Ymosodwr Cymru Kieffer Moore yn ymuno â Wrecsam

Llun o Kieffer MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Kieffer Moore yn gadael Sheffield Unietd i ymuno â thîm arall yn y Bencampwriaeth - Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed Wrecsam wedi cadarnhau bod ymosodwr Cymru, Kieffer Moore yn ymuno â'r clwb ar gytundeb tair blynedd o Sheffield United.

Dydyn nhw ddim wedi datgelu'r ffi ar gyfer y chwaraewr 32 oed, sydd wedi ennill 49 cap dros Gymru, ond mae adroddiadau'n awgrymu bod y ffi tua £2m.

"Rwyf wrth fy modd yn ymuno â'r clwb ac alla i ddim aros i ddechrau," meddai Moore.

"Hoffwn fod yn arweinydd profiadol gan gynnig llawer i'r tîm.

"Mae fy ethos gwaith yw un o fy asedau cryfaf a hoffwn fod yn rhywun all helpu i roi hwb i'r tîm," ychwanegodd

Moore yw'r wythfed chwaraewr i ymuno â Wrecsam yr haf hwn wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu tymor cyntaf yn y Bencampwriaeth ers 1982.

Dywedodd rheolwr Wrecsam Phil Parkinson: "Rydym wrth ein boddau yn croesawu Kieffer i'r clwb.

"Mae'n chwaraewr sydd â llawer o brofiad yn y Bencampwriaeth ac yn rhyngwladol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef."

Ymunodd Moore â Sheffield United, sydd hefyd yn y Bencampwriaeth, ar gytundeb tair blynedd ym mis Gorffennaf 2024 a sgoriodd bum gôl mewn 28 gêm y tymor diwethaf.

Mae wedi cynrychioli Bournemouth, Ipswich Town a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn y gorffennol.

Bydd gêm agoriadol Wrecsam yn y Bencampwriaeth yn erbyn Southampton ddydd Sadwrn yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.