Neil Foden 'wedi holi merch am ei bywyd rhywiol'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Clywodd llys bod Neil Foden wedi gofyn i ferch rannu manylion am ei bywyd rhywiol, gan awgrymu y byddai dynion "drosti".
Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
- Cyhoeddwyd1 Mai 2024
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau gan ferch yn ei harddegau a ddywedodd y byddai Mr Foden yn cyffwrdd "ei choesau, ei chanol a'i phen ôl".
Mewn cyfweliad gyda'r heddlu, a gafodd ei chwarae i'r llys, dywedodd y ferch - sy'n cael ei chyfeirio ati fel Plentyn D - y byddai Mr Foden hefyd yn ei holi am ei bywyd rhywiol.
Dywedodd Plentyn D ei bod hi wedi cwrdd â Mr Foden rhwng 15-20 o weithiau.
Mae hi'n honni y byddai'n ymddwyn mewn modd "flirty", yn gofyn cwestiynau personol am yr hyn y byddai'n ei wneud gyda'i chariad a hefyd yn cloi'r ystafell yr oedden nhw ynddi ar adegau.
Ychwanegodd Plentyn D y byddai Mr Foden yn cyffwrdd ei choesau a'i hysgwyddau ac yn dweud wrthi ei bod "yn ddynes ifanc ddeniadol iawn" ac y "byddai dynion drosti".
Fe eglurodd ei bod hi'n meddwl bod ei ymddygiad yn "rhyfedd".
Aeth ymlaen i sôn am un achos lle'r oedd hi "wedi ypsetio ac yn crio" ac roedd Mr Foden yn dal ei chorff yn dynn.
"Doeddwn i methu symud," meddai, "roedd o'n anadlu ar fy ngwar, yn rhoi ei wefusau ar fy ngwddf ac yn pwyso'n galed ac anadlu o amgylch fy nghlust".
Dywedodd bod Mr Foden yn rhwbio ei ddwylo ar ei phen-ôl dan ei sgert, ac ar ei choesau.
"Nes i drio symud i ffwrdd, ro'n i'n crio ac yn ysgwyd... nes i gerdded adref ac ro'n i'n poeni gymaint am y peth."
Dywedodd y ferch ei bod hi wedi dweud wrth ei chariad a'i fod o wedi ceisio ei pherswadio i ddweud wrth ei theulu, ond nad oedd hi wedi adrodd unrhyw beth tan ar ôl i Mr Foden gael ei arestio fis Medi y llynedd.
'Perfformio gweithred ryw ar alwad fideo'
Nododd Plentyn D hefyd fod merch arall, sy'n cael ei chyfeirio ati yn yr achos fel Plentyn A, wedi dweud wrthi ei bod mewn perthynas â dyn llawer hŷn - a'i bod hi wedi datgelu yn hwyrach mai Mr Foden oedd y dyn yma.
Roedd Plentyn A wedi dweud wrthi y byddai'r ddau yn mynd ar dripiau yn y car, lle byddai Mr Foden yn perfformio gweithredoedd rhyw, meddai.
"Dywedodd hi [Plentyn A] y byddai o'n ei chyffwrdd, ac nad oedd hi'n hoffi hynny, a'i bod hi wedi gofyn iddo stopio.
"Byddai'n gwenu ac yn cario ymlaen. Roedd hi'n dweud ei bod hi'n ei garu, ond nad oedd hi'n hoffi hynny."
Ychwanegodd bod y ferch wedi dweud wrthi fod Mr Foden wedi perfformio gweithred ryw ar alwad fideo, a'i bod hi wedi dangos llun yr oedd hi wedi ei dynnu o'r sgrin yn ystod yr alwad honno.
Fe wnaeth hi geisio perswadio Plentyn A i roi gorau i gwrdd â Mr Foden, meddai: "Fe wnes i drio egluro nad oedd yn iawn."
Wrth gael ei chroesholi gan Duncan Bould ar ran yr amddiffyniad, gofynnwyd i Blentyn D egluro pam nad oedd hi wedi dweud wrth Blentyn A fod Mr Foden wedi gwneud pethau tebyg iddi hi.
"Roedd hi mewn cariad," meddai. "Byddwn i wedi gwneud unrhyw beth i osgoi torri ei chalon. Do'n i ddim eisiau iddi hi fy nghasáu."
Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham yr oedd hi wedi parhau i gwrdd â Mr Foden, dywedodd y ferch ei bod hi'n "anodd disgrifio pam".
Cafodd ei chwestiynu wedyn am negeseuon yr oedd hi wedi anfon i'w chariad ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd yn cynnwys honiadau am yr hyn yr oedd Mr Foden wedi ei wneud iddi.
"Ges di gais gan yr heddlu i adael iddyn nhw lawrlwytho cynnwys dy ffôn. Fe wnes di wrthod?" meddai Mr Bould.
"Do. Dywedais i na," oedd ymateb Plentyn D.
Dywedodd Mr Bould: "Rydw i'n awgrymu eich bod chi wedi creu'r honiadau yma, ac nad yw wedi gwneud y pethau yma i chi?" a bod Mr Foden "erioed wedi rhoi ei ddwylo ar eich corff".
"Mae o wedi," oedd ei hateb.
Fe gwestiynodd Mr Bould hefyd yr awgrym fod drws wedi cael ei gloi pan yr oedd Mr Foden mewn ystafell gyda Phlentyn D.
'Gwybod ei fod yn anghywir'
Yn ddiweddarach clywodd y llys gan fam Plentyn D, a ddywedodd fod ei merch wedi siarad â hi ar ôl gweld stori newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol fod Mr Foden wedi'i arestio.
Dywedodd fod ei merch wedi ymddiried ynddi a’i bod wedi bod “mewn trallod”, “yn drist” ac yn “ddig”.
Roedd ei merch yn “gwybod ei fod yn anghywir ac yn amhriodol”, meddai, a dywedodd fod adroddiadau wedi’u gwneud i’r heddlu ychydig wythnosau’n ddiweddarach.
Clywodd y llys hefyd gan dyst a oedd yn cofio gweld Mr Foden “yn agos” a gyda'i “ddwylo ar ben-glin” merch yn ei harddegau.
Dywedodd fod “dim ymgais wedi'i wneud” gan Mr Foden i symud ei law i ffwrdd.
Mae'r achos yn parhau.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.