Richard Rees: 'Mae atal dweud yn rhan ohona i'
- Cyhoeddwyd
Yn atal dweud ers yn bedair mlwydd oed ac yn dal i wneud yn ddyddiol heddiw, mae'r cyflwynydd radio Richard Rees wedi dysgu sut i fyw gyda'r cyflwr a llwyddo fel darlledwr i'r graddau ei fod yn dathlu 50 mlynedd o ddarlledu y penwythnos yma.
Bu Richard yn siarad gyda Cymru Fyw am y technegau mae'n defnyddio er mwyn byw a darlledu gyda'r cyflwr.
Dyddiau cynnar
Dechreuodd yr atal dweud pan o'n i'n bedair mlwydd oed. S'ym syniad gyda fi beth oedd wedi achosi fe ond fe ddechreuodd e bryd hynny a fuodd e'n eitha' gwael 'da fi trwy'r ysgol tan o'n i rhyw 15 oed. Am gyfnodau hir oedd pobl ffaelu deall gair o'n i'n gweud ond yna dechreuodd e leddfu tipyn.
Ffeindiais i mas yn gynnar iawn bod e'n help mawr i gael pobl i chwerthin gyda ti yn hytrach na amdano ti. O'n i'n neud yn ysgafn o'r peth i'n hunan ac oedd pobl eraill yn chwerthin gyda fi.
Ges i speech therapy yn yr ysgol ond oedd e'n hoples. Se i'n credu bydden i 'di gallu bod mewn drama ysgol hyd yn oed.
Mae 'na un stori 'da fi am athro gyrfaoedd yn yr ysgol. Pan o'n i'n 15 oed dyma fi'n cael cyfweliad gyda fe a dywedais i mod i'n ffansio'r busnes darlledu 'ma fel gyrfa...
'Nath e edrych arna'i a dweud, 'now listen Richard, we're all aware of your little problem so can I suggest that for your sake and for other people's sakes, that you take a job in a bank where you wouldn't have too much contact with people and it wouldn't be too embarrassing for you or them.'
Oedd e'n amlwg ddim wedi gweld fy nghanlyniadau maths i neu bydde fe byth wedi awgrymu mod i'n gweithio mewn banc! 'Na'r fath o agwedd oe't ti'n cael.
Hwb
Yn lwcus dwi'r math o gymeriad, os wyt ti'n dweud wrtha'i bod fi ffaelu gwneud rhywbeth, dwi'n mynd yn fwy penderfynol mod i'n mynd i neud e.
Pan o'n i'n 15 dechreuais i neud disgos gyda mobile disco a dyna pwy ddaeth ar fy nhraws i oedd y cyflwynydd Sulwyn Thomas.
Darlledu
O ganlyniad pan ddechreuodd Radio Glangwili ges i gynnig slot a dyna le ddysgais i - am ryw reswm os o'n i o flaen meicroffon neu gamera dwi ddim yn atal.
Dwi'n ffyddiog bod atal yn lot fawr i neud efo amseru achos mae unrhyw un sy'n atal yn gallu adrodd neu canu heb unrhyw atal o gwbl. Pan chi'n darlledu'n fyw, mae rhywbeth yn dy ben sy'n arafu ti i lawr. Ac mae hynny fel arfer yn ddigon.
Ymdopi
Oedd ffyrdd 'da fi rownd pethau. Os o'n i mewn cyfarfod ac wedi atal yn wael o'n i'n stopio a dweud 'esgusodwch fi, dwi'n atal. Peidiwch â mynd yn bell, fydd e werth clywed pan ddeith e mas.'
Mae e'n ran annatod o dy gymeriad di. Bydden i ddim yn fi onibai bod fi'n atal.
O'n i 'di bod 'da radio masnachol ers tair mlynedd wedyn dechreuais i gyda'r BBC ar y radio ac o'n i'n siŵr bod peidio atal yn rhywbeth i neud 'da gwisgo headphones. Ond yn 1977 ges i gyfle i gyflwyno Eisteddfod yr Urdd yn fyw yn Saesneg o'r Bari ar y teledu ac oedd rhaid tynnu'r headphones.
O'n i'n eistedd fan 'na yn edrych ar gamera teledu byw am y tro cynta' a ddim yn gwybod beth ddigwyddai pan fydden i'n agor fy ngheg.
Trwy lwc daeth y geiriau mas yn iawn ac mae wedi bod yn iawn ers hynny.
Technegau
Mae 'na wahanol ffyrdd o reoli fe. Mae aeddfedu yn lot ohono fe. Mae ffeindio mas technegau dy hunan yn gweithio hefyd.
Un techneg dwi wedi datblygu fy hunan yw tapio bys, yn enwedig os dwi wedi blino neu'n sâl. Beth ti'n neud yn y bôn yw creu metronom i dy unan ac er falle bod ti'n siarad yn ara' deg mae'n dy bwyllo ti digon i gael rheolaeth.
Y peth mwya' rhwystredig pan ddechreuais i ar y radio oedd o'n i'n gwybod yn iawn beth o'n i ishe dweud – y drafferth yw yn aml o'n i ddim yn siŵr os fydden i'n gallu dweud e.
Ti'n datblygu rhyw strategaeth o siarad rownd pethau achos ti'n meddwl fod y gair 'na'n mynd i ddala ti. Oedd e'n rhwystredig bod ti ddim mor rhugl ag allet ti fod. Mae 'na ambell i air dwi'n cael trafferth gyda o hyd, er enghraifft Eryri.
Siarad yn agored
Dwi wedi bod yn onest am y cyflwr 'da pobl erioed.
Alli di fynd dau ffordd - naill ai derbyn e, dod i dermau gyda fe a chario ymlaen – neu alli di fynd yn fewnblyg ac yn embarrassed a'n swil. Ac mae hynny'n dod â phob math o broblemau.
Dwi yn atal weithiau ar yr awyr – erbyn hyn fy ymateb i yw so what, fel 'na ydw i, mae'n ran ohona i. Dwi ddim ishe cael fy niffinio gan yr atal ond ar y llaw arall mae'n ran ohono ti, ran o dy gymeriad di ac mae'n ran o dy yrfa di ac mae'n rhaid i ti ffeindio dy ffordd di o ddelio gyda fe.
Un o'r pethau anoddaf pan ddechreuais i yn y BBC oedd y ffôn. Oeddet ti'n ffonio rhywun lan a dim cyswllt wyneb yn wyneb ac yn aml iawn byddet ti'n atal. Yn aml oeddet ti'n cael rhyw ymateb stunned ochr arall – beth ti'n trio dweud?
Mae'r ffôn i rywun sy'n atal yn gallu bod yn rial broblem.
Mae pobl eraill yn cael hyder ynddo ti yn help. Y ffaith fod rhywun fel Gareth Price (cyn pennaeth rhaglenni BBC) a Sulwyn Thomas 'na yn rhoi ffydd ynddo ti. Oedd digon o ddewis gyda nhw – oedd ddim rhaid iddi nhw gael rhywun oedd yn atal.
Dwi ddim yn defnyddio y tapio bys lot mwyach – y tro diwethaf o'n i ar y teledu ac o'n i' wedi blino ac yn sâl, o'n i'n gwybod mod i'n mynd i atal. O ddydd i ddydd dyw darlledu byw ddim yn broblem - mae'n lle le dwi'n teimlo'n hollol gartrefol, sy'n beth lwcus.
Dwi'n atal bob dydd o hyd a gartre all fy nheulu fynd am ddiwrnod cyfan heb ddeall gair dwi'n dweud. Yn aml bydd rhaid iddyn nhw aros i fi stopio atal er mwyn dweud beth dwi angen dweud.
Ond dwi ddim hanner cynddrwg nawr â beth o'n i pan o'n i'n 15 oed.
Dwi wedi bod yn lwcus.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2021