Cyllid rheilffyrdd Cymru yn isel, Llywodraeth y DU yn cyfaddef
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog Cymru wedi croesawu cyfaddefiad gan Lywodraeth y DU bod gwariant ar wella rheilffyrdd Cymru wedi bod yn "isel" dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Eluned Morgan mai dyma'r tro cyntaf i weinidogion y DU gydnabod bod rheilffyrdd Cymru wedi'u tanariannu.
Nid yw'r llythyr yn addo arian newydd, er bod Ms Morgan wedi dweud ei bod yn gobeithio y byddai'n "sylweddol".
Mae gwleidyddion Cymru wedi cwyno am annhegwch ers blynyddoedd ar y pwnc, ac am ddiffyg arian canlyniadol i Gymru oherwydd prosiect rheilffordd HS2 yn Lloegr.
Dywedodd Plaid Cymru nad oedd y llythyr yn ymrwymo i "unioni'r cam" o ran HS2, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo'r prif weinidog o dderbyn "sbarion".
Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU nad yw gweinidogion yn gallu gwneud yn iawn am yr "anghyfiawnder a etifeddwyd" ond eu bod yn cydnabod bod Cymru "wedi dioddef tanfuddsoddiad difrifol".
Mae ffigurau gwahanol wedi'u rhoi ar gyfer faint mae gwleidyddion yn credu sy'n ddyledus i Gymru o HS2, o £4bn a awgrymwyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn y gorffennol i £350m yn y ffigurau diweddaraf gan weinidogion Cymru.
'Anghyfiawnder'
Wrth siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Ms Morgan fod arian wedi'i "arllwys" i HS2 a oedd wedi'i alw'n brosiect Cymru a Lloegr, "er na osodwyd modfedd o drac yng Nghymru".
Dywedodd fod hynny'n "anghyfiawnder sylfaenol".
"Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod ein bod ni wedi cael ein tanariannu," meddai.
Dywedodd fod sgyrsiau "eisoes wedi dechrau" ynghylch "rhestr hir o brosiectau" y gellid buddsoddi ynddynt.
Pan ofynnwyd iddi a fyddai cyllid canlyniadol o HS2, awgrymodd na fyddai.
"Mae'n debyg y byddai ar ffurf gorsafoedd newydd," meddai.
Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Heidi Alexander, ac Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens, dywedodd y gweinidogion: "Rydym yn cydnabod bod rheilffyrdd yng Nghymru wedi cael lefelau isel o wariant er mwyn gwella yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng nghyd-destun buddsoddiadau mawr, megis HS2."
Dywedodd y llythyr mai'r Trysorlys fydd yn penderfynu ynghylch arian ychwanegol, gan ddweud bod y Canghellor Rachel Reeves "wedi bod yn glir ynglŷn â sefyllfa'r cyllid cyhoeddus a etifeddwyd gan y llywodraeth ddiwethaf".
Dywedodd y bydd blaenoriaethu prosiectau Bwrdd Rheilffyrdd Cymru - y mae'r ddwy lywodraeth yn rhan ohono - yn llywio gwaith gyda'r Trysorlys cyn yr adolygiad o wariant yn y gwanwyn.
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2024
Ychwanegodd y llythyr fod y gweinidogion yn cytuno y dylid blaenoriaethu argymhellion comisiynau trafnidiaeth yng ngogledd a de-ddwyrain Cymru.
Cynigiodd y comisiwn yn ne Cymru bum gorsaf newydd - Dwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Somerton (Casnewydd), Llanwern, a Magwyr a Gwndy - ar gost amcangyfrifedig o £335m, ynghyd â £50m i wella'r brif reilffordd ei hun.
Mae gwelliannau hefyd wedi'u cynnig i'r rheilffordd rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Roedd llythyr Llywodraeth y DU yn canmol y ddwy set o gynigion, gan ddweud bod ganddyn nhw "y gallu i sbarduno twf economaidd".
'£4bn sy'n ddyledus i Gymru'
Dywedodd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru: "Mae'r prif weinidog yn amlwg wedi bod yn darllen llythyr gwahanol iawn i'r hyn rydyn ni wedi'i ddarllen.
"Nid yw'n cyfeirio at annhegwch HS2 ac nid yw'n dweud y bydd Llafur yn unioni'r cam o'r swm canlyniadol llawn o £4bn sy'n ddyledus i Gymru.
"Mae Eluned Morgan yn cyfuno dau fater gwahanol iawn.
"Pe bai Llafur o ddifrif am roi chwarae teg i Gymru, yna fe fydden nhw'n rhoi'r £4bn llawn sy'n ddyledus i ni, fel y dywedon nhw y bydden nhw."
Dywedodd Peter Fox o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Cyn yr etholiad, roedd llywodraeth Lafur Cymru yn uchel eu cloch wrth alw am symiau canlyniadol HS2 teg i ddod i Gymru.
"Ac eto nawr, gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, mae'r prif weinidog i'w weld yn rhy barod i dderbyn pa bynnag sbarion mae ei chymheiriaid yn Llundain yn taflu atynt.
"Cawsom addewid am ddwy lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'r hyn sydd orau i Gymru.
"Yn hytrach, rydym wedi gweld addewid ar ôl addewid yn cael eu torri."