Safle £51m Caergybi i reoli ffiniau ar ôl Brexit i aros yn wag

Parc Cybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o adeiladu'r safle yng Nghaergybi bron wedi'i gwblhau

  • Cyhoeddwyd

Bydd safle rheoli ffiniau gwerth £51m a adeiladwyd ar gyfer gwiriadau ar ôl Brexit yn aros yn wag, meddai Llywodraeth Cymru.

Derbyniodd y cyfleuster ym Mharc Cybi, ger porthladd Caergybi yn Ynys Môn, £44m mewn cyllid gan Lywodraeth y DU, ac fe'i hadeiladwyd i ganiatáu gwiriadau ar anifeiliaid a phlanhigion sy'n dod i mewn i'r DU o Iwerddon ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Ond er gwaethaf iddo gael ei gwblhau, mae cytundeb newydd a negodwyd rhwng yr UE a'r DU bellach yn golygu efallai na fydd angen gwirio'r rhan fwyaf o'r mewnforion.

Rhoddodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, y gorau i gunlluniau hefyd ar gyfer safleoedd tebyg yn Abergwaun a Doc Penfro, a dywedodd y bydd Parc Cybi yn parhau i gael ei adolygu nes bod manylion terfynol y cytundeb yn hysbys.

Mae Plaid Cymru yn galw am sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei digolledu am ei chyfraniad £7m at y prosiect.

Parc Cybi
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y safle yn aros yn wag am y tro

Mewn datganiad dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies "byddaf yn parhau i adolygu'r penderfyniad hwn hyd nes bod manylion terfynol y cytundeb â'r UE yn hysbys.

"Byddwn yna'n gallu gwneud cynlluniau tymor hwy ar gyfer y safle yng Nghaergybi.

"Yn y cyfamser, mae'n hanfodol ei fod yn barod a gellir ei ddefnyddio fel safle rheolaethau'r ffin posibl.

"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu rhybudd digonol i fasnachwyr a phartneriaid cyflenwi os bydd angen cyflwyno unrhyw wiriadau newydd ar y ffin."

Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU "ddealltwriaeth gyffredin" gyda'r UE gyda golwg ar negodi 'ardal iechydol a ffytoiechydol' a allai eithrio, os caiff ei gytuno, lawer o fewnforion anifeiliaid byw a nwyddau rhag gwiriadau iechydol a ffytoiechydol ar y ffin.

Mae manylion y cytundeb i'w trafod o hyd.

Er bod gwiriadau ar fewnforion o'r UE wedi dechrau ar 30 Ebrill 2024, ni chafodd unrhyw ddyddiad cychwyn ei gyhoeddi erioed ar gyfer mewnforion o Iwerddon.

Yn yr un modd â safleoedd rheolaethau'r ffin ledled Prydain, darparodd Llywodraeth y DU arian ar gyfer y gwaith adeiladu - yn yr achos hwn, £44m o gost o £51m a ysgwyddwyd hyd at ddiwedd 2024-25.

Mae adeiladu'r safle yng Nghaergybi bron wedi'i gwblhau, ac mae disgwyl i'r adeilad gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru yr hydref hwn.

Caergybi yw porthladd fferi prysuraf Môr Iwerddon, gan drin mwy na 75% o fewnforion o Iwerddon i Brydain.

Roedd disgwyl i'r safle greu swyddi yn yr ardal leol, gyda disgwyl i hyd at 30 o weithwyr fod ar y safle dros gyfnod o 24 awr.

'Natur anhrefnus Brexit'

Ymatebodd Plaid Cymru mewn datganiad ar y cyd gan Rhun ap Iorwerth AS, Llinos Medi AS a'r Cynghorydd Gary Pritchard trwy ddweud bod y penderfyniad yn "adlewyrchu natur anhrefnus y broses Brexit gyfan".

"Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi nodi bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd allan o boced o tua £7m oherwydd y Ganolfan Rheoli Ffin, er gwaethaf y ffaith fod Brexit yn fater a gedwir yn ôl i San Steffan.

"Ac yn lleol, fe gollwyd y cyfleuster parcio poblogaidd 'Truck Stop' i wneud lle i seilwaith ffin ôl-Brexit.

"Mae angen sicrwydd arnom gan San Steffan y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei digolledu am ei chyfraniad at y prosiect hwn, a bod unrhyw gyllid ychwanegol sydd ei angen i ailbwrpasu'r safle i'w ddefnyddio yn y dyfodol yn cael ei dalu'n llawn gan y Trysorlys.

"Rydym yn glir na ddylai Caergybi - a Chymru yn ehangach - gario cost Brexit caled a wnaed yn Llundain."