Gwrthod 'cyfle olaf' i sicrhau pwerau Ystâd y Goron i Gymru

Wrth apelio am gefnogaeth gan ASau o Gymru o bob plaid, fe ddywedodd AS Ynys Môn Llinos Medi bod cymunedau Cymru'n colli miliynau o bunnau y flwyddyn o arian Ystâd y Goron
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod galwad Plaid Cymru i drosglwyddo rheolaeth ar Ystâd y Goron yng Nghymru i weinidogion ym Mae Caerdydd.
Fe gyflwynodd AS Ynys Môn, Llinos Medi, newid i fil a fyddai'n rhoi cyfrifoldeb ar y Trysorlys i drosglwyddo rheolaeth o Ystâd y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru, gan ddisgrifio'r cynnig yn un o'r cyfleoedd olaf i'w datganoli i Gymru.
Ond fe ddywedodd Gweinidog y Trysorlys James Murray, wrth ASau yn San Steffan na fyddai cam o'r fath yn gwneud "unrhyw synnwyr yn fasnachol".
Mae Plaid Cymru a llywodraeth Lafur Cymru yn credu y dylid datganoli'r grymoedd yma fel bod arian sy'n cael ei godi o ffermydd gwynt a phrosiectau eraill yn gallu cael ei wario yng Nghymru.
Beth ydy Ystâd y Goron?
Y Brenin sy'n berchen ar Ystâd y Goron, ac mae'n helpu ariannu'r Teulu Brenhinol.
Mae gan yr ystâd dir gwerth dros £603m yng Nghymru, gan gynnwys 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir.
Fel y mae pethau'n sefyll, mae'r arian yn mynd i'r Trysorlys ac yn cael ei wario maes o law ar draws y DU.
Ond mae'r arian y mae Ystâd y Goron yn ei hawlio yn Yr Alban dan reolaeth y llywodraeth ddatganoledig yno, a pholisi Llywodraeth Cymru yw y dylai'r ystâd gael ei datganoli i Gymru hefyd.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, awgrymodd Llinos Medi bod 58% o ymatebwyr pôl piniwn "yn gefnogol" i newid o'r fath, ac mai'r "oll 'da ni'n gofyn ydy'r union yr un peth â sy'n digwydd yn Yr Alban ers 2017".
Dywedodd bod cymunedau yn Yr Alban wedi elwa o "dros £100m" o arian Ystâd y Goron y llynedd.
Er na awgrymodd ffigwr pendant yn achos Cymru, dywedodd bod "unrhyw adnodd ychwanegol i Gymru yn well na'r hyn sydd gennym ni rŵan", gan ddisgrifio'r drafodaeth yn San Steffan ddydd Llun fel "o bosib y cyfle olaf i Gymru i ddod â'n cyfoeth adref".

Mae gwerth dros £603m o dir ar draws Cymru ym meddiant y Goron, gan gynnwys 65% o'r arfordir
Wrth arwain yr alwad am newid wrth i Asau drafod Bil Ystâd y Goron yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun, dywedodd Ms Medi: "Dylai pobl Cymru fod yn berchen ar, ac yn elwa o, eu hadnoddau naturiol eu hunain.
"Drwy'r rhan helaeth o hanes Cymru, nid dyna fu'r achos, gydag adnoddau yn aml yn cael eu hecsbloetio er budd eraill."
Cyfeiriodd at "gopr Amlwch ar Ynys Môn, llechi Gwynedd, dur Port Talbot a Chasnewydd, a'r glo ar draws cymoedd y de ddwyrain", gan ddadlau bod unrhyw gyfoeth o'r diwydiannau hynny "wedi ei sugno" o gymunedau yng Nghymru "sydd ers hynny wedi eu difetha gan dlodi".
Ychwanegodd fod Cymru'n colli "miliynau o bunnoedd" bob blwyddyn" o'r herwyddd, gan ofyn: "Pam mae pobl Yr Alban yn cael y budd o'u hadnoddau dŵr, gwynt a môr eu hunain ond dydy pobl Cymru ddim?"
'£50m posib i gyllideb Cymru'
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod yn galw am ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron.
Dywedodd AS Aberhonddu, Sir Faesyfed a Chwm Tawe, David Chadwick: "Pe tai elw Ystâd y Goron yn aros yng Nghymru, fe fyddai'n cyfrannu £50m yn rhagor o gyllideb Llywodraeth Cymru.
"Fe fyddai hynny'n arian ychwanegol at gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, buddsoddiad economaidd a seilwaith yn ein cymunedau."
Yn gynharach ym mis Chwefror, fe wnaeth Prif Weinidog Llafur Cymru, Eluned Morgan, gydnabod yn y Senedd bod yna hollt o fewn y blaid ynghylch y mater.
"Mae yna sawl peth rydyn ni'n cytuno arno, ac mae yna bethau rydyn ni'n anghytuno arno - mae hwn yn un o'r pethau lle rydyn ni'n anghytuno," meddai.
Fe gadarnhaodd prif ysgrifennydd y Trysorlys, Darren Jones, bod y mater "wedi ei drafod ar lefel weinidogol".
Ond gwrthod y dadleuon dros newid gwnaeth Gweinidog Y Trysorlys, James Murray ddydd Llun.
Dywedodd na fyddai datganoli'r rheolaeth ar yr ystâd yng Nghymru "yn gwneud unrhyw synnwys yn fasnachol" o ran cynyddu capasiti ynni.
Ni fyddai 'chwaith, meddai, yn "cynyddu elw net Ystâd y Goron sydd wrth gwrs yn cael ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ar draws y wlad, ar draws Cymru ac yn rhannau eraill o'r DU".
'Cyfle i roi gwlad o flaen plaid'
Yn dilyn y drafodaeth, dywedodd Llinos Medi bod ASau Llafur Cymru "wedi cael cyfle gwirioneddol heddiw i roi eu gwlad o flaen eu plaid trwy bleidleisio o blaid fy ngwelliant...
"Mae'n hynod siomedig eu bod wedi methu â sefyll i fyny dros fudd pobol Cymru."
Dywedodd bod dim arwydd hyd yn hyn o fanteision cael Llafur mewn grym yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd "yn enwedig pan maen nhw'n parhau i danseilio ei gilydd mewn cysylltiad â materion allweddol fel hyn".
Fe wfftiodd hefyd awgrym Llywodraeth y DU y byddai datganoli rheolaeth Ystâd y Goron i Gymru "yn rhy gostus", gan ddadlau "na all Cymru fforddio mwyach i golli miliynau o bunnoedd o'n cymunedau bob blwyddyn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024