Gyrfa newydd ar ôl ymddeol o rygbi

Rhodri GomerFfynhonnell y llun, Rhodri Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Gomer wedi sefydlu busnes yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2025 yn dechrau ym Mharis ar nos Wener, 31 Ionawr, gyda Chymru'n herio'r Ffrancwyr yn y Stade de France.

Mae'n gwestiwn anochel fydd yn wynebu nifer o chwaraewyr yn ystod eu gyrfaoedd proffesiynol sef, beth i'w wneud wedi i'r yrfa honno ddod i ben.

I rai, mae dilyn trywydd hyfforddi yn gam naturiol tra bod eraill wedi mentro i fyd darlledu. Ond yr hyn sy'n amlwg yw bod gyrfa broffesiynol mewn gwirionedd yn un fer, ac mae'n allweddol felly bod 'na gynlluniau wrth gefn ar gyfer y diwrnod hwnnw pan fydd y sgidiau yn cael eu rhoi i'r naill ochr.

Mae'n gwestiwn dwys sydd wedi dod fwy fwy i'r arwyneb yn y blynyddoedd diwethaf i chwaraewyr rygbi proffesiynol yng Nghymru yn sgil yr hinsawdd economaidd bregus sy'n amgylchynu'r gamp drwy'r wlad, a'r anafiadau yn ymwneud a chyfergyd sy'n tanlinellu pa mor fyr mewn gwiroedd y gall yrfa broffesiynol fod ar ei hyd.

Mi oedd yn gwestiwn yn cylchdroi ym meddwl cyn ganolwr y Dreigiau a'r Scarlets Rhodri Gomer.

Roedd yn awyddus i baratoi ar gyfer y cam nesaf ac er yn enw cyfarwydd ym myd y cyfryngau bellach, roedd yn allweddol iddo i fod yn hyblyg , i gadw meddwl agored ac i gael nifer o opsiynnau pan na fyddai incwm yn deillio o'r bêl hirgron.

Glampio yn Sir Gâr

"Ro'n i'n ffodus i ryw raddau bod 'na gyfleoedd wedi codi o fewn y byd darlledu yn ystod fy ngyrfa rygbi ac yn fuan wedi i mi ymddeol. Ond y drafferth gyda'r diwydiant yma (ddim yn annhebyg i rygbi) yw'r ansicrwydd. Dyna pam es i a Carys, fy ngwraig, ati i sefydlu busnes gwersylla ar ein fferm ger Trap yn Sir Gâr ".

Safle gwersylla gyda dwy babell saffari fawr yw'r busnes wedi ei deilwra ar gyfer teuluoedd a chyplau gyda'r nod o gynnig y profiad gwersylla ond mewn ffordd ble mae modd ymlacio yn ogystal.

Mae'r busnes bellach yn mynd o nerth i nerth a'r gwaith caib a rhaw ar y cychwyn wedi talu ar ei ganfed, ac yn fenter sy'n llwyddo i roi incwm y naill law tra'n harnais ei gariad at gefn gwlad yn sgil ei gefndir amaethyddol.

Mae'r holl brofiad yn ôl Rhodri wedi bod yn fuddiol a gwerth chweil ond yn wers i eraill fod angen arallgyfeirio a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Fferm Sir GârFfynhonnell y llun, Rhodri Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o dir fferm Rhodri Gomer yn Sir Gâr

"Mae gyrfa athletwr proffesiynol yn fyr , mae'n rhywbeth dwi wastad wedi bod yn ymwybodol ohono a dyna pam wnes i ddechrau busnes photobooth wrth chwarae rygbi a chymhwyso hefyd fel tiwtor a chyfieithydd Cymraeg," meddai.

Un o gyd-chwaraewyr Rhodri gyda'r Dreigiau oedd y mewnwr Wayne Evans sydd bellach yn gweithio fel tirfesurydd neu syrfëwr yng Nghaerdydd .

Doedd y daith ddim yn un hawdd serch hynny ac ar adegau roedd yn cwestiynu a fyddai ef byth yn cyrraedd 'pen y daith'

"Mi oedd e'n anodd , doeddwn byth wedi gweithio mewn swydd heblaw am rygbi , ond penderfynais i fynd nôl i'r Brifysgol ym Mryste i wneud ôl-radd ac ar ôl cwblhau nes i ymuno fel syrfëwr o dan hyfforddiant a cwmni yn y brifddinas, a dwi bellach yn bartner yn y cwmni.

"Mae'n anodd mynd nôl i astudio yn enwedig o ran talu ffioedd a'r morgais ar yr un pryd ond heb os mi oedd e werth yr ymdrech i gael gyrfa lwyddiannus wedi rygbi," meddai.

Wayne EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Evans cyn iddo ymddeol.

Ynghyd â chreu bywoliaeth mae Wayne yn grediniol fod yna fudd ehangach i gael 'ail' yrfa.

"Yn yr oes amateur wrth gwrs, doedd dim opsiwn gan y chwaraewyr o wneud arian arwahân i'r rheiny gafodd gynigion i fynd i rygbi'r gynghrair ond dwi'n credu fod hi'n gwella ac yn cyfoethogi ti fel person drwy droi dy law at rywbeth arall, yn ogystal â'r pwysigrwydd o gael cynllun wrth gefn dwi'n credu ei fod e'n helpu yn seicolegol hynny yw peidio meddwl mai rygbi yw popeth".

'Nôl ar y fferm ym Mhentref Trap ger Llandeilo mae Rhodri Gomer yn edrych ymlaen at y gwanwyn a medru croesawu ymwelwyr yn ôl i'r safle glampio.

Mae'n ystyried ei hun yn ffodus fod ganddo'r weledigaeth i feddwl ymlaen ar adeg pan roedd yr arian yn dal i lifo ond mae'n cydnabod nad yw'r cam nesa yn un hawdd i bawb a nifer angen cymorth ac arweiniad i droedio'r llwybr cywir .

"Doedd dim llawer o gyngor ar gael 'slawer dydd' ond o be dwi'n deall mae 'na dipyn mwy o arweiniad i'r bobl ifanc bellach .

"Mae Undeb y Chwaraewyr yn cael ei redeg gan gyn-chwaraewyr sy'n ymwybodol o'r angen i godi ymwybyddiaeth yr athletwyr o'r angen i gynllunio am y dyfodol," meddai.

Pynciau cysylltiedig