Menyw, 70, yn y llys yn achos marwolaeth Mabli Hall
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 70 oed wedi ymddangos yn y llys wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth babi wyth mis oed mewn gwrthdrawiad y tu allan i ysbyty.
Bu farw Mabli Cariad Hall o Gastell-nedd bedwar diwrnod wedi i gar daro ei phram y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg ger Hwlffordd ar 21 Mehefin 2023.
Fe wnaeth Bridget Carole Curtis, o Fegelli, Sir Benfro ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli fore Iau, wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Nid yw hi wedi pledio, a chafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth tan iddi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 20 Medi.
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2023
Clywodd cwest i'w marwolaeth yn 2023 fod Mabli wedi bod yn ei phram y tu allan yr ysbyty pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Plant Bryste o anaf difrifol i’w hymennydd.
Roedd ei thad Rob, a gafodd ei anafu yn y digwyddiad hefyd, yn bresennol yn y llys ar gyfer y gwrandawiad byr ddydd Iau, ynghyd â mam Mabli, Gwen.
Mewn teyrnged yn dilyn marwolaeth Mabli, dywedodd ei theulu: "Mae ein bywyd teuluol wedi newid am byth a hyd heddiw rydym yn dal i geisio dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd.
“Wnawn ni fyth anghofio’r cariad a’r gefnogaeth sydd wedi cael ei ddangos i ni, ac er cof am ein hangel gwerthfawr, Mabli Cariad.”
Ym mis Mehefin, gadawodd teulu Mabli flodau yn y man lle cafodd Mabli ei hanafu, flwyddyn yn union ers y digwyddiad.