'Rhaid ymladd' i gadw gwasanaethau Ysbyty Bronglais

Arwydd Ysbyty Bronglais
  • Cyhoeddwyd

Cynyddu mae'r gofid yn y canolbarth ynglŷn â dyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Bydd ymgyrchwyr o Grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais yn cwrdd am y tro cyntaf nos Wener i drafod pryderon am ddyfodol y ward strôc acíwt.

Daw rhai misoedd ar ôl i Ward Angharad, sef ward plant yr ysbyty, gael ei lleihau. Cam sydd, yn ôl y bwrdd iechyd, yn benderfyniad dros dro.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd ymgynghoriad ar y cynllun ym mis Mai gyda "gwella ansawdd gwasanaethau" wrth wraidd unrhyw newid posib.

Beth yw'r cynlluniau?

O dan Gynllun Gwasanaethau Clinigol y bwrdd iechyd mae pedwar opsiwn ar gyfer sut y gellid darparu gwasanaethau i gleifion strôc yn ardal Hywel Dda yn y dyfodol.

O dan yr holl opsiynau, byddai Bronglais yn Aberystwyth, ynghyd ag Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, yn ysbytai 'trin a throsglwyddo'.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn cyfarfod ym mis Tachwedd eu bod yn rhagweld mwy o wasanaethau yn cael eu darparu "ar sail rhwydwaith", ac y gallai hyn arwain at "fwy o gleifion yn teithio i safleoedd yn ne y sir".

Byddai bwrw ymlaen gyda chynllun y bwrdd iechyd yn golygu bod cleifion yn cael eu hasesu ym Mronglais ac yn cael triniaeth gychwynnol cyn cael eu cludo i ysbyty arall i dderbyn gofal "arbenigol".

Gallai triniaeth gychwynnol gynnwys thrombolysis, sef cyffuriau chwalu clotiau sy'n gwella cyfraddau goroesi, ond byddai unrhyw ofal adsefydlu fel ffisiotherapi yn cael ei ddarparu mewn ysbytai yn ne Ceredigion.

Tegwyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tegwyn Evans ofal ym Mronglais ar ôl dwy strôc yn 2019

Byddai mynd i ysbytai yn Llanelli neu Hwlffordd yn golygu dros 60 milltir yn fwy o deithio i gleifion fel Tegwyn Evans, a gafodd ddwy strôc ym Mehefin 2019.

Mae ei ferch Meinir yn disgrifio'r daith fer o Bow Street i Aberystwyth fel "y siwrne waethaf erioed".

Ychwanegodd: "Gella i ddychmygu yn iawn [gorfod teithio yn bellach] ac bydde ni wedi blino yn gorfforol ac yn feddyliol. Roedd y siwrne y bore yna [pan gafodd Dad y strôc] y siwrne waethaf erioed.

"Wrth fynd o un pen yr hewl i'r llall, doeddwn i ddim yn gwybod os oeddwn i'n mynd neu'n dod, a meddwl am beth oedd yn ein disgwyl ni oedd y gwaethaf.

Meinir Evans
Disgrifiad o’r llun,

Byddai teithio ymhellach na Bronglais am driniaeth wedi bod yn "waeth byth", meddai Meinir

"Os bydde ni wedi gorfod mynd lawr i Glangwili neu i Prince Phillip yn Llanelli bydde fe wedi bod yn waeth byth.

"Bydde'r siwrne wedi bod yn awr a hanner i ddwy awr a bydde ni ddim wedi gallu neud e.

"Bydde teithio bob dydd i ymweld, gyda'r oriau ymweld yn gyfyngedig, bydde fe ddim wedi bod yn rhwydd."

Torri gwasanaethau 'yn dawel bach'

Mae Lisa Francis yn aelod o Grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais ac mae'n poeni bod gwasanaethau yn yr ysbyty yn cael eu symud yn bellach i ffwrdd yn "dawel bach".

Lisa Francis
Disgrifiad o’r llun,

Yng nghanol y canolbarth, mae Bronglais yn bwysig i lawer, meddai Lisa Francis

Dywedodd: "Rydyn ni'n poeni am israddio gwasanaethau, ni'n gweld ansicrwydd gyda'r staff sydd ddim yn gwybod yn iawn beth sy'n digwydd.

"Mae Bronglais yn bwysig i ni gyd, os ydych chi'n edrych ar y map, Bronglais yw canol y canolbarth ac mae'n bwysig ein bod yn rampio gwasanaethau i fyny."

Mae'r pellter hyd yn oed yn fwy i bobl mewn rhannau o Bowys a de Gwynedd sydd hefyd yn defnyddio'r ysbyty yn Aberystwyth.

Yn byw ym Machynlleth, mae Sarah Jones yn "ofni" am yr effaith ar gleifion ym Mhowys: "Dwi'n ofni, yn yr oedran ydyn ni rŵan, lle byddwn ni'n gorfod mynd i gael triniaeth.

"Mae'n rhaid ymladd i gadw'r gwasanaethau ym Mronglais, maen lifeline i ni fan hyn."

Sarah Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Jones yn "ofni" am yr effaith ar gleifion

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu problemau ariannol digynsail gyda'r angen i wneud arbedion gwerth £64m ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

Er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi gorfod cyfyngu ei ddiffyg misol i ddim mwy na £5.3m.

Er yn cydnabod y pwysau ariannol fe ddywedodd yr Athro Philip Kloer, sef Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mai gwella ansawdd gwasanaethau sydd yn gyrru unrhyw newidiadau posib.

"Mae'r holl newidiadau hyn yn cael eu llywio'n glinigol ac yr ysgogiad yw cynyddu ansawdd a diogelwch. Felly, bydd unrhyw gynigion ynghylch y gwasanaethau yn yr ychydig fisoedd nesaf yn cael ffocws clinigol.

"Mae Bronglais yn hynod bwysig i boblogaeth canolbarth Cymru. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny, ac mae'n mynd i gael rôl hynod bwysig yn y dyfodol ar gyfer amrywiaeth eang o wasanaethau.

"Ar gyfer canolbarth Cymru, gwyddom mai dyma'r unig ysbyty am filltiroedd o gwmpas felly rydym yn cydnabod hynny, a byddwn yn ceisio gwneud y gwasanaethau hynny hyd yn oed yn fwy diogel, o ansawdd hyd yn oed uwch."