Beth sy'n wynebu Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd?
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn darganfod ddydd Gwener pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Yn ogystal â gwybod pwy fydd rhyngddyn nhw a lle yn y rowndiau terfynol yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico yn 2026, bydd tîm Craig Bellamy yn dysgu a fyddan nhw mewn grŵp o bedwar neu bump.
Bydd y gemau'n cael eu chwarae rhwng mis Mawrth a Thachwedd 2025, a'r gemau ail gyfle (pe bai angen) fis Mawrth 2026.
Ar ôl aros 64 o flynyddoedd i gyrraedd y rowndiau terfynol am yr eildro yn unig yn Qatar 2022, bydd Cymru'n gobeithio selio eu lle am yr eildro yn olynol.
Bydd yr enwau yn cael eu tynnu o'r het yn Zurich am 11:00 fore Gwener.
Dyma grynhoi sut felly y gall Cymru ennill eu lle yn y gystadleuaeth ymhen dwy flynedd.
Gwrthwynebwyr posib
Yn seiliedig ar restr detholion FIFA, bydd Cymru ym mhot rhif 2 - sy'n golygu, ar bapur o leiaf, mai un tîm 'gwell' na nhw fydd yn y grŵp.
Ond dyw hi ddim yn glir eto a fydd Cymru mewn grŵp yn cynnwys pedwar neu bum tîm, yn dilyn newidiadau i'r strwythur gan y trefnwyr.
Felly mi fydd yr hyn sy'n digwydd yn y Swistir ddydd Gwener yn arwyddocaol o ran y broses gynllunio i Craig Bellamy a'i dîm hyfforddi.
Sut mae timau'n cymhwyso?
Mae yna 16 lle yn y fantol i wledydd Ewrop - tri yn fwy na'r tro diwethaf wrth i'r gystadleuaeth gynyddu mewn nifer o 32 i 48 o wledydd.
Bydd enillwyr y 12 grŵp yn y gemau rhagbrofol Ewropeaidd yn sicrhau ei lle yn y rowndiau terfynol.
Yna, bydd y 12 yn yr ail safle, ynghyd â'r pedwar prif ddetholion o Gynghrair y Cenhedloedd (fydd ddim drwodd yn barod) yn brwydro drwy'r gemau ail gyfle.
Bydd rownd gynderfynol ac yna rownd derfynol i benderfynu enillwyr y gemau ail gyfle, a hynny dros un cymal yn unig.
Ydy Cymru eisioes yn y gemau ail gyfle?
I bob pwrpas, ydy, oherwydd eu hymdrechion yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni.
Drwy ennill eu grŵp a chael dyrchafiad yn ôl i'r brif haen, mae tîm Craig Bellamy wedi rhoi hwb sylweddol i'w gobeithion o gyrraedd y rowndiau terfynol.
Mae'n bur debygol na fydd enillwyr grwpiau Adran A Cynghrair y Cenhedloedd angen y llefydd ail gyfle ac yn ennill eu grwpiau, sy'n golygu y byddai'r safleoedd hynny yn ei dro yn disgyn i enillwyr Adran B, sy'n cynnwys Cymru.
Felly hyd yn oed pe na bai Cymru'n gorffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp, y tebygolrwydd yw y byddan nhw'n sicr o le yn y gemau ail gyfle.
Ond y nod, wrth gwrs, yn ôl rheolwr Cymru, yw osgoi'r opsiwn yma, ar ôl dod mor agos at gyrraedd Ewro 2024.
Y dyddiadau pwysig
Grwpiau'n cael eu penderfynu
Dydd Gwener 13 Rhagfyr
Cyfnod y gemau grŵp
Mawrth - Tachwedd 2025
Gemau ail gyfle
26 a 31 Mawrth 2026
Y rowndiau terfynol
11 Mehefin - 19 Gorffennaf 2026
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024