Dim trafodaethau ar ddatganoli Ystâd y Goron - gweinidog y DU

arfordir CymruFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerth dros £603m o dir ar draws Cymru ym meddiant y goron, gan gynnwys 65% o'r arfordir

  • Cyhoeddwyd

Mae Eluned Morgan wedi mynnu ei bod yn lobïo Llywodraeth y DU i roi pwerau i Gymru dros Ystâd y Goron, ar ôl i weinidog Trysorlys y DU ddweud na fu unrhyw drafodaethau.

Y Brenin sy'n berchen ar Ystâd y Goron, ac mae'n helpu i ariannu'r Teulu Brenhinol.

Mae gan yr ystâd dir sydd werth dros £603m yng Nghymru, yn cynnwys 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir.

Yn Yr Alban, mae'r arian mae Ystâd y Goron yn ei hawlio yn mynd i Lywodraeth Yr Alban, a pholisi Llywodraeth Cymru yw y dylai'r ystâd gael ei datganoli i Gymru hefyd.

Ond dywedodd gweinidog Trysorlys y DU, Darren Jones, nad oes unrhyw drafodaethau wedi'u cynnal.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan wrth y Senedd ei bod wedi "codi" y pwnc gyda'r Canghellor Rachel Reeves, ond dywedodd Plaid Cymru nad oedd hynny yr un peth â "thrafod gyda Llywodraeth y DU".

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Darren Jones wrth AS Plaid Cymru Llinos Medi: "Nid yw Llywodraeth y DU wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystâd y Goron."

Dywedodd Mr Jones y byddai sefydlu "endid newydd" yn cymhlethu prosesau presennol, gan rybuddio y gallai ohirio datblygiadau ynni gwynt ar y môr.

Yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mi fydd y prif weinidog yn gwybod bod Plaid Cymru wedi galw ers blynyddoedd lawer am ddatganoli Ystâd y Goron.

"Sôn ydyn ni am reoli ac elwa ar ein hadnoddau naturiol."

Dywedodd Eluned Morgan: "Dwi'n cwrdd yn aml gyda'r prif weinidog [Syr Keir Starmer], ac mae fy nirprwy [Huw Irranca-Davies] yn gyfrifol am faterion cyfansoddiadol.

"Gallaf ddweud yn glir wrthych chi eu bod nhw'n ymwybodol bod hwn yn rhan o'n polisi ni a'n bod ni eisiau gweld Ystâd y Goron yn cael ei datganoli."

Meddai Rhun ap Iorwerth: "Naill ai nid yw'n ymdrechu'n ddigon caled, neu mae ei chydweithwyr yn y Blaid Lafur yn ei rhwystro."

Dywedodd Ms Morgan wrtho: "Mae'r ysgrifennydd cyllid [Mark Drakeford] wedi cael trafodaethau'n ddiweddar iawn. Rwy'n codi'r pwnc gyda'r canghellor."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth nad yw "codi pethau" yr un peth â "thrafod gyda Llywodraeth y DU".

Ychwanegodd ef ar ôl y cyfarfod: "Gallai cael rheolaeth dros adnoddau naturiol Cymru olygu miloedd o swyddi newydd ac elw o brosiectau ynni adnewyddadwy yn cael eu hail-fuddsoddi mewn ffordd sydd o fudd i gymunedau Cymru - fel sy'n digwydd yn Yr Alban."