Cymeradwyo cynllun datblygu Kop Cae Ras Wrecsam

Mae'r dyluniad yn nodi hanes ardal Wrecsam yn cynhyrchu brics coch
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau i adeiladu eisteddle newydd y 'Kop' ar y Cae Ras yn Wrecsam wedi cael eu cymeradwyo gan y cyngor.
Fe fydd yr eisteddle newydd yn y STōK Cae Ras yn dal hyd at 5,500 o bobl.
Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo yn unfrydol nos Lun gan Gyngor Sir Wrecsam, gyda dim un cwyn ffurfiol wedi'i chyflwyno.
Roedd hyn er gwaethaf pryderon gan Brifysgol Wrecsam y byddai'r cynlluniau yn golygu na fyddai modd gwireddu eu gobeithion o greu pentref myfyrwyr ar Ffordd Crispin.

Bydd yr eisteddle yn "gwneud y mwyaf o'r awyrgylch" meddai'r dylunwyr
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb bod "llwyddiant anhygoel" Wrecsam, ar y cae ac oddi arno dros y blynyddoedd diwethaf, wedi golygu bod angen "adolygu ein huchelgais".
Y gobaith yw y gallai'r eisteddle newydd olygu bod modd denu gemau rhyngwladol yn ôl i'r gogledd ac ateb gofynion UEFA.
Y tu allan, bydd dyluniad o frics yn nodi hanes ardal Wrecsam o greu brics a theils, yn enwedig brics coch Rhiwabon.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys sgwâr cyhoeddus y tu allan i'r stadiwm er mwyn i gefnogwyr gyfarfod ar ddiwrnod gêm.
Yno bydd cofeb i drychineb pwll glo Gresffordd yn 1934. Bydd yr eisteddle ei hun yn cynnwys mannau sefyll diogel a seddau hygyrch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023