Newidiadau cynllunio i gyflymu penderfyniadau ynni glân

Bydd y newidiadau yn rhoi awdurdod newydd i arolygwyr cynllunio'r llywodraeth, i wneud penderfyniadau ar gynlluniau hyd at 50MW
- Cyhoeddwyd
Mae newidiadau i'r system gynllunio ar gyfer prosiectau ynni glân wedi'u cyhoeddi, i geisio cyflymu'r broses.
Mae'n golygu na fydd penderfyniadau ar gynlluniau hyd at 50MW yn gorfod cael eu cyfeirio at weinidogion i'w cymeradwyo.
O ran maint, gallai hyn gynnwys fferm wynt â mwy na deg tyrbin, neu fferm solar yn gorchuddio ymhell dros 100 erw (40 hectar) o dir.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Rebecca Evans, y byddai rhoi'r awdurdod i arolygwyr cynllunio'r llywodraeth benderfynu ar gynlluniau o'r fath yn lleihau faint o amser sy'n rhaid i ddatblygwyr aros gan oddeutu 12 wythnos.

Mae rhai datblygwyr wedi cwyno fod derbyn penderfyniad wrth geisio cael caniatâd cynllunio yn cymryd rhy hir
Mae'r newidiadau wedi eu cyhoeddi yn dilyn beirniadaeth ddiweddar gan y sector ynglŷn â'r amser mae'n gymryd i ddod i benderfyniad am gyfres o ffermydd gwynt.
Ond mae'r newid yn debygol o fod yn ddadleuol mewn rhai cymunedau sy'n pryderu am effaith weledol rhagor o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a'r peilonau sy'n dod gyda nhw.
Mewn araith i gynhadledd o ddatblygwyr ynni yng Nghasnewydd, bydd Ms Evans yn dweud bod angen gwelliannau i'r system gynllunio os yw Cymru am greu swyddi gwyrdd a chyrraedd targedau newid hinsawdd.
Bydd yn cyhoeddi mai PEDW - arolygiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru - fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar brosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 50MW yn y dyfodol.
Bydd cynlluniau i "ddechrau mynd i'r afael â'r prinder cynllunwyr ar lefelau lleol a chenedlaethol" yn cael eu cyflwyno hefyd.

Mae angen gwella'r system gynllunio yng Nghymru er mwyn creu swyddi gwyrdd, medd Rebecca Evans
"Mae cyflymu penderfyniadau cynllunio seilwaith yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru - mae angen i ni ei wneud y broses mor effeithlon â phosibl i bawb dan sylw," meddai.
"Bydd dirprwyo pwerau gwneud penderfyniadau i PEDW ar brosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 50MW yn unig yn lleihau'r amser penderfynu o'r dechrau i'r diwedd, weithiau o sawl mis."
Bydd "ymgynghoriad eang" yn dechrau hefyd i holi sut all Cymru sicrhau bod ganddi "ddigon o gynllunwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, gyda'r sgiliau cywir yn y meysydd cywir".
Dywedodd Ms Evans bod pum cynllun ynni adnewyddadwy sylweddol wedi'u cymeradwyo ers iddi gael ei phenodi ym mis Medi, gyda'r gallu i gynhyrchu digon o drydan glân ar gyfer dros 180,000 o gartrefi.
Mae pum cais pellach wrthi'n cael eu hystyried gan weinidogion, a 15 arall "ar wahanol gamau o safbwynt eu derbyn a'u harchwilio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024