Cwest: Mabli Hall mewn coets adeg gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth babi wyth mis oed a fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar tu allan i ysbyty.
Roedd Mabli Cariad Hall yn ei choets pan gafodd ei tharo y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar 21 Mehefin.
Clywodd y cwest fod yr heddlu wedi derbyn galwad brys am wrthdrawiad rhwng car a cherddwyr am 11:50.
Cafodd Mabli ei chludo mewn hofrennydd i Gaerdydd, cyn cael ei throsglwyddo'n ddiweddarach i Ysbyty Plant Bryste.
Clywodd Llys Crwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin bod Mabli wedi marw o anaf difrifol i'w hymennydd yn yr ysbyty plant am 01:25 ar 25 Mehefin, bedwar diwrnod ar ôl y digwyddiad.
Dioddefodd gyrrwr BMW gwyn a'i tarodd anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty yn ogystal â theithiwr arall yn y car, a cherddwr arall a gafodd eu taro hefyd.
Dywedodd Swyddog y Crwner, Carrie Sheridan, fod Mabli wedi bod yn ei choets ar adeg y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd o flaen prif fynedfa'r ysbyty.
Mynegodd yr Uwch Grwner Dros Dro, Paul Bennett, ei gydymdeimlad i deulu Mabli.
'Cyfnod ofnadwy o boenus'
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: "Mae colli Mabli Cariad wedi newid ein bywydau am byth.
"Mae'r boen a'r galar rydyn ni'n teimlo yn amhosib disgrifio.

Dywedodd rhieni Mabli Cariad Hall ei bod wedi dod "â chymaint o lawenydd i ni yn ei bywyd byr"
"Yn ystod y cyfnod ofnadwy o boenus yma, does dim ateb i'r cwestiwn canolog ynghylch colled ein babi prydferth.
"Pam bod hyn wedi digwydd?
"Rydym yn gobeithio y bydd agor y cwest ac ymdrechion Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi'r wybodaeth sydd ei angen i ateb y cwestiwn.
"Fel teulu rydym yn gobeithio y bydd y broses yn helpu i leihau'r risg o'r fath drychineb yn digwydd i eraill yn y dyfodol."
Cafodd y cwest ei ohirio nes 25 Ionawr, 2024, tra bod ymchwiliad llawn yn parhau.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
Dywedodd llefarydd bod "swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi'r teulu", ac nad oes unrhyw un wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2023