Mam yn pledio'n euog i ddynladdiad ei mab 6 oed

Karolina Zurawska
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Karolina Zurawska wedi'i chyhuddo o lofruddio ei mab a cheisio llofruddio ei thad

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi pledio'n euog i ddynladdiad ei mab chwech oed yn Abertawe.

Bu farw Alexander Zurawski mewn eiddo ar Glos Cwm Du, Gendros ar 29 Awst 2024.

Wrth siarad gyda chymorth cyfieithydd yn Llys y Goron Abertawe, plediodd Karolina Zurawska, 41, yn euog hefyd i geisio llofruddio ei thad Krzysztof Siwy.

Clywodd y llys bod ganddi sgitsoffrenia paranoiaidd ar y pryd a'i bod yn pledio ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Fe fydd hi'n cael ei chadw yn y ddalfa nes iddi hi gael ei dedfrydu ar 25 Ebrill 2025.

Alexander ZurawskiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Alexander Zurawski mewn eiddo ar Glos Cwm Du, Gendros ar 29 Awst 2024

Mae teulu Alexander eisoes wedi dweud ei fod yn "blentyn caredig iawn" a'i fod "wrth ei fodd yn chwarae gyda'i chwaer fach a'i gi, Daisy".

"Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg," meddai'r deyrnged.

"Roedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.

"Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu. Bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau.

"Roedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddai'n aml yn cywiro ei rieni gyda'u Saesneg os oedden nhw'n cael geiriau'n anghywir.

"Roedd yn anhygoel."