Ysbyty Llwynhelyg: Gosod blodau er cof am ferch fu farw

Mabli Cariad Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mabli Cariad Hall wedi’r gwrthdrawiad ger Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd flwyddyn yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu merch fach wyth mis oed fu farw wedi iddi gael ei tharo gan gar y tu allan i ysbyty yn Sir Benfro, wedi gosod blodau yno er cof amdani flwyddyn wedi’r digwyddiad.

Bu farw Mabli Cariad Hall o'i hanafiadau yn Ysbyty Plant Bryste, bedwar diwrnod wedi’r gwrthdrawiad rhwng car a cherddwyr ger Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Wrth osod blodau i gofio amdani flwyddyn wedi’r digwyddiad, dywedodd ei thad-cu bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un "hir" a "llawn tristwch" i'r teulu.

Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu wedi gosod blodau y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg

Roedd Mabli Cariad Hall yn ei choets pan gafodd ei tharo y tu allan i brif fynedfa Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar 21 Mehefin 2023.

Derbyniodd Heddlu Dyfed Powys alwad frys am wrthdrawiad rhwng car a cherddwyr am 11:50.

Cafodd Mabli ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, cyn cael ei throsglwyddo'n ddiweddarach i Ysbyty Plant Bryste.

Bu farw ar 25 Mehefin, bedwar diwrnod ar ôl y digwyddiad, o anaf difrifol i’w hymennydd.

Dioddefodd gyrrwr y BMW gwyn a’i tarodd anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd.

Cafodd teithiwr arall yn y car a cherddwr arall a darwyd eu rhyddhau o’r ysbyty hefyd.

Cafodd cwest ei agor a’i ohirio fis Gorffennaf y llynedd tra bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mabli ar 25 Mehefin 2023, bedwar diwrnod ar ôl y digwyddiad

Wrth osod blodau y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg ddydd Gwener, union flwyddyn wedi’r gwrthdrawiad, dywedodd tad-cu Mabli, Paul Sambrook: "Dyma’r unig le o’n i’n dymuno bod.

"Mae’n teimlo’n addas iawn i fod yma heddiw i gofio am Mabli ond hefyd i gwrdd ag aelodau o staff yr ysbyty a diolch iddyn nhw unwaith eto am bopeth wnaethon nhw i fod o gymorth i Mabli, a phopeth maen nhw wedi gwneud oddi ar hynny i fod o gymorth i ni fel teulu."

Disgrifiad o’r llun,

Paul Sambrook, tad-cu Mabli

"Ychwanegodd: "Ni 'di bod trwy brofiad creulon iawn. Ni 'di gweld pethau, gwneud pethau o'n i fyth wedi dychmygu gweld na gwneud.

"Mae wedi bod yn flwyddyn hir, yn flwyddyn llawn tristwch, ond ar yr un pryd... mae e hefyd wedi bod yn flwyddyn sydd wedi dangos i ni faint o bobl garedig sydd yn y byd.

"Ry'n ni’n ddiolchgar am bob cymorth a charedigrwydd ni 'di cael wrth gymaint o bobl ac eto mae'n gyfle i ddweud diolch wrth rhai o’r bobl 'ma heddiw ac i'r bobl sydd wedi bod mor garedig a dod â theganau a blodau i’r goeden.

"Mae yna gymysgedd o bethau chwerw ond prydferth hefyd mewn ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Tad Mabli, Rob Hall, yn gosod blodau ddydd Gwener ger lleoliad ei marwolaeth flwyddyn ynghynt

Mae gwasanaeth yn cael ei gynnal y tu fewn i’r ysbyty hefyd ar gyfer y teulu yn gynnar nos Wener.

Fe fydd yn gyfle, yn ôl y Tad Liam Bradley - un o dri chaplan sy'n cymryd rhan - i aelodau o gymuned yr ysbyty gefnogi'r teulu "wrth i'w galar barhau" ac "anrhydeddu'r babi Mabli".

"Yn y 12 mis diwethaf, mae enw Mabli yn codi mewn sgyrsiau 'Y'ch chi'n cofio pan ddigwyddodd hynny? Tybed sut mae'r teulu erbyn hyn?'"

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.

Ychwanegodd: "Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi’r teulu. Does dim arestiadau wedi eu gwneud."

Dywedodd Paul Sambrook, bod yr "heddlu yn gwneud eu hymchwiliadau ac mae’n rhaid i ni barchu’r broses maen nhw’n mynd trwyddo - dyw e ddim yn rywbeth rhwydd i wneud, dwi’n siŵr".

"Mae yna rwystredigaeth, wrth gwrs - mae’n teimlo fel blwyddyn hir a ddim yr atebion i gyd gyda ni, ond yr un pryd, mae’n rhaid i ni fod yn amyneddgar.

"Does dim dewis gyda ni - rhaid i bethau gymryd eu cwrs."

Pynciau cysylltiedig