Cynllun safle batris yn 'tanseilio gwaith ein cyn-deidiau'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn Sir Ddinbych yn dweud eu bod yn pryderu am gynlluniau i adeiladu un o ffermydd batri mwyaf Prydain ar gaeau ger Corwen.
Byddai prosiect Ynni Celyn yn creu system storio ynni batri 1,000MW (SSYB) uwchben pentref Gwyddelwern.
Mae trigolion lleol yn ofni y gallai'r safle achosi risg o dân a ffrwydrad sylweddol gan arwain at ddifrod amgylcheddol, ac maen nhw'n cynnal cyfarfod cyhoeddus ddydd Iau.
Mae'r datblygwr yn dweud bod diogelwch "yn flaenoriaeth" ac mai traean o'r safle 75 erw fyddai'n dal batris.
Cafodd cynllun amlinellol ei gyflwyno i'r gymuned yn ddiweddar.
Mae Anna Llwyd Williams yn un o'r rhai sy'n pryderu am y datblygiad ger ei fferm deuluol.
"Mae'n gwneud imi deimlo'n emosiynol ofnadwy o wybod sut gallai effeithio arnom ni, y gymuned a'r ardal," meddai.
"Dwi'm yn siŵr sut allwn i feddwl gadael i'r fath beth ddigwydd ar fy nhir.
"Mae'n tanseilio'r holl waith mae'n teidiau a'n cyn-deidiau wedi ei wneud i gynnal tir amaethyddol a 'swn i'n methu datblygu peth mor enfawr â hyn."
"Dwi'n medru deall yn iawn, mae gen ffermwyr angen arallgyfeirio.
"Dwi ddim yn gwrthwynebu neb i roi melinoedd gwynt, solar, podiau.
"Mae angen arallgyfeirio achos mae hi yn anodd ar ffermwyr.
"Ond mae'r maint yn enfawr. Dyna ydy'r broblem."
Mae'r safle yn agos at Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a ger parc cenedlaethol newydd arfaethedig ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru.
Wrth i ymdrechion i leihau allyriadau carbon barhau, mae disgwyl i'r galw am drydan ddyblu yng Nghymru erbyn 2050 ac mae safleoedd SSYB yn cael eu hystyried yn bwysig wrth sicrhau cyflenwad sefydlog a dibynadwy.
Mae prosiectau o faint tebyg i'r un sy'n cael ei gynnig yng Nghorwen yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, neu wedi'u cymeradwyo, gan gynnwys un yng Nghaerdydd yn amodol ar gytundeb cyfreithiol.
Maen nhw'n storio trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy mewn batris ion-lithiwm mawr a'i ryddhau pan nad yw'r ffynonellau hynny'n cynhyrchu pŵer.
Ond mae adroddiadau o danau a ffrwydradau wedi bod ledled y byd, gan gynnwys un ar safle 20MW yn Lerpwl yn 2020.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod "tanau batri mewn safleoedd storio yn eithriadol o brin ym Mhrydain".
"Mae gennym eisoes safonau uchel sy'n gofyn i wneuthurwyr a'r diwydiant ddiogelu eu cynnyrch trwy gydol oes yr unedau," meddai llefarydd.
Un arall sy'n pryderu am y datblygiad yng Nghorwen ydy Ann Atkinson Sharp sydd hefyd yn byw gerllaw.
"Y peryglon sy'n fy mhoeni i. Perygl ffrwydro gyda'r nwyon peryglus yn mynd i'r awyr.
"Mae o'n beryglus i'r gymuned, ar stepen y drws. Mae'r tanau yma wedi digwydd.
"Sut 'den ni'n mynd i ddygymod? Sut fydd y gwasanaeth tân yn medru diffodd ac oeri'r tân? A lle mae'r dŵr llygredig yna yn mynd i fynd?
"Fedre fo fod yn ddigwyddiad trychinebus iawn."
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024
Mae'r Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol (NFCC) yn annog datblygwyr i ymgysylltu'n gynnar â gwasanaethau tân lleol yn y broses gynllunio, ond nid yw hyn yn ofyniad statudol.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC): "Nid yw NatPower wedi cysylltu â GTAGC eto, ond byddwn yn edrych i weithio gyda datblygwr y safle wrth i'r prosiect fynd rhagddo."
Mewn datganiad dywedodd y datblygwr NatPower bod "diogelwch yn flaenoriaeth gyda'r dechnoleg batri ddiweddaraf, mesurau diogelwch wedi eu llunio ar y cyd â gwasanaethau tân lleol, a system ddraenio gynaliadwy ar gyfer dŵr gwastraff".
Dywedodd y cwmni bod y safle yng Ngwyddelwern wedi ei ddewis oherwydd bod y Grid Cenedlaethol - sy'n dosbarthu trydan - yn bwriadu codi isorsaf newydd ger y pentref.
"Ar ôl asesiad trylwyr yn blaenoriaethu safleoedd tir brown, cafodd safle Ynni Celyn ei ddewis," meddai llefarydd.
"Dyma'r lleoliad mwyaf addas ar hyd llwybr y gwifrau presennol, gyda dim safle tir brown ar gael."
Ychwanegodd y bydd cronfa £1m ar gael yn flynyddol i brosiectau lleol.
Dywedodd perchennog y tir wrth BBC Cymru mai'r datblygwyr gysylltodd gyda nhw yn gyntaf, a gan eu bod nhw fel teulu hefyd yn byw'n agos iawn at y safle, na fydden nhw'n ystyried cytuno i'r prosiect petaen nhw'n teimlo nad oedd yn ddiogel.
Fe ychwanegon nhw eu bod wedi cael ymateb cryf iawn dros yr wythnosau diwethaf a'u bod yn parchu'r hawl i farn.