Ceidwadwyr yn galw am 'ymyrraeth frys' ar gynllun addysg Gwynedd

Mae Darren Millar wedi disgrifio cynllun drafft Cyngor Gwynedd fel un "sylfaenol anghywir"
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i "ymyrryd" yng nghynlluniau Cyngor Gwynedd i leihau'r defnydd o Saesneg yn ysgolion y sir.
O dan gynlluniau'r awdurdod i ddarparu "isafswm o 70%" o'r cwricwlwm drwy'r Gymraeg i bob disgybl, byddai ffrydiau Saesneg yn dirwyn i ben mewn ysgolion uwchradd.
Roedd cefnogaeth gyffredinol i'r cynlluniau yn ystod cyfarfod craffu ddydd Iau, ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar wedi disgrifio'r cynllun drafft fel un "sylfaenol anghywir".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio ysgolion.
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Yn ysgrifennu ar wefan Conservative Home, dywedodd Darren Millar AS: "Nid yn unig yn ddrwg i addysg, mae'n annheg ar athrawon ac yn niweidiol ac ymrannol i gymunedau.
"Ac yn anffodus, mae'n rhan o batrwm ehangach o bolisïau mewnblyg yng Ngwynedd."
Ychwanegodd Mr Millar ei fod wedi galw ar yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, i "ymyrryd ar frys".
"Os bydd Llywodraeth Cymru yn methu â gweithredu i amddiffyn hawliau dinasyddion, yna mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gamu i mewn i wneud hynny."
Gwrthwynebiad yn 'siomedig iawn'
Wrth drafod y cynllun ddydd Iau roedd rhai o gynghorwyr Gwynedd o'r farn nad oedd y polisi drafft yn ddigon beiddgar, ac eraill yn pryderu na fyddai monitro boddhaol o'r cynnydd.
Ond roedd cefnogaeth gyffredinol i'r bwriad o ehangu ar addysg Gymraeg.
Yn ystod y cyfarfod o Bwyllgor Sgrwtini Addysg ac Economi, dywedodd y deilydd portffolio addysg fod gwrthwynebiad Mr Millar i'r polisi yn "siomedig" ac "anffodus iawn".

"O'n i'n meddwl bod ni wedi cyrraedd lle yng Nghymru lle oedd y Gymraeg yn cael ei derbyn," meddai'r Cynghorydd Dewi Jones
"O'n ni'n meddwl yn eitha' naïf felly, neu'n gobeithio mai Mr Millar sydd yn y lleiafrif bychan iawn, a'n bod ni wedi cyrraedd lle yng Nghymru lle oedd y Gymraeg yn cael ei derbyn a'n bod i gyd yn gytûn ein bod eisiau gweld twf yn y Gymraeg a'n plant a'n pobl ifanc yn cael cyfleoedd," meddai'r Cynghorydd Dewi Jones.
"O'n i'n meddwl bod y dyddiau o ddefnyddio'r Gymraeg fel ffwtbol gwleidyddol i sgorio pwyntiau wedi dod i ben.
"Ond mae'n siomedig iawn clywed y sylwadau yna, a fyswn yn licio datgan hynny'n gyhoeddus."
'Sefyll dros y lleiafrif Saesneg eu hiaith'
Ond yn ei golofn, ychwanegodd Mr Millar bod "perygl i agwedd [Cyngor] Gwynedd wthio pobl i ffwrdd o'r Gymraeg".
"Mae hynny'n tanseilio'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg – nod dwi'n parhau i'w gefnogi'n llwyr," meddai.
"Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ymyrryd a sefyll dros y lleiafrif Saesneg eu hiaith yng Ngwynedd – yn union fel y dylai sefyll dros y lleiafrif Cymraeg eu hiaith mewn rhannau eraill o Gymru.
"Nid cymryd ochr mewn rhyw ryfel iaith yw hyn.
"Mae'n ymwneud ag amddiffyn tegwch, dewis, a'r egwyddor y dylai dwyieithrwydd weithio i gymunedau – nid ei ddefnyddio fel arf i wahanu neu gau allan."

Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn mabwysiadu unrhyw bolisi newydd i ddisodli'r un presennol, sydd yn ei le ers 1984
Yn ôl Cyngor Gwynedd byddai'r polisi newydd yn "dileu dwyieithrwydd a dysgu dwyieithog", ac yn "nodi'n glir mai Cymraeg fydd prif iaith yr addysgu".
Mae Cymdeithas yr Iaith, sy'n croesawu'r cynlluniau, hefyd wedi awgrymu y dylai cynghorau eraill yn y gorllewin ystyried mesurau tebyg.
Yn sgil pryderon dros recriwtio staff Cymraeg eu hiaith, ychwanegodd y Cynghorydd Jones: "Pryd ydan ni'n mynd i wneud y shifft yna de?
"Mae'n rhaid i ni gynyddu'r addysg Gymraeg fel ein bod ni'n gallu cael mwy o athrawon yn y pendraw - mae'n gaseg eira dydy?"
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cyfrifoldeb am gynllunio ysgolion yn nwylo'r awdurdodau lleol.
"Mater i'r awdurdod lleol, ar ôl ystyried ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac ymgynghori â chymuned yr ysgol, yw dewis y llwybr mwyaf addas ar gyfer ysgolion unigol."