Hysbyseb Gymraeg yn drysu ac yn difyrru pobl Glasgow

Yr hysbyseb yn GlasgowFfynhonnell y llun, Pádraig Durnin
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Scottish Power tua 3.5 miliwn o gwsmeriaid

  • Cyhoeddwyd

Mae bwrdd hysbysebu yn cynnwys neges Gymraeg wedi ymddangos yn Glasgow.

Cafodd llun o’r bwrdd, sy’n esbonio beth i wneud os fydd toriad pŵer, ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol ar ôl i bobl leol sylwi ar y cynnwys anarferol.

Wedi ymddangos yn ninas fwyaf yr Alban, roedd gan yr arwydd gan SP Energy Networks gyngor yn Saesneg hefyd.

Dywedodd cwmni Scottish Power, perchnogion SP Energy Networks, eu bod yn gobeithio fod pobl Glasgow "wedi mwynhau eu cyflwyniad byr i harddwch yr iaith wych hon".

Mae'r arwydd yn darllen: "Os bydd toriad pŵer, ffoniwch ni ar 105, dim ots i bwy rydych chi'n talu eich bil."

Y rheswm tebygol dros y camgymeriad yw bod gan Scottish Power filiynau o gwsmeriaid, gyda miloedd ohonyn nhw yng ngogledd Cymru.

Mae nifer wedi bod yn tynnu coes ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r peth, gydag un yn dweud:

"Govanhill is turning into Little Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch".

Ffynhonnell y llun, Bluesky

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Scottish Power:

“Mae’n wych gweld ein hysbysebion ymgyrch gaeaf yn cael sylw tra’n gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth i’w wneud os bydd toriad pŵer.

“Tra bod ein fersiwn dwyieithog yn dangos bod 105 yn 105 mewn unrhyw iaith (!), fe wnawn ni’n siŵr bod yr hysbyseb ond yn rhedeg lle mae i fod.

"Yn y cyfamser, rydyn ni'n gobeithio bod pobl Glasgow wedi mwynhau eu cyflwyniad byr i harddwch yr iaith wych hon. Iechyd da!"

Pynciau cysylltiedig