Ateb y Galw: Heledd Anna

Mae Heledd yn un o gyflwynwyr Chwaraeon Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Cyflwynydd Chwaraeon Radio Cymru, Heledd Anna sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Mae Heledd yn wreiddiol o Lanrug ger Caernarfon ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Yn ogystal a chyflwyno ar y radio, mae hi hefyd wedi cyflwyno sawl rhaglen deledu fel Rygbi Pawb a'r rhaglen chwaraeon i blant, Cic gyda Owain Tudur Jones.
Dyma ddod i adnabod Heledd ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Pan o'n i'n bump oed, ges i frawd bach newydd, Math.
Oni'n meddwl mod i lot hŷn nag oeddwn i, ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i fod yn chwaer fawr. Mi o'n i ar dân i afael yn y babi newydd o hyd, ac un tro fe wnaeth mam siarsio fi i BEIDIO â codi Math o'r fasged pan oedd hi wedi mynd i'r gegin.
Ond, gan mod i'n styfnig, a dwi dal yn (!) mi nes i fynd beth bynnag, codi Math a'i gario at y soffa ac yna ei gario nôl – masiwr jest er mwyn dangos fy hun o flaen fy chwaer, Elain!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n byw yng Nghaerdydd ers bron i dair blynedd ar ddeg, ac yn teimlo'n gartrefol iawn yma, ond mae'n rhaid i mi ddweud Eryri, achos mae mynd nôl adra i Lanrug a gweld Yr Wyddfa a'i chriw pan 'da chi heb weld yr olygfa ers sbel yn eitha arbennig.
Rhywbeth ti'n cymryd yn ganiataol pan ti'n byw yno ac yn ei weld pob dydd.

Heledd gyda'i brodyr Elis, Math a Mei ac Elain ei chwaer.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi wedi cael sawl noson dda heb os nac oni bai – ond dwi'n meddwl dwi am ddewis noson yn Japan, wedi i Gymru guro Ffrainc o bwynt yn unig i sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd nol yn 2019.
Roedd fy ngŵr, Rhys yn rhan o'r garfan, ac wedi'r gêm fe aeth pawb nol i westy'r tîm – lle oedd na stafell karaoke ar llawr gwaelod y gwesty, ac fe gafon ni gyd noson hwyliog yn morio canu!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol, dewr, byrbwyll.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Rhan fwya o'r atgofion o dyfu fyny yn Llanrug. 'Nes i fwynhau'r ysgol (dwi'n gwybod dydi lot o bobl ddim) ond o'n i'n lwcus iawn i gael criw da o ffrindiau, a 'dan ni dal yn ffrindiau heddiw. Felly atgofion melys o fod yn fy arddegau yn ngogledd Cymru.

Heledd yn Japan yn cefnogi ei gŵr Rhys Patchell yn ystod Cwpan y Byd 2019
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Ychydig ddyddiau nôl siŵr o fod, dwi'n berson sy'n crïo am bob dim. Pan dwi'n flin... dwi'n crïo. Pan dwi'n drist... nai grio. Hapus... fydd na ddagrau!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n fyrbwyll ac yn aml ddim yn meddwl cyn siarad, ond dwi'n gobeithio mod i wedi gwella dros y blynyddoedd!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi'n mwynhau darllen a gwylio thrillers, neu straeon ditectif. Dwi'n ffan mawr o waith Llwyd Owen. Dwi'n dueddol o wrando ar bodlediadau ysgafn fel pobl yn siarad rwtsh. My Therapist Ghosted Me ydi un o fy ffefrynnau.

Mae Heledd wrth i bodd yn dychwelyd i Eryri ble cafodd hi ei magu
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Mae hyn am swnio'n soppy ofnadwy, ond fy ngŵr, Rhys. Mae o'n byw yn Japan ar hyn o bryd, ac felly dyda ni ddim yn cael cyfle i weld ein gilydd llawer – rhyw wythnos ar y tro bob rhyw chwech wythnos!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi 'chydig bach yn claustrophobic!
Nes i banicio yn lan pan yn ffilmio rhaglen Y Gemau Gwyllt i Stwnsh un tro, pan oedd rhaid neud cwrs rhwystrau mwd a mynd drwy twnnel cul a chropian drwy ddŵr a mwd oedd bron fyny at fy nhrwyn!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mae ateb y cwestiynau yma wedi neud fi sylwi mod i ddim yn berson sentimental iawn – ond llun o fy mhriodas y flwyddyn dwytha siŵr o fod. Pawb pwysig i ni'n dau mewn un 'stafell!

Heledd a Rhys a'r ddiwrnod eu priodas
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bwyta bwyd da, yfed gwin neis a hynny i gyd efo y ffrindiau a'r teulu sydd agosâ ata i. A hynny ar ôl chware gem o bêl rwyd – lle fysa ein tîm ni yn ennill wrth gwrs!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Kate Abdo neu Kate Scott bellach. Mae hi'n gyflwynydd chwaraeon / pêl droed sydd ar dop ei gêm ac yn gwneud i'r swydd edrych yn hawdd... coeliwch fi dydi o ddim yn hawdd.
Dim ond y goreuon sydd yn gallu gwneud hynny, ac mae hi'n edrych fel ei bod hi'n cael hwyl yn y gwaith bob dydd. Mae hi hefyd yn siarad pedair iaith, sgil fyswn i wrth fy modd yn ei gael!

Mae Heledd yn edmygu gwaith Kate Scott fel cyflwynydd chwaraeon
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Medi 2016