Dedfrydu mam laddodd ei mab, 6, i gyfnod amhenodol mewn ysbyty

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion a allai beri gofid i rai

Karolina ZurawskaFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Karolina Zurawska (uchod) a'i mab, Aleksander, yn "addoli" ei gilydd

Mae mam a laddodd ei mab chwech oed tra'n dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd wedi cael gorchymyn ysbyty amhenodol.

Ddechrau fis Mawrth fe wnaeth Karolina Zurawska, 42, bledio'n euog i ddynladdiad ei mab Aleksander Zurawski.

Bu farw'r bachgen yn eu cartref ar Glos Cwm Du, Gendros yn Abertawe ar 29 Awst 2024.

Ceisiodd Zurawska hefyd lofruddio ei thad 67 oed, Krzysztof Siwy, yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Clywodd Llys y Goron Abertawe iddi ladd ei mab trwy ddefnyddio llif llaw i geisio torri ei ben i ffwrdd wedi iddi glywed "lleisiau dieflig".

Clywodd y llys hefyd fod Zurawska wedi bod y "fam orau" i'w mab, a oedd yn gwella o diwmor ar yr ymennydd a oedd wedi'i adael yn rhannol ddall ac angen ffon i gerdded.

Aleksander ZurawskiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aleksander Zurawski yn ei gartref ar Glos Cwm Du, Gendros y llynedd

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC wrth y llys ddydd Gwener ei fod yn gosod y gorchymyn gan wybod na fyddai hi byth yn cael ei rhyddhau o bosib.

"Nid yw'r gair 'trasig', sy'n cael ei orddefnyddio'n aml, yn dechrau adlewyrchu erchyllter yr hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw i Aleks," meddai.

"Roeddech chi'n addoli eich gilydd ac roedd e'n ymddiried ynoch chi.

Clywodd y llys mai barn unfrydol tri seiciatrydd fforensig ymgynghorol profiadol iawn oedd ei bod hi'n dioddef pennod seicotig o sgitsoffrenia paranoiaidd.

"Effeithiodd ar eich cyflwr meddwl gymaint nes iddo effeithio ar eich gallu i ddeall yr hyn yr oeddech chi'n ei wneud," meddai'r Barnwr Thomas.

Dywedodd wrth Zurawska nad yw hwn yn achos sy'n galw am gosb, ond am "gymorth meddygol parhaus, mae'n debyg gydol oes".

'Straen enfawr'

"Hyd yn oed os byddwch chi'n gwella o'r salwch meddwl hwn, bydd baich yr hyn a ddigwyddodd bob amser gyda chi," meddai.

"Yn anffodus, o'i enedigaeth, roedd gan Aleksander broblemau meddygol dwys ac fe achosodd y tiwmor ar ei ymennydd gymhlethdodau a gafodd effaith enfawr ar ei fywyd," ychwanegodd y barnwr.

"Fe wnaethoch chi ymroi i fod yn ofalwr iddo, i ddarparu popeth yr oedd ei angen arno gan wneud hynny'n effeithiol fel rhiant sengl i bob pwrpas.

"Mae'n rhaid bod y straen arnoch chi wedi bod yn enfawr."

Dywedodd fod "tystiolaeth gref" ei bod yn ymddwyn mewn "modd anarferol", ond ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld beth fyddai'n digwydd cyn y diwrnod hwnnw.

Ychwanegodd y barnwr ei bod wedi cofleidio ei thad, wedi dweud wrtho ei bod yn ei garu, cyn "ymosod arno deirgwaith" gyda'r bwriad o'i ladd.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Davies: "Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig a thrallodus iawn sydd wedi cael effaith ddofn ar gymuned gyfan Gendros, yn ogystal â staff a disgyblion ysgol Aleksander.

"Roedd y gymuned leol yng Ngendros yn rhagorol o ran eu cefnogaeth i'n hymchwiliad ar adeg hynod anodd.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Aleksander."

Pynciau cysylltiedig