Carcharu dyn am 14 mlynedd wedi ymosodiad 'ffiaidd'

Steven ChappellFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chappell wedi dweud wrth yr heddlu bod y ffrae yn ymwneud ag arian i brynu cyffuriau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wnaeth gicio a dyrnu dyn arall y tu allan i dafarn ym Mhorthcawl yn ystod ffrae am £50 wedi cael ei ddedfrydu i 14 mlynedd o garchar am ddynladdiad.

Bydd yn rhaid i Steven Chappell, 29 oed o Gwmdâr yn Rhondda Cynon Taf, dreulio dau draean o'r cyfnod hwnnw dan glo cyn bod modd ystyried parôl.

Bu farw Daniel Bradley, 32, o sepsis yn yr ysbyty ar 23 Medi y llynedd - bythefnos wedi'r ymosodiad y tu allan i dafarn y Brogden.

Yn ogystal â'r ddedfryd o 14 mlynedd o garchar, bydd Chappel hefyd ar drwydded am ddwy flynedd wedi iddo gael ei ryddhau.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd yn ystod yr achos fod yr ymosodiad wedi digwydd wrth i Mr Bradley adael tafarn y Brogden ym Mhorthcawl yn oriau man 9 Medi y llynedd.

Roedd Chappell wedi dweud wrth yr heddlu bod y ffrae yn ymwneud ag arian i brynu cyffuriau, a'i fod o wedi rhoi benthyg £50 i Mr Bradley er mwyn iddo brynu cocên.

Dywedodd Bradley fod Chappell wedi camddeall y sefyllfa ac nad oedd ganddo'r arian.

Cafodd y digwyddiad ei recordio ar gamerâu cylch cyfyng, ac mae'r lluniau'n dangos Chappell - oedd ar faglau ar y pryd - yn cicio a dyrnu Mr Bradley sawl tro mewn dau ymosodiad ar wahân.

Roedd yr ymosodiad cyntaf y tu allan i'r dafarn, a'r ail ar Nicholls Avenue.

Clywodd y llys fod person oedd yno ar y pryd wedi clywed Chappell yn dweud "ti'n lwcus fy mod i ar faglau, achos fyswn i'n dy ladd di".

Cafodd Mr Bradley ei glywed yn gwadu bod arno fo'r arian i Chappell.

Ffynhonnell y llun, GEOGRAPH / JAGGERY
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i dafarn y Brogden ym Mhorthcawl

Fe aeth mam Mr Bradley i'w weld yn ei gartref deuddydd wedi'r ymosodiad. Roedd ei drwyn yn gwaedu, ei frest a'i ochr wedi cleisio ac roedd yn gorwedd yn y gwely gyda bagiau o rew o'i gwmpas.

Cafodd ei gludo i'r adran frys yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac wedi archwiliadau meddygol daeth i'r amlwg ei fod wedi torri asen.

Cafodd Mr Bradley ei ryddhau o'r ysbyty, ond yn y dyddiau wedi hynny roedd yn teimlo'n rhy wael i dreulio amser gyda'i blant, a doedd ddim yn gallu codi o'i wely.

O ganlyniad, cafodd ei gludo i'r ysbyty unwaith eto ar 15 Medi, lle cafodd ataliad ar y galon a chafodd diagnosis o sepsis difrifol.

Dywedodd ei fam, Barbara Rees: "Doedd gen i ddim syniad pa mor wael oedd e tan fod y doctor wedi dweud eu bod wedi rhoi cymorth cyntaf iddo am 20-30 munud.

"Fe wnaethon nhw lwyddo i'w adfywio, ond fe esboniodd y doctor ei fod yn wael iawn ac y gallen ni ei golli," meddai.

Roedd Mr Bradley wedi dioddef anaf difrifol i'w ben gafodd ei achosi gan ddiffyg ocsigen i'r ymennydd, a bu farw yn yr uned gofal dwys ar 23 Medi.

Ymosodiad 'ffiaidd'

Dywedodd y barnwr yn yr achos, Tracey Lloyd-Clarke fod yr ymosodiad yn un "ffiaidd" wnaeth achosi "galar a phoen ofnadwy".

Fe wnaeth hi ddweud wrth Chappel ei fod yn ddyn gyda hanes hir o drais ac nad oedd wir yn edifar am yr hyn a ddigwyddodd.

Ychwanegodd ei bod yn cydymdeimlo gyda theulu Mr Bradley, a'i bod hi'n deall na fyddai'r ddedfryd yn tawelu'r galar a'r boen y maen nhw'n ei deimlo.

Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad: "Mae'r achos yma yn dangos y sgil effeithiau ofnadwy y mae'r fath yma o ymosodiadau yn gallu ei gael.

"Byddwn yn annog eraill i feddwl am sut y gallai'r fath benderfyniad effeithio ar weddill eich bywyd, ac o bosib, dod â bywyd rhywun arall i ben."

Pynciau cysylltiedig