Neil Foden yn 'deall bod ei berthynas â merch yn amhriodol'
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth ysgol yng Ngwynedd, sydd wedi'i gyhuddo o gam-drin pum merch yn rhywiol, wedi dweud ei fod yn deall fod ei berthynas â merch ifanc yn "amhriodol", ond gwadodd fod unrhyw gysylltiad rhywiol rhwng y ddau.
Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
- Cyhoeddwyd7 Mai 2024
- Cyhoeddwyd3 Mai 2024
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fore Mercher y byddai Mr Foden wedi mynd ag un o'r achwynwyr - sy'n cael ei chyfeirio ati fel Plentyn A - am dripiau yn ei gar ar "bump neu chwe achlysur".
"Ro'n i'n chwilio am lefydd i fynd i gael cerdded a siarad," meddai Mr Foden, ond nododd eu bod nhw wastad yn aros yn y car yn y pendraw.
"Roedd ganddi (Plentyn A) ryw ffantasi am eistedd mewn car ac edrych allan ar yr olygfa, felly dyna wnaethon ni."
Gofynnodd yr amddiffyniad iddo os oedd o'n teimlo bod y tripiau hyn yn "briodol", na oedd ei ymateb.
Wrth geisio egluro pam ei fod o wedi gwneud hynny, cymharodd y sefyllfa gydag archwilio ogofâu.
Dywedodd: "'Da chi'n gwybod pan 'da chi'n mynd mor bell, a 'da chi methu troi nôl? Roedd hi'n gweld gwerth yn y sgyrsiau yma."
Cafodd ei holi os oedd y berthynas wedi troi yn un rhywiol, na oedd ei ateb.
"Doeddwn i ddim eisiau hi mewn ffordd rywiol, doeddwn i ddim eisiau hi mewn ffordd ramantus."
Cafodd Mr Foden ei holi wedyn am nifer o negeseuon WhatsApp a gafodd eu hanfon rhwng y ddau yn hwyr fin nos oedd yn sôn am "gariad a chusanau".
"Es i mewn i'r arfer o yrru negeseuon annwyl ati er mwyn ceisio gwneud iddi deimlo yn well," meddai.
Dywedodd hefyd nad oedd o wedi trafod y mater gydag unrhyw un arall: "Ro'n i'n deall ei fod o'n amhriodol, doedd dim angen i mi drafod y peth gydag unrhyw un arall."
Wrth gyfeirio at neges o natur rywiol wnaeth Mr Foden ei hanfon at Blentyn A - oedd eisoes wedi cael ei dangos i'r llys - eglurodd ei fod wedi disgrifio'r weithred gan ei bod hi wedi holi am y peth.
Dywedodd bod y neges yn edrych fel ei fod o'n awgrymu mai dyna yr oedd o am ei wneud iddi hi, gan fod y cynnwys "allan o gyd-destun".
- Cyhoeddwyd2 Mai 2024
- Cyhoeddwyd1 Mai 2024
Ychwanegodd nad oedd o erioed wedi gofyn i'r ferch yrru lluniau a fideos, er iddo gydnabod nad oedd o wedi dweud wrthi stopio, gan "nad oedd o eisiau ei hypsetio".
"Byddwn yn canmol ei hedrychiad ar-lein, ond pan roedden ni gyda'n gilydd ro'n i'n dweud wrthi fod hynny yn amhriodol," meddai.
Nododd ei fod "yn aml" yn dileu'r negeseuon WhatsApp oedd yn cynnwys lluniau, ac nad oedd o'n deall eu bod nhw wedi eu harbed yn rhywle arall ar ei ffon.
Dywedodd ei fod o wedi darganfod y lluniau a'u dileu gan ei fod yn poeni fod tad Plentyn A wedi eu gweld. "Do'n i ddim yn ymwybodol fod yr heddlu wedi cael eu galw," meddai.
Cafodd y prifathro ei holi hefyd am ei berthynas gyda'r achwynwyr eraill yn yr achos.
Dywedodd nad oedd erioed wedi gafael yng ngwddf Plentyn B, a'i fod yn ymwybodol nad oedd y ferch yn hoffi hynny.
"Mae'n bosib fy mod i, ar un neu ddau o achlysuron, wedi cyffwrdd ei hysgwydd chwith, ond dim ei gwddf," meddai.
Ychwanegodd nad oedd o erioed "wedi gwneud iddi neidio" ac nad oedd unrhyw gysylltiad rhywiol rhwng y ddau.
Cwrdd 'oddeutu bob 10 diwrnod'
Clywodd y llys fod Mr Foden yn cwrdd â Phlentyn C oddeutu bob 10 diwrnod.
Nododd bod y ferch yn poeni yn fawr am ei hedrychiad: "Roedd hi'n pinsio rhannau o'i hun. Roedd hi weithiau yn pinsio ei chlun a'i stumog."
Gwadodd ei fod o erioed wedi gwasgu rhannau o'i chorff, gan wadu hefyd bod unrhyw gysylltiad rhywiol wedi bod rhwng y ddau.
Clywodd y llys y byddai Mr Foden yn rhoi ei fraich o gwmpas Plentyn C os oedd hi'n teimlo'n drist, ac y byddai wastad yn gofyn cyn gwneud. Mynnodd nad oedd unrhyw awgrym ei bod hi'n anghyfforddus gyda hynny.
Dywedodd nad oedd o erioed wedi rhoi ei law dan ddillad Plentyn C, wedi cyffwrdd y croen ar ei chefn na chwaith wedi cyffwrdd ei gwallt.
Cwynion yn 'annisgwyl'
Wrth gael ei holi ynglŷn â'i berthynas gyda Phlentyn D, dywedodd nad oedd o wedi "fflyrtio" gyda hi, ac mai'r unig gysylltiad corfforol rhwng y ddau oedd un achos lle wnaeth o gyffwrdd ei hysgwydd.
Nododd nad oedd o erioed wedi rhoi ei law dan sgert y ferch, na chwaith wedi ei hatal yn gorfforol.
Gofynnwyd i Mr Foden hefyd a oedd o erioed wedi disgwyl y byddai unrhyw gwynion yn cael eu gwneud ynglŷn â'i ymddygiad.
Eglurodd nad oedd o wedi disgwyl hynny, ac nad oedd o erioed wedi ymosod yn rhywiol ar unrhyw un o'r merched.
Yn ddiweddarach brynhawn Mercher wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr yr erlyniad, John Philpotts, ynghylch a oedd Plentyn E yn dweud celwydd, atebodd Mr Foden bod "celwyddgi yn derm negyddol, ond dyw hi ddim yn dweud y gwir".
"Os yw hi'n dweud celwydd," meddai Mr Philpotts, "maen nhw yn gelwyddau reit gas, a beth yw hyn heblaw dweud celwydd?"
"Rwy'n derbyn hynny," meddai Mr Foden.
Yna, gan enwi y rhai a oedd wedi gwneud cwyn fe ofynnodd y bargyfreithiwr a oedden nhw i gyd yn dweud celwydd amdano.
"Ydyn," meddai Mr Foden ar ôl enw pob un, gan ychwanegu nad oedd yn gallu meddwl pam fydden nhw'n gwneud hynny.
'Ddim wedi aros yn yr un gwesty'
Wrth gael ei holi ymhellach am ei gofnodion banc a rhai Plentyn E a oedd yn dangos bod y ddau wedi bod yn yr un gwestai a lleoliadau y tu allan i Wynedd ar yr un pryd, fe wadodd Mr Foden bod y ddau wedi bod yn yr un gwesty gyda'i gilydd.
Ychwanegodd nad oedden nhw wedi rhannu ystafell nac wedi cael cyfathrach rywiol, a dywedodd nad oedd o erioed wedi gweld Plentyn E yn y gwestai hynny.
Yna dangosodd Mr Philpotts lun i Neil Foden a oedd wedi cael ei dynnu o un o'r ystafelloedd gwesty yr oedd yn derbyn iddo aros ynddi, a llun arall o'r un olygfa gan Blentyn E - llun oedd wedi'i dynnu ar yr un dyddiad yr oedd cofnodion yn dangos iddo aros yno.
"Mae'n amlwg yr un rhan o'r gwesty," meddai Mr Foden, ond gwadodd fod Plentyn E wedi bod yn aros yno gydag o.
Wrth gaei ei holi am gofnodion banc ar sawl trip siopa yng ngogledd-orllewin Lloegr, dywedodd Mr Foden eu bod gyda'i gilydd ar y troeon hynny.
Dangoswyd i Mr Foden hefyd gefynnau les, ac wrth gael ei holi am eglurhad bod DNA Plentyn E arnynt, dywedodd nad oedd o wedi'u defnyddio arni, gan ychwanegu na allai egluro'r rheswm am y DNA ond ei bod wedi cyffwrdd ag eitemau eraill yn yr un lle.
Gwadodd eu bod ar gyfer tripiau i westai, ac ychwanegodd bod cyn-gariad wedi'u prynu iddo.
Cafodd Mr Foden ei holi hefyd am gyfres o negeseuon Whatsapp rhyngddo fo a Phlentyn A, a hynny wedi iddi ofyn cwestiwn iddo am ryw trwy'r genau.
Wrth gaei ei holi beth oedd yn ei wneud yn trafod rhyw o'r fath gyda merch yn ei harddegau, dywedodd Mr Foden nad oedd yn teimlo'n anghyfforddus a'i fod wedi cael ei holi am faterion rhywiol o'r blaen.
Mae'r achos yn parhau.