Sheehan i barhau yn rheolwr Abertawe tan ddiwedd y tymor

Alan SheehanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Elyrch wedi ennill dwy, colli dwy a chael un gêm gyfartal ers penodi Sheehan yn rheolwr dros dro

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau y bydd Alan Sheehan yn parhau yn rheolwr tan ddiwedd y tymor.

Cafodd y Gwyddel ei benodi yn rheolwr dros dro ar yr Elyrch fis diwethaf yn dilyn ymadawiad Luke Williams.

Mewn pum gêm dan reolaeth Sheehan, 38, mae Abertawe wedi ennill saith o bwyntiau ac maen nhw yn yr 16eg safle yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.

Mae Abertawe hefyd wedi cyhoeddi bod Mark Fotheringham a Richard Stearman wedi eu penodi fel rhan o'r tîm hyfforddi.

Fe fydd yr Elyrch yn wynebu ceffylau blaen y Bencampwriaeth, Leeds United yn eu gêm nesaf ddydd Sadwrn.