Lleucu Non: Arbrofi gyda chelf a chân
- Cyhoeddwyd
Mae Lleucu Non yn wreiddiol o Groeslon, Dyffryn Nantlle ond bellach yn byw a gweithio yn Nghaerdydd fel animeiddwr a cherddor.
Mae hi wrth ei bodd yn bownsio o un cyfrwng i'r llall, meddai, gydag animeiddio a cherddoriaeth yn dod â'r gorau allan o'i gilydd... ac ohoni hi.
Sut wyt ti’n cyflwyno dy hun; animeiddiwr neu gerddor?
Dwi’n cyflwyno fy hun fel animeiddiwr pan dwi’n cyfarfod pobl am y tro cyntaf - dyna 'nes i astudio yng Nghaeredin - ond dwi’n adnabod fy hun fel artist.
Dwi’n caru animeiddio ond hefyd yn gadael digon o le i mi greu cerddoriaeth, darluniau llonydd, prints ac arbrofi yn fy sketchbook!
Sut fath o waith animeiddio wyt ti'n ei wneud?
Mae cynrychioli menywod yn thema arwyddocaol yn fy ngwaith. Rydw i’n aml yn cyfeirio tuag at fy mhrofiadau fy hun fel dynes ifanc sy’n cwestiynu popeth yn ddi-baid!
Ar y funud dwi’n gweithio ar brosiect o’r enw Holm, ffilm wedi ei hanimeiddio gyda llaw ar bapur hadau gweadog (textured seed paper), gan ddefnyddio dull rotoscope. Mae’n archwilio taith drawsnewidiol Cati, dynes ifanc sy’n dechrau ar ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, ac yn treiddio i ddyfnderoedd bywyd fel oedolyn.
Erbyn hyn mae gen i steil personol sydd gyda ffocws ar y ffurf dynol, gwaith llinell hyderus a defnydd o liw.
Rydw i’n arbrofi gyda deunyddiau, maint papur, a pha mor sydyn dwi’n darlunio. Mae’r ymagwedd fyrbwyll yn gweithio orau i mi, weithiau rhaid gweithio’n sydyn cyn dechrau cwestiynu dy hun!
Pa ran mae cerddoriaeth yn ei chwarae yn dy fywyd di?
Mae cerddoriaeth yn cysylltu’n uniongyrchol efo fy ngwaith animeiddio; rydw i wastad wedi rhoi clustffonau ymlaen a breuddwydio am fyd arall!
Mae cerddoriaeth yn helpu i ddeffro dychymyg a chreu gofod ar gyfer emosiynau neu syniadau efallai na ellid eu mynegi ynghynt yn ystod y dydd.
Dechreuais sgwennu caneuon fy hun yn 2020, a mae fy sengl cyntaf, Dwi Ar Gau, allan rŵan. Recordiais yn Llundain yng ngholeg London College of Contemporary Music ar y cyd gyda’r cynhyrchydd Sywel Nyw gyda cynllun UNTRO. Roedd o'n gydweithrediad rhwng PYST, Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp/S4C a Klust sy’n cydlynu a hyrwyddo traciau gan artistiaid newydd o Gymru.
Beth yw dy gariad cyntaf: celf neu gerddoriaeth? Alli di gael un heb y llall?
Er mai animeiddio yw fy angerdd a'r cyfrwng rwy'n gweithio ynddo, mae'n rhaid i mi gyfaddef bod cerddoriaeth yn dal lle arbennig yn fy nghalon fel fy nghariad cyntaf.
Mae animeiddio yn gofyn llawer ohona i, yn cymryd llawer o amser, a dydy ffilm byth yn teimlo ei fod wedi gorffen...
Dwi’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth pobl eraill yn ofnadwy, achos dwi’n cael rhyddid i ddathlu rhan ohona i sy’n nostalgic, neu’r rhan ohona i sydd eisiau dawnsio, neu gysylltu, neu anwybyddu’r byd.
Pan wyt ti'n cyfuno cerddoriaeth neu soundtrack gydag animeiddiad mae rhywbeth newydd, rhyfeddol yn bodoli, ac yn gneud y gwaith caled yn werth chweil. Gall animeiddio ddim effeithio ar rywun yr un ffordd mae cerddoriaeth yn ei wneud ar ben ei hun.
Wedi dweud hynny, mae gen i barch mawr at animeiddio fel ffordd o adrodd straeon. Mae'n dod â straeon yn fyw mewn ffordd weledol na all cerddoriaeth yn unig ei gyflawni.
Mewn gwirionedd, mae'r ddwy ffurf yn ategu ei gilydd, sy'n hyfryd. Gall animeiddiad gwych gael ei wella gan y sgôr gerddorol gywir, ac i'r gwrthwyneb; gall gerddoriaeth wael amharu ar hyd yn oed yr animeiddiad mwyaf syfrdanol.
Oes well gen ti weithio ar dy ben dy hun neu gydweithio ag eraill?
Rydw i wrth fy modd yn cydweithio gydag eraill yn ogystal â chreu ar fy mhen fy hun; mae’r ddau ddull yn dod â gwobrau unigryw.
Mae cydweithio efo cerddorion wastad yn brofiad arbennig; mae eu creadigrwydd yn aml yn ysbrydoli syniadau newydd. Ar y llaw arall, mae gweithio'n annibynnol yn rhan mawr o fy mhroses achos dwi’n mwynhau llonydd a rhyddid i ddatblygu gwaith.
Ond rydw i wastad yn gofyn i ffrindiau, teulu a chydweithwyr am adborth ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau meddylgar.
Beth ydi dy uchafbwynt artistig hyd yn hyn?
'Nes i fwynhau cael bod yn rhan o wyliau animeiddio am y tro cyntaf gyda fy ffilm gradd Poenladdwr, sef archwiliad o symptomau dynes sy’n dioddef o migraines cronig.
Ges i wahoddiad i ddangos fy ffilm yn Monstra Animation Festival yn Lisbon. Roedd hi'n llawer o hwyl cyfarfod animeiddwyr oedd wedi dod i ddathlu ei gilydd ar draws y byd.
Ac enillais wobr Dewis y Gynulleidfa yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd 2024 gyda Poenladdwr. Wnes i’r holl waith animeiddio, cyfarwyddo a’r soundtrack fy hun. Ges i sioc ac o'n i mor ddiolchgar a chyffrous i weld bod gen i gefnogaeth anhygoel yma yng Nghymru.
Sut ti’n cadw cydbwysedd rhwng yr holl gyfryngau artistig ti’n eu gwneud?
Dwi’n cadw balans rhwng bob dim drwy gymryd seibiannau rheolaidd sy’n fy helpu i adennill a chael persbectifau newydd. Fel treulio amser yn gneud pethau eraill dwi’n ei fwynhau sy’n bodoli y tu allan i waith.
Rydw i hefyd yn gadael i fy hun newid ffocws neu gyfrwng pan fydd creadigrwydd yn taro.
Dwi’n meddwl ei bod hi’n dda gweithio ar fwy nag un prosiect weithiau, a bod ysbrydoliaeth yn dod drwy archwilio ac arbrofi gyda syniadau amrywiol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024