Cymru wedi gofyn am bwerau dros Ystâd y Goron - gweinidog y DU

Mae Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cael eu gorfodi i esbonio bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn iddyn nhw ystyried datganoli pwerau i Gymru dros Ystâd y Goron.
Y Brenin sy'n berchen ar Ystâd y Goron, ac mae'n helpu ariannu'r Teulu Brenhinol.
Mae gan yr ystâd dir sydd gwerth dros £603m yng Nghymru, gan gynnwys 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir.
Mewn ateb ysgrifenedig i aelod seneddol dechrau fis Ionawr, roedd gweinidog y Trysorlys, Darren Jones, wedi dweud nad oedd unrhyw drafodaethau wedi eu cynnal.
Ond roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan wedi mynnu ei bod yn lobïo Llywodraeth y DU i roi'r pwerau i Gymru.
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024
Yn dilyn cwestiynau pellach gan AS Ynys Môn, Llinos Medi, dywedodd Mr Jones bod y mater wedi codi rhwng gweinidogion Cymru a'r DU, ond fe bwysleisiodd nad oedd yn credu y byddai datganoli Ystâd y Goron o fudd i Gymru ar hyn o bryd.
Esboniodd "y gallai rannu'r farchnad ynni, cymhlethu prosesau presennol, ac o bosib oedi newidiadau i'r cysylltedd grid yn ogystal â datblygiad pellach o ynni ar y môr."
Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, yn credu y dylid datganoli'r grymoedd yma fel bod arian sy'n cael ei godi o ffermydd gwynt a phrosiectau eraill yn gallu cael ei wario yng Nghymru.
Dywedodd Darren Jones, prif ysgrifennydd y Trysorlys, bod yna drafodaethau cyson rhwng y ddwy lywodraeth, gan gynnwys "datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yng Nghymru".
Ond fe ychwanegodd nad oedd y ddwy ochr wedi trafod bwrw ymlaen â datganoli Ystâd y Goron.
"Fodd bynnag, mae'r mater wedi ei drafod ar lefel weinidogol," meddai mewn ateb ysgrifenedig i gwestiwn gan Llinos Medi.
'Achos pwysig i'n cenedl'
Mewn ateb cynharach, roedd Mr Jones wedi dweud yn syml: "Nid yw llywodraeth y DU wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystâd y Goron."
Yn ystod cwestiynau i'r prif weinidog ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ei fod yn "rhwystredig" nad oedd ASau Llafur wedi cefnogi gwelliant Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf i drosglwyddo rheolaeth dros Ystâd y Goron.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan bod "y llywodraeth yn parhau i gredu y dylid datganoli Ystâd y Goron", gan ychwanegu ei fod yn "achos pwysig i'n cenedl".