Croeso mawr i uned ganser newydd Ysbyty Bronglais

Dyn mewn dillad tywyll gyda sbectol yn gwisgo bag ar ei gefn.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Jeremy Turner yn derbyn triniaeth cemotherapi yn yr uned newydd o hyn allan

  • Cyhoeddwyd

Bydd y cleifion cyntaf yn cyrraedd Uned Leri, sef uned ganser newydd Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ddydd Llun.

Mae'n gynllun gwerth £3 miliwn sydd wedi'i ariannu'n bennaf drwy incwm elusennol gan gymunedau lleol.

O fewn 10 mis, fe gafodd y targed ariannol ei gyrraedd ar gyfer agor yr uned a hynny thrwy gerdded, beicio, dawnsio a llawer iawn mwy.

Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais gan Elusennau Iechyd Hywel Dda yn 2021 i godi'r £500,000 olaf a oedd ei angen er mwyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

Arwydd o wardiau ac unedau gwahanol yn Ysbyty Bronglais
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Uned Leri ar agor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn ar gyfer yr agoriad swyddogol

Mae uned cemotherapi wedi bod yn Ysbyty Bronglais ers 30 mlynedd ond dyma'r tro cyntaf i'r ysbyty gael uned arbenigol bwrpasol.

Mae Jeremy Turner yn derbyn triniaeth gemotherapi yn Ysbyty Bronglais ar hyn o bryd ac yn cael "gofal a gwasanaeth ffantastig".

"Mae'r uned wedi bod mewn rhyw fath o garafan gydag adnoddau cyfyngedig i'r staff, mae'n iawn i ni fel cleifion sy'n cael ystafell arall," meddai.

"Dwi'n edrych ymlaen i weld y staff yn cael lle pwrpasol ac mae'n hynod o bwysig i ganolbarth Cymru bod adnoddau fel hyn ar gael yma.

"Heb law am yr uned, byddai pobol yn gorfod teithio milltiroedd. Mae'n bwysig i gefn gwlad.

"Mae'n gyfleus iawn i fi, sydd yn byw byw munud i ffwrdd. Dwi'n gallu cerdded yno ac adre, os yw'r cemotherapi wedi bod yn iawn. Dyw e ddim yn hwylus os chi'n byw yn bellach.

"Mae'r ffaith bod e'n digwydd ac ar gael yn lleol i ni gleifion yn glod i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn glod i sut mae'r GIG yn gweithredu yng Nghymru."

Mae Mr Turner hefyd yn cerdded 100 milltir trwy gydol mis Mai i godi arian i elusen Marie Curie UK.

"Mae yna bryder o hyd bod adrannau yn cael eu cau a bod llai o adnoddau ar gael ym Mronglais, ond mae'n ofnadwy o bryderus i ni fel cleifion.

"Mae'n bwysig bod Bronglais fel ysbyty yn dal yma a bod uned fel hyn gyda adnoddau da yn aros."

Dr Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr oncolegydd Dr Elin Jones yn gweithio yn yr uned newydd

Un fydd yn gweithio yn yr uned newydd yw Dr Elin Jones, sydd wedi bod yn gweithio yn yr uned oncoleg ers 2004.

"Y peth mwya' pwysig gyda'r datblygiad yw y bydd dau le a bydd y cleifion allanol ar wahân," meddai.

"Ond hefyd byddan nhw'n gallu cwrdd yn y canol mewn llefydd bach lle ni wedi rhoi cadeiriau cyfforddus i berthnasau ddod i sgwrsio a rhoi y gofal i'w gilydd wrth wneud hynny," meddai.

"Mewn oncoleg mae'n braf iawn gallu dweud bod y driniaeth ni'n gallu rhoi nawr gymaint fwy effeithiol nag oedd e 10 mlynedd yn ôl - mae wedi newid bywyd pobl yn y 15 mlynedd diwethaf.

"Mae rhai o'r triniaethau yna yn cael eu rhoi i bobl lle nad ydyn ni'n gallu gwaredu eu canser nhw, ond wrth roi y driniaeth yna mae nhw'n gallu byw efo'u canser ac mae'r trinaieth yna yn gallu mynd ymlaen am flynyddoedd.

"Felly mae 'na garfan newydd o gleifion sy'n mynd i allu byw gyda'u canser nawr lle 10 i 15 mlynedd yn ôl bydde ni wedi colli nhw."

Adeilad ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Disgrifiad o’r llun,

Mae diogelu uned ganser i'r canolbarth yn 'hollbwysig' yn ôl cleifion

Fe ddywedodd Peter Skitt sef Cyfarwyddwr Prosiect a Chyfarwyddwr Gwasanaeth Grŵp Gofal Clinigol ar gyfer Meddygaeth Gymunedol ac Integredig, ei fod yn "ddiolchgar" gan "nodi cyflawniad aruthrol ein cymuned".

"Mae'r cyfleuster hwn yn dyst i gefnogaeth ac ymroddiad anhygoel ein trigolion lleol, y mae eu hymdrechion wedi gwireddu hyn. Ni allwn aros i'w rannu â'r rhai a'i gwnaeth yn bosibl."

Dechreuodd y gwaith o ailbwrpasu'r hen gyfleuster ym Mai 2024 er mwyn darparu "amgylchedd a gofal modern a chroesawgar" i gleifion.

Mae'r adnewyddiadau'n cynnwys ardal driniaeth fwy sydd yn bwrpasol i gleifion, gan gynnwys cyfleuster ynysu, ynghyd â derbynfa, mannau cleifion allanol ac aros ,ac ystafelloedd ymgynghori ac archwilio.

Mae Uned Leri yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Sadwrn ac ymhith y rhai sydd wedi'u gwahodd mae pobl o'r gymuned.