Cyhuddo dyn o lofruddio dyn arall yng Ngorseinon

Kelvin EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kelvin Evans, 64, ei gludo i'r ysbyty ar ôl ymosodiad mewn gwesty ym mis Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Abertawe wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 64 oed yng Ngorseinon.

Cafodd Kelvin Evans ei gludo i'r ysbyty ar ôl ymosodiad ar 26 Mai yng Ngwesty'r Orsaf.

Bu farw Mr Evans, o Orseinon, yn yr ysbyty.

Mae Christopher Cooper, 39 oed, wedi ei gyhuddo o'i lofruddio.

Mae teulu Mr Evans wedi rhoi teyrnged i “fab, brawd, ewythr a ffrind hyfryd, cariadus a doniol”.

Fe ddywedon nhw eu bod yn “ceisio dygymod” â’r sefyllfa.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn "ddiolchgar i'r gymuned am eu cefnogaeth wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad" ac y bydd teulu Mr Evans "yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol".

Maen nhw'n parhau i apelio am wybodaeth gan bobl oedd yn ardal Gwesty'r Orsaf ar y noson dan sylw.