Wrecsam yn creu hanes wrth ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth

Sam Smith yn sgorio ail gôl Wrecsam yn erbyn Charlton Athletic ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth ar ôl curo Charlton Athletic o dair gôl i ddim yn y STōK Cae Ras.
Dyma'r tro cyntaf i dîm yn haenau uchaf cynghrair Lloegr gael dyrchafiad tri thymor yn olynol.
Roedd angen buddugoliaeth ar Wrecsam i ennill y dyrchafiad awtomatig ddydd Sadwrn ar ôl i Wycombe Wanderers - sy'n drydydd yn y cynghrair - golli yn erbyn Leyton Orient yn gynharach yn y dydd.
Oliver Rathbone a Sam Smith sgoriodd i Wrecsam, gyda dwy gôl yn dod yn yr hanner cyntaf a'r trydydd gan Smith yn dod yn yr ail hanner.
Mae'r dyrchafiad yn bennod anhygoel arall yn hanes diweddar y clwb.
Fe wnaeth y sêr Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, brynu'r clwb ym mis Chwefror 2021 ac ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth ar ôl treulio 15 mlynedd yn y bumed haen.
Bellach, mae actorion a cherddorion byd enwog ymhlith y rhai sydd wedi gwylio Wrecsam yn codi drwy'r cynghreiriau yn y Cae Ras, tra bod cynlluniau cyffrous i ddatblygu'r stadiwm ymhellach.
Yr ymateb
Wedi'r gêm wrth siarad gyda Sky News, dywedodd blaenwr Wrecsam Paul Mullin ei bod hi wedi bod yn "ymdrech tîm.
"Mae'r tîm eleni wedi bod yn anghredadwy.
"Edrychwch ar y cefnogwyr yma, mae nhw yn wirioneddol haeddu hwn, a dwi mor hapus dros bawb."
Dywedodd rheolwr Wrecsam Phil Parkinson ei fod wedi mwynhau.
"Dwi am fwynhau yr eiliad yma."
"Roedden ni wedi ffocysu heno a phan aeth y drydedd gôl i mewn roedd hi yn foment berffaith."
Ymhlith y cyntaf i longyfarch y Dreigiau oedd prif weinidog Cymru, Eluned Morgan, a ddywedodd ar X (Twitter yn flaenorol): "Llongyfarchiadau mawr Wrecsam. Tri dyrchafiad yn olynol. Mwynhewch y dathliadau."
Bydd tîm Phil Parkinson yn chwarae nesaf yn erbyn Lincoln City oddi cartref ar ddydd Sadwrn, 3 Mai - eu gêm olaf o'r tymor.
- Cyhoeddwyd9 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd9 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd19 awr yn ôl