Sut fydd Vaughan Gething yn cael ei gofio yn y Senedd?

Vaughan Gething yn sefyll o flaen y SeneddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn Brif Weinidog, Vaughan Gething wedi dweud na fydd yn sefyll yn etholiad Senedd Cymru yn 2026

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Vaughan Gething greu hanes pan gafodd ei ethol, fel arweinydd du cyntaf gwledydd Ewrop.

Ond byr oedd ei deyrnasiad, ac i lawer nid dyna sut fydd yn cael ei gofio.

Yn hytrach, roedd ffrae dros y rhodd ariannol i'r ymgyrch a'r negeseuon testun gafodd eu rhyddhau i'r wasg yn gysgod dros ei gyfnod byr wrth y llyw.

Dyw ei ddatganiad ddim yn cyfeirio at y problemau wnaeth arwain at ei ymddiswyddiad fel prif weinidog, ond mae'r drwgdeimlad a'r dadlau mewnol ynglyn â'i arweinyddiaeth wedi gadael creithiau dwfn yn y blaid Lafur ac yn sicr yn ffactor yn ei benderfyniad i beidio â sefyll yn yr etholiad nesaf.

Byddai wedi bod yn anodd iddo ddychwelyd i rôl blaenllaw o fewn y llywodraeth mor fuan ar ôl ymddiswyddo.

Yn sicr mae ei benderfyniad yn gwneud pethau rhywfaint yn haws i’w olynydd Eluned Morgan, gyda’r disgwyl y bydd hi’n penodi cabinet newydd yr wythnos hon.

Ond dyw hi ddim yn hawdd bod yn gyn-brif weinidog sy'n gwylio o'r meinciau cefn, yn enwedig os nad eich dewis chi oedd gwneud hynny.

Ac felly heb rôl blaenllaw, beth fyddai pwrpas cario ymlaen?

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Mr Gething dan bwysau oherwydd rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid, ac am ddiswyddo un o'i weinidogion

Mae'r rheiny sy'n adnabod Vaughan Gething ers blynyddoedd yn dweud ei fod wastad wedi bod yn uchelgeisiol, a mae hynny i'w weld yn ei yrfa hyd yn hyn.

O fod yn lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, yn ymgyrchydd dros ddatganoli, cynghorydd yn Nhre-biwt, ac yna yn aelod o'r Senedd - ble ddaeth yn wyneb cyfarwydd fel y gweinidog iechyd ar ddechrau'r pandemig.

Y cam naturiol nesaf iddo, oedd arwain ei wlad, ond er gwaethaf ei uchelgais chafodd o ddim y cyfle i gyflawni'r hyn yr oedd eisiau ei wneud fel prif weinidog.

Ond mae wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth Cymru ers dros 30 mlynedd, felly mae'n anodd dychmygu Vaughan Gething yn troi ei gefn yn llwyr ar y byd gwleidyddol.

Ac mae'n glir o'i ddatganiad ei fod yn credu bod ganddo dal rôl i'w chwarae ym mywyd cyhoeddus Cymru, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at weithio ar faterion yn ymwneud â "chyfiawnder cymdeithasol".

Da' ni ddim yn gwybod eto os y bydd yn cael ei alw’n ôl i roi tystiolaeth pellach i’r ymchwilaid Covid am ei negesueon testun.

Ond mae un peth yn sicr, mi fydd o’n parhau i fod yn ffigwr blaenllaw, fydd yn hawlio sylw.