Tŷ Ffit: 'Yr her go iawn' yn cychwyn rŵan

Gwawr Job-Davies
- Cyhoeddwyd
"Y peth mawr ac anoddaf oedd gweithio drwy'r ochr seicolegol a deall pam o'n i wedi cyrraedd lle yr oeddwn i. A theimlo bod o ddim yn hunanol i edrych ar ôl fy hun a bod o'n neud lles i bawb o'n cwmpas i."
Fel un o'r pump unigolyn gafodd gyfle i drawsnewid eu bywydau ar Tŷ Ffit eleni, mae Gwawr Job-Davies yn dweud mai newid ei meddylfryd oedd y sialens a'r cyflawniad pennaf.
Ac wrth i'r pump ddychwelyd i'w bywydau bob dydd, nawr mae'r her yn cychwyn wrth iddynt geisio parhau gyda'r hyn maent wedi ei ddysgu – ond heb help y mentoriaid ar y gyfres S4C.
Mae'r ffisiotherapydd o Hen Golwyn yn cydnabod hynny mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw am ei phrofiad: "Dyna lle mae'r her go iawn yn dechrau ydy mynd yn ôl i bywyd go iawn – oedd y gyfres yn ffantastig ac yn gyfle mor dda i fod yn ran ohono fo.
"Mae'n anodd mewn rhaglen awr yr wythnos i ddal bob dim 'da ni 'di gael allan o'r profiad hefyd – oedd o mwy anhygoel i ni fel y pump o ni oedd yn ran ohono."
Mae'r gyfres yn defnyddio maethydd a mentoriaid yn ogystal a meddyg i helpu'r grŵp i wella eu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Meddai Gwawr: "Dwi ddim yn meddwl bod o'n exaggeration i ddweud fod o'n newid bywyd o ran sut mae wedi newid meddylfryd fi a sut dwi'n mynd ati mewn bywyd rŵan.
"O'n i'n andros o nerfus ar y penwythnos cyntaf ond o hynny mlaen prin o'n i'n gallu stopio gwenu achos o'n i'n teimlo cymaint o wahaniaeth oedd o'n wneud.
"Dwi wedi dysgu gymaint amdana fi fy hun, am sut i ymdopi yn well mewn bywyd so mae wedi bod yn anhygoel."

Criw Tŷ Ffit
Gorbryder
Cyn y gyfres roedd Gwawr yn beirniadu ei hun yn hallt, meddai, ac wedi cychwyn osgoi mynd allan: "Fel plentyn ac yn tyfu fyny dwi wastad wedi bod eitha' anturus ond wedyn mae bywyd yn digwydd ac o'n i 'di cyrraedd pwynt lle oedd y gorbryder a'r pwysau o'n i'n roi ar fy hun i fod yn bopeth i bawb yn andros o lot.
"Un o'r pethau mawr drwy'r profiad oedd deall sut o'n i wedi cyrraedd y pwynt o fod fel oeddwn i – deall pam bod fi yn meddwl y ffordd ydw i a gallu tynnu hwnna ar wahân ac ailadeiladu fo.
"O'n i'n berson caled iawn arna fi fy hun yn mynd i mewn – byddwn i fyny yn oriau mân y bore yn ailfeddwl sgyrsiau a phenderfyniadau."
'Tri peth positif'
Ond roedd sgwrs gyda'i mentor Naomi Allsworth wedi bod yn drobwynt, meddai: "'Nath o neud gwahaniaeth mawr i fi – 'nath hi roi her i fi bod fi'n ysgrifennu tri peth positif ar bapur bob nos.
"I ddechrau efo roedd o'n anodd meddwl am tri peth ond o fewn wythnos o'n i'n ysgrifennu 10 peth positif a bron iawn methu stopio. Mae jest yn newid y meddylfryd 'na i fod yn herio'r naratif negyddol sy' yn fy mhen i i fod yn fwy positif.
"A hefyd deall bod lot o'r rhwystrau oedd gen i – fi oedd yn gosod y rhwystrau yna. Unwaith o'n i'n tynnu'r naratif negyddol i ffwrdd oedd o fel bod fy myd i yn agor i fyny yn llwyr. Ac mae 'na gymaint o bosibilrwydd mewn bywyd yn does a gweld y gorau mewn bywyd a fi fy hun.
"Felly, dyna ydy'r gwahaniaeth mawr o ran newid meddylfryd."
Iechyd corfforol
Gyda help y maethegydd Angharad Griffiths roedd y pump yn dilyn cynllun bwyta'n iach.
Meddai Gwawr: "Mae hwnna 'di bod yn newid mawr hefyd. Rŵan dwi'n bwyta mwy nag oeddwn i ond yn bwyta mwy rheolaidd a bwyta digon o protin – dim sgipio prydiau.
"Mae'n golygu mod i ddim yn cyrraedd y pwynt starvation. Mae'n egni i mwy cyson drwy'r dydd. 'Nath o synnu fi hefyd gymaint oedd deiet yn gallu cael impact ar lefelau fitamin D a B12.
"Dwi wirioneddol yn teimlo fel person gwahanol efo faint mwy o egni sy' gynnai a'n teimlo mwy cryf a dyw o ddim yn teimlo fel bod fi ar deiet. Dwi wedi colli bron iawn dwy stôn a hanner. A dyw o ddim wedi bod yn waith caled.
"Mae'r pwysau dal yn dod i ffwrdd ond dwi ddim yn trio colli pwysau, jest rhoi maeth i'n nghorff a mwynhau bwyd. Un peth mae Angharad yn dda iawn am neud ydy neud yn siŵr bod ni ddim yn peidio cael pethau. Mae'r ffaith bod ni'n cael ychydig bach o beth ni'n caru o ran bwyd yn lles mawr."
Ers i'r gyfres orffen mae Gwawr wedi cymryd rhan yn ras nofio Llyn Padarn ac wedi cychwyn hyfforddiant paragleidio.
Meddai: "Dwi wedi cael y byg yn ôl o ran ymarfer corff a bod yn actif a bod mewn natur.
"Dwi yn rhywun sy'n mynd amdani ac mae hwn wedi rhoi caniatâd i fi i fynd amdani. Jest gwna fo rŵan."

Yno i gefnogi wrth i Gwawr nofio yn ras Llyn Padarn
Teulu
Mae plant a gwraig Gwawr, Catrin, wedi bod yn gefn mawr iddi, meddai: "O ran y plant maen nhw wrth ei bodd achos mae gynnai gymaint mwy o egni.
"Dwi'n cymryd mwy o amser i fi fy hun rŵan. Mae o'n gwneud lles iddi nhw – maen nhw'n gallu gweld bod fi'n blaenoriaethu fy iechyd a lles fy hun so dwi'n rhoi esiampl iddi nhw.
"Mae hwnna wedi bod yn rhywbeth o'n i ddim yn disgwyl. Ac mae clywed y plant yn dweud 'ti'n ffit so dwi isho bod yn ffit' yn gwneud i fi deimlo'n prowd.
"Mae Catrin hefyd wedi bod yn ffantastig – mae hi wedi gweld y newid mwya' achos hi sy' 'di bod nesa ata i yn y gwely pan dwi'n poeni yn y nos."

Criw Tŷ Ffit
'Teulu newydd'
Mae'r grŵp o bump oedd ar y gyfres mewn cysylltiad yn rheolaidd ac yn cefnogi ei gilydd wrth iddynt ddychwelyd i'w teuluoedd a bywyd bob dydd, yn ôl Gwawr: "Mae hwnna'n rili bwysig achos y pump o ni sy'n deall beth 'da ni wedi bod drwy. Oedd 'na lot o amser yn y tŷ pan oedd y camerâu i ffwrdd ac oeddan ni'n gallu rhannu bach yn ddyfnach.
"Dwi'n meddwl bod ni'n deall ein gilydd ac yn teimlo mod i'n gallu bod 100% fy hun efo'r pedwar arall.
"Teulu bach newydd sy' gynnon ni rŵan. 'Da ni yn rhoi hwb i'n gilydd ac mae'r ffaith bod ni'n gallu bod mor agored – 'da ni'n gallu cynghori ein gilydd a gwthio ein hunain ymlaen."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021