Faletau ddim yn nhîm Cymru i'r ail brawf yn erbyn Japan

Mae Taulupe Faletau wedi chwarae 109 o gemau rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Dyw Taulupe Faletau ddim wedi cael ei gynnwys yn nhîm rygbi Cymru i wynebu Japan yn yr ail brawf, ddydd Sadwrn.
Mae absenoldeb Faletau yn ergyd fawr gan mai ef yw chwaraewr mwyaf profiadol Cymru a chafodd ei ganmol yn y gêm gyntaf yn erbyn Japan yr wythnos ddiwethaf.
Daeth Faletau, 34, oddi ar y cae yn ystod ail hanner y golled o 24-19 yn Kitakyushu ar ôl dioddef "crampiau sy'n gysylltiedig â gwres" yn yr amodau poeth.
Bydd Aaron Wainwright yn cymryd ei le fel un o bedwar newid gan y prif hyfforddwr dros dro, Matt Sherratt, a ddywedodd ei fod eisiau "newid pethau ryw ychydig".

Mae Dan Edwards wedi ymddangos dwywaith dros Gymru yn y gorffennol
Bydd y maswr, Dan Edwards, yn cychwyn ei gêm gyntaf rhyngwladol.
Mae Edwards yn cymryd lle Sam Costelow a bydd y prop Archie Griffin yn dechrau, gyda Keiron Assiratti yn gadael y garfan.
Mae Freddie Thomas, chwaraewr i Gaerloyw, yn cymryd lle Ben Carter sydd heb ei gynnwys oherwydd cyfergyd.
Gallai Reuben Morgan-Williams, Keelan Giles a Chris Coleman hefyd ymddangos am y tro cyntaf yn rhyngwladol o'r fainc.
Tîm Cymru
Cymru: Blair Murray; Tom Rogers, Johnny Williams, Ben Thomas, Josh Adams; Dan Edwards, Kieran Hardy; Nicky Smith, Dewi Lake (capten), Archie Griffin, Freddie Thomas, Teddy Williams, Alex Mann, Josh Macleod, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Liam Belcher, Gareth Thomas, Chris Coleman, James Ratti, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Reuben Morgan-Williams, Keelan Giles.
Tîm Japan
Japan: Ichigo Nakakusu; Kippei Ishida, Dylan Riley, Shogo Nakano, Halatoa Vailea; Seungsin Lee, Naito Sato; Yota Kamimori, Mamoru Harada, Keijiro Tamefusa, Epineri Uluiviti, Warner Deans, Michael Leitch (capten), Jack Cornelsen, Faulua Makisi.
Eilyddion: Hayate Era, Sena Kimura, Shuhei Takeuchi, Waisake Raratubua, Ben Gunter, Shinobu Fujiwara, Sam Greene, Kazema Ueda.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.