Morgan yn 'bryderus' y gallai terfysgoedd gyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog newydd Cymru yn "bryderus" y gallai terfysgoedd ddigwydd yng Nghymru, gan ddweud fod "dim lle am hiliaeth yn ein cymdeithas".
"Dwi ddim yn credu ddylsen ni fod yn complacent o gwbl," medd Eluned Morgan fore Mercher.
Fe ddechreuodd ymosodiadau treisgar mewn rhannau o Loegr a Gogledd Iwerddon ar ôl i dair merch gael eu lladd yn Southport yr wythnos ddiwethaf.
Mae Axel Rudakubana, 17 o Gaerdydd, wedi’i gyhuddo o’r ymosodiad ond fe ledaenodd gwybodaeth ffug ar-lein ei fod yn geisiwr lloches.
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig bod pobl Cymru'n sefyll i fyny ac yn dweud ein bod ni'n wlad sy'n gefnogol o bobl sy'n dod i fyw yn ein gwlad ni," medd Ms Morgan.
- Cyhoeddwyd5 Awst
- Cyhoeddwyd7 Awst
Dywedodd Ms Morgan ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru ei bod hi "ddim yn mynd i gymryd dim byd yn ganiataol".
"Dwi eisoes wedi gofyn am gyfarfod gyda'r heddlu a phenaethiaid cymunedau sensitif.
"'Dwi'n meddwl bod rhai o'r golygfeydd yn erchyll.
"Dwi ddim yn credu bod 'na le am hiliaeth yn ein cymdeithas ni."
Y gred yw bod o leiaf 30 o ddigwyddiadau wedi'u trefnu ar draws y DU ar gyfer nos Fercher.
Fe wnaeth Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer gynnal cyfarfod COBRA brys nos Fawrth, cyn addo y byddai cymunedau'n cael eu cadw'n saff.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts: "Mae ymddygiad y bobl sy'n ceisio creu rhaniadau, lledaenu gwybodaeth anghywir, ac achosi gwrthdaro rhwng gwahanol gymunedau yn gwbl gywilyddus."
Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies: "Mae ymddygiad treisgar yn gwbl annerbyniol, ac mae'n rhaid i bawb sy'n gyfrifol gael eu cosbi'n llym."