Awdur 92 oed yn 'cadw'r meddwl yn chwim' ar ôl 100 o lyfrau
- Cyhoeddwyd
Mae Mair Wynn Hughes o Lanrug yn 92 oed ac wedi cyhoeddi dros 100 o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.
Am y tro cyntaf eleni, mae hi wedi cyhoeddi nofel i oedolion, sef Y Bocs Erstalwm.
Ond hap a damwain oedd iddi ddechrau ysgrifennu llyfrau o gwbl, meddai...
“O’n i’n athrawes ar ddosbarth o blant pump i saith ym Mhentraeth, ac ar ddiwedd bob p’nawn, fyddai ’na stori. Mae hyn yn y ’50au, ac ychydig iawn o lyfrau Cymraeg ar gyfer plant yr oed yna oedd yna. O’n i wedi meddwl am y cymeriad Sioni Sbonc, ond do’n i ddim wedi ysgrifennu nhw i lawr; o’n i’n deud y stori a do’n i’m yn gwybod lle odd o’n mynd.
“O’dd y plant yn hoff iawn o Sioni Sbonc, ac oedden nhw’n gofyn weithiau ’newch chi ddeud y stori ’na am Sioni Sbonc yn mynd i’r dre?’. Wel, do’n i’m yn ei chofio hi’n iawn, nago’n!
"O’n i’n cychwyn ac ella’n deud fod gan Sioni drowsus melyn, a hogyn bach yn codi ei law a deud ‘Plîs Miss, trowsus glas oedd ganddo fo tro dwytha!’. Ar gownt hynny, fuo rhaid i mi ysgrifennu’r storïau i lawr er mwyn eu cofio nhw. A dyna ddechrau ar y sgwennu.”
Mae hi bellach wedi ennill gwobr Tir na n-Og bedair gwaith, ac wedi ysgrifennu dros 100 o lyfrau i blant a phobl ifanc, ac mae ei llyfrau, fel O’r Tywyllwch, Llinyn Arian a Ragi Racsan yn ffefrynnau ar silffoedd plant ledled Cymru.
'Dilyn fy nhrwyn...'
A hithau heb gyhoeddi llyfr ers 2008, beth ai chymhellodd hi i ail-afael yn y bensil a dilyn yr awen er mwyn ysgrifennu stori Lydia, sydd yn dioddef o dementia, yn Y Bocs Erstalwm?
“Do’n i ddim wedi bwriadu ysgrifennu nofel arall, â deud y gwir,” eglurodd wrth Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru. “Mae’n anodd iawn deud be’ ’naeth i mi feddwl, dim ond bod Lydia wedi dŵad ata i, a mod i’n ychwanegu darn bach yma ac acw wrth feddwl amdani, nes o’n i’n barod i ddechrau sgwennu.
“O’n i’m yn siŵr sut o’dd o’n mynd i ddatblygu, achos dilyn fy nhrwyn ydw i ar hyd fy oes efo’r holl lyfrau dwi ‘di ysgrifennu. Dwi’m yn gwybod efo dim un ohonyn nhw be’ sy’n mynd i ddigwydd.
“Bydda i ddim yn paratoi’r sgwennu; fydda i’n cychwyn sgwennu, mae’r frawddeg gynta’n dŵad, a wedyn, rhywsut, mae’r cymeriad yn tyfu a dwi’n dod i’w ’nabod nhw ac wedyn mae’r stori’n tyfu hefyd."
Mae Lydia wedi bod yn gydymaith iddi yn ystod y cyfnod dyrus o lunio'r llyfr, eglurodd Mair: “Mae hi wedi bod wrth fy ochr i am fisoedd tra mod i’n ysgrifennu.
"Mae o ’di cymryd misoedd. Mi ydach chi’n sgwennu... falla bo’ chi ’di cyrraedd bron at y diwedd, ac mi ydach chi’n ailddarllen, a ’da chi’n ychwanegu rhywbeth, neu dynnu rhywbeth allan. Pan o’n i’n mynd i ngwely, roedd y stori yn fy meddwl i, ac yn mynd dros be' o’n i ’di sgwennu yn fy meddwl eto.”
Parhau i ddysgu'r grefft
Er bod Mair wedi bod yn ysgrifennu ei straeon ers yr 1950au, ac wedi hen hogi ei chrefft bellach, mae hi wedi bod yn mynychu dosbarthiadau ysgrifennu creadigol dros y misoedd diwethaf, sydd wedi bod yn ‘rhywbeth i edrych ymlaen ato bob bore dydd Mawrth’ meddai.
Nid Mair yr awdur oedd hi yno, ond Mair y fyfyrwraig, oedd eisiau ymarfer ei hysgrifennu a dysgu gan eraill.
“O’n i’n mwynhau bob munud ohono fo. Doedd o’m ots bo’ fi ’di sgwennu, do’n i’m yn crybwyll hynny. Mae’r tiwtor mor bositif ac yn cael y gorau allan ohona ni i gyd.
"O'dda ni’n cael bob mathau o bynciau i sgwennu amdanyn nhw. O’dd hi’n bwysig fod pawb yn darllen ei waith yn uchel ar ddiwedd y wers a phawb arall yn beirniadu. O’dda ti’n teimlo fel bo' ti mewn byd ysgrifennwr.”
Cadw'r meddwl yn chwim
Ac wrth gwrs, a hithau yn ei 90au, mae cadw’r meddwl yn chwim mor bwysig ag erioed, a darllen, ynghyd â’r ysgrifennu, yn rhan enfawr o hynny, eglura:
“Mae ’myd i wedi bod erioed ‘darllen a darllen a darllen’. O’dd pawb yn fy mhlentyndod i yn darllen gyda’r nos; fy nhad yn darllen llyfrau cowbois, a finnau yn ei sgil o!
“Byd darllen ydi o wedi bod i mi wrth fynd yn hŷn hefyd, yn fwy na byd y teledu. Os ’da chi’n darllen lot, ’da chi’n pigo syniadau i fyny wrth ddarllen yma ac acw, ac felly mae ’na ambell i beth yn aros yn eich meddwl chi.”
Adfywio hen glasur
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ddiweddar, cafodd un o’i chlasuron, O’r Tywyllwch, ei ail-gyhoeddi, yn rhannol yn dilyn cri gan yr awdur boblogaidd, Manon Steffan Ros i ail-argraffu ei hoff lyfr o’i phlentyndod. Mae rhai o glasuron Mair Wynn Hughes yn plesio criw newydd o ffans o ganlyniad.
Felly, sut fydd Mair yn delio â’r sylw sy’n cael ei rhoi iddi yn sgil hynny, ynghyd â’i nofel newydd?
“Gyda gwên a nhraed i i fyny ’swn i’n ddeud, a rhyw ambell i lasied o win coch. Mae o fatha rhyw fellten ‘di taro o rwla, bo’ fi wedi cyflawni a gorffen llyfr arall, a bod o ’di cael ei gyhoeddi.
“Mi stedda i nôl ac mi wna i dderbyn bob dim ddaw i’n rhan i.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mawrth