lafur a 7% i Reform."

'Apelio ar draws y cenedlaethau'

Aeth yr Athro Richard Wyn Jones ymlaen i esbonio bod poblogrwydd Plaid Cymru gyda'r to ifanc yn ddiddorol iawn "achos un o'r beirniadaethau a gafwyd o ymgyrch Plaid Cymru oedd bod nhw wedi dewis ymgeisydd hŷn".

"Ond yn amlwg fe wnaeth Plaid Cymru ddewis da iawn, iawn yn Lindsay Whittle ac yntau wedi llwyddo i gyflwyno ei hun fel y gwleidydd lleol ac roedd hynna'n her i'r pleidiau eraill i gyd, ac roedd wedi llwyddo i apelio ar draws y cenedlaethau yn yr etholaeth honno."

Dywedodd ei fod yn "noson gampus, mae'n ganlyniad campus i Blaid Cymru".

"Mae'n anodd meddwl am unrhywbeth negyddol i ddweud am hyn o safbwynt Plaid Cymru, mae hwn yn mynd ymhell y tu hwnt i'w gobeithion mwyaf optimistaidd nhw ynglŷn â be' fyddai'r canlyniad yn gallu bod ac mae'n rhoi gymaint o fomentwm iddyn nhw ar gyfer blwyddyn nesaf."

Wrth gyfeirio at y pleidiau eraill dywedodd ei fod yn "codi cwestiynau caled iawn" yn arbennig i Reform a'r Blaid Lafur "roedd y pleidiau eraill yn nunlle yn hyn i gyd."

Ychwanegodd: "I Reform mae'n codi cwestiynau ac i Lafur mi ddylai o fod yn achos ail feddwl sylfaenol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig