Apêl i wella uned cemotherapi yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
ysbyty BronglaisFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen gwella'r adnoddau cemotherapi presennol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth,' medd elusennau

Mae apêl wedi cael ei lansio i gasglu hanner miliwn o bunnau ar gyfer uned cemotherapi newydd yng nghanolbarth Cymru.

Yn ôl elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy'n arwain yr apêl, mae angen gwella'r adnoddau cemotherapi presennol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Ar hyn o bryd mae'r uned mewn ystafell agored sy'n cael ei rhannu gyda gwasanaethau eraill, a dyw'r lleoliad ddim yn addas i gleifion drafod agweddau personol o'r gofal maen nhw'n ei dderbyn.

Cost y prosiect ydi £2.2m ac mae £1.7m eisoes wedi cael ei gasglu gan roddion sylweddol gan drigolion lleol a phobl sydd â chysylltiad â'r ysbyty.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyfrannu £364,000 o'u cronfa cyfalaf dewisol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynlluniau ar gyfer yr uned newydd yn cynnig mwy o breifatrwydd i gleifion drafod eu triniaethau

Yn ôl y bwrdd iechyd mae'r gwasanaeth iechyd yn ariannu costau gweithredol triniaethau cemotherapi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Rydym wedi derbyn rhoddion ariannol sylweddol iawn fydd yn ein galluogi i gael uned cemotherapi bwrpasol sydd yn gwella profiad ac amgylchedd cleifion.

"Rydym fel bwrdd iechyd yn cefnogi'r cynllun yma ac wedi cyfrannu £364,461 o'n cronfa cyfalaf dewisol."

Er mwyn i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Chwefror 2023, mae elusennau'r bwrdd iechyd wedi lansio ymgyrch i geisio casglu'r £500,000 sydd yn weddill i allu cyrraedd y targed o £2.2m.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Hywel Dda, bod y gymuned yn gefnogol iawn

Yn ôl Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Hywel Dda, mae'r targed yn "uchelgeisiol iawn".

Ychwanegodd: "Ond rydym yn gwybod o brofiad pa mor gefnogol a gweithgar mae'r gymuned wedi bod yn y gorffennol, ac rydym yn hyderus y gallwn gyrraedd y targed ac y bydd uned bwrpasol yn cael ei hadeiladu i wasanaethu pobl canolbarth Cymru."

O fewn mis i ddechrau'r ymgyrch, mae £15,000 wedi cael ei gasglu yn barod.

'Heriau i dimau casglu arian ar hyd y wlad'

Yn ôl Ms Harpwood, mae yna bryder y bydd hi'n anodd trefnu digwyddiadau mawr yn sgil y pandemig.

Dywedodd: "Does dim dwywaith fod Covid wedi creu nifer o heriau i'r timau casglu arian ar hyd a lled y wlad - ond rydym wedi addasu a threfnu digwyddiadau ar-lein.

"Mae'r ymateb wedi bod yn dda iawn gyda nifer o bobl yn gwneud gweithgareddau ar-lein," ychwanegodd.

"Wrth i bethau ddechrau gwella, y gobaith yw y bydd mwy o ddigwyddiadau cyhoeddus a digwyddiadau tu allan yn gallu cael eu cynnal yn 2022 ac y bydd yna fwy o normalrwydd o ran ffyrdd o gasglu arian."

Disgrifiad o’r llun,

Cynlluniau artist o uned cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda nid yw'n "dibynnu yn unig ar roddion gan y gymuned ac unigolion" ac mae'n "edrych ar ffynonellau eraill" fel trefnu digwyddiadau, ceisio am grantiau gan sefydliadau ac ymddiriedolaethau a gofyn am gefnogaeth gan fudiadau.

Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn cael triniaeth canser yn Ysbyty Bronglais, gyda chyfanswm o 300 o bobl y flwyddyn yn ardaloedd Ceredigion, De Gwynedd a Gogledd Powys.

Disgrifiad o’r llun,

'Bydd yr uned newydd yn cynnig preifatrwydd,' medd Rhian Jones sy'n nyrs yn uned cemotherapi Ysbyty Bronglais

Yn ôl un o'r nyrsys, Rhian Jones, mae'r uned cemotherapi wedi bod yn Ysbyty Bronglais ers 30 mlynedd ond does yna ddim uned arbenigol bwrpasol.

Dywedodd: "Y broblem ydi, bod y gwasanaeth yn cael ei redeg mewn uned agored, lle does gan gleifion ddim llawer o ofod i allu trafod eu materion personol a'u cyflwr iechyd yn breifat - maent yn aml iawn yn gorfod gwneud hynny yng ngwydd cleifion sydd o'u cwmpas.

"Y gobaith ydi y bydd yr uned newydd yn fan cyfforddus i gleifion ac yn sicrhau fod ganddyn nhw breifatrwydd ac urddas.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arwyn Davies driniaeth yn yr uned cemotharpi, a dywedodd bod wir angen un newydd

Mi gafodd Arwyn Davies driniaeth am ganser y coluddyn dair blynedd yn ôl gan gynnwys triniaeth cemotherapi yn yr uned bresennol.

Mae bellach yn well ac yn canmol safon y gofal, ond yn nodi bod wir angen yr uned newydd.

Dywedodd: "Roeddech chi'n gallu gweld o'r dechre eu bod yn trio eu gorau i weithio yn yr uned bwrpasol - ond roedd hi'n uned agored iawn oedd yn cael ei rhannu gyda nifer o wasanaethau gwahanol gyda phobl yn cerdded mewn ac allan, ac ar brydiau pan oeddech chi'n trafod manylion preifat iawn am eich triniaeth."

Yn ôl Arwyn, mae'r uned newydd yn bwysig i sicrhau fod y gwasanaeth yn aros ym Mronglais.

"Mae hyn yn diogelu dyfodol y cyfleusterau a'r gwasanaethau ac yn sicrhau fod y driniaeth orau bosib ar gael i bobl yng nghefn gwlad canolbarth a gorllewin Cymru.

"Ydi, mae'n lot o arian, ond does dim dwywaith y bydd pobl yr ardal yn ymateb i'r her. Rydym wedi gweld dros y blynyddoedd y ffordd mae pobl wedi camu i'r adwy a chynnig eu cefnogaeth dro ar ôl tro,"

'Angen cysur, preifatrwydd ac urddas'

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda: "Yr ymateb rydym ni'n ei gael gan ein cleifion yw eu bod yn cael gofal a chefnogaeth gwych gan y staff a'u bod yn mynd uwchlaw a thu hwnt i'w gwaith i helpu cleifion. Ond rydym yn cydnabod bod angen diweddaru'r uned er mwyn adlewyrchu'r gofal ac ymroddiad y tîm.

"Byddai uned ddydd cemotherapi newydd yn sicrhau profiadau gwell i'n cleifion mewn cyfleuster modern, sy'n addas ar gyfer y dyfodol a sydd wedi ei theilwra ar gyfer cleifion ar wahanol gamau yn eu triniaeth canser, ac yn cynnig mwy o gysur, preifatrwydd ac urddas."