Arestio dau arall mewn cysylltiad â llofruddiaeth ger Pontypridd

Rhydyfelin
  • Cyhoeddwyd

Mae dau berson arall wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 22 oed yn ardal Pontypridd.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 00:40 fore Mawrth yn dilyn digwyddiad ar Poets Close, Rhydyfelin.

Bu farw Liam Woolford, o Borth yn Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei anafu yn y digwyddiad.

Cafodd dau ddyn arall eu trin yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad, ond maen nhw - dyn 23 oed o Rydyfelin, a dyn 24 oed o Borth - bellach wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae dyn 30 oed o Rydyfelin a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio, a dyn 22 oed o Donteg a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn parhau yn y ddalfa.

Ond, mae menyw 20 oed o Ben-y-graig gafodd ei harestio ar amheuaeth o anafu'n fwriadol wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'n parhau.

Hoffai'r heddlu ddiolch i gymuned Rhydyfelin am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.