Tîm rygbi Cymru yn colli 18 o gemau yn olynol

Gorffennodd y gêm gyda sgôr o 24-19 i Japan
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes tîm rygbi Cymru unwaith eto fore Sadwrn i ffwrdd yn erbyn Japan, gyda sgôr o 24-19.
Roedd y golled yn golygu fod Cymru wedi colli 18 gêm yn olynol a heb ennill ers chwarae Georgia yng Nghwpan y Byd 2023 - sydd 21 mis yn ôl.
19-7 i Gymru oedd y sgôr ar yr hanner, yn dilyn ceisiau gan Ben Thomas, Tom Rogers a chais gosb.
Ond Japan gafodd y gair olaf, wrth iddyn nhw reoli'r ail hanner yn llwyr a cheisiadau i Matsunaga, Nakakusu a Vailea.

Tom Rogers o Gymru wnaeth sgorio trydydd cais y tîm
Cafodd Ben Carter, blaenwr i Gymru, anaf i'w ben ym munud cyntaf y gêm a chael ei gario i ffwrdd o'r cae.
Roedd Cymru yn edrych yn gyfforddus ar y cae yn yr hanner cyntaf, ond roedd y ddau dîm yn gwneud camgymeriadau - dim ond 80 tacl gafodd eu cwblhau i gyd.
Dirywio gwnaeth y chwarae wrth i'r hanner agosáu, gyda Chymru yn rhedeg allan o syniadau.
Cafodd Japan fwy o ryddid yn yr ail hanner i chwarae, gan gosbi Cymru.
Roedd hi'n anodd i Gymru ail gydio yn y gêm ac roedd y diffyg strwythur yn golygu na wnaethon nhw sgorio pwynt yn yr hanner cyfan.
Gorffennodd y gêm gyda sgôr o 24-19 i Japan.

Japan: Takuro Matsunaga; Kippei Ishida, Dylan Riley, Shogo Nakano, Malo Tuitama; Seungsin Lee, Shinobu Fujiwara; Yota Kamimori, Mamoru Harada, Shuhei Takeuchi, Epineri Uluiviti, Warner Deans, Michael Leitch, Jack Cornelsen, Amato Fakatava.
Y fainc: Hayate Era, Sena Kimura, Keijiro Tamefusa, Waisake Raratubua, Ben Gunter, Shuntaro Kitamura, Ichigo Nakakusu, Halatoa Vailea.
Cymru: Blair Murray; Tom Rogers, Johnny Williams, Ben Thomas, Josh Adams; Sam Costelow, Kieran Hardy; Nicky Smith, Dewi Lake, Keiron Assiratti, Ben Carter, Teddy Williams, Alex Mann, Josh Macleod, Taulupe Faletau.
Y fainc: Liam Belcher, Gareth Thomas, Archie Griffin, James Ratti, Aaron Wainwright, Tommy Reffell, Rhodri Williams, Joe Roberts.
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.