'Lle i siroedd eraill fabwysiadu polisi ysgolion Cymraeg Gwynedd'

Disgyblion ysgol uwchraddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae lle i fesurau arfaethedig i wneud y Gymraeg yn brif iaith addysg yng Ngwynedd hefyd gael eu mabwysiadu mewn siroedd cyfagos, yn ôl ymgyrchwyr iaith.

Ddydd Iau roedd cynghorwyr yn trafod polisi drafft byddai'n golygu bod bron holl ysgolion uwchradd Gwynedd yn darparu 70% o'r cwricwlwm drwy'r Gymraeg.

Byddai hynny'n golygu bod ffrydiau Saesneg yn dirwyn i ben.

Yn ôl yr awdurdod byddai'n "dileu dwyieithrwydd a dysgu dwyieithog", ac yn "nodi'n glir mai Cymraeg fydd prif iaith yr addysgu".

Mae'r cynlluniau wedi eu disgrifio fel rhai "hollol annerbyniol" gan y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n dweud bod peryg i'r cynllun "droi pobl i ffwrdd o'r iaith Gymraeg".

Gwynedd ydy'r sir gyda'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg, ac mae ymgyrchwyr yn galw ar gynghorau eraill, lle mae'r iaith hefyd yn gryf, i fabwysiadu polisïau tebyg.

'Siroedd yn ystyried eu polisïau'

Ar hyn o bryd mae diffiniad ysgol Categori 3 - sef ysgol cyfrwng Cymraeg - yn golygu bod o leiaf 60% o ddisgyblion ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy'r Gymraeg.

Ond byddai'r polisi drafft diwygiedig yng Ngwynedd yn nodi byddai pob disgybl yn dilyn 70% o'u cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg, heblaw am rai eithriadau er mwyn cyfarch anghenion rhai dysgwyr ADY a hwyrddyfodiaid pur.

Byddai'r polisi - gafodd ei graffu arno gan gynghorwyr ddydd Iau, dolen allanol - yn effeithio mwyafrif llethol o ysgolion y sir sydd eisoes yn cael eu hystyried fel rhai cyfrwng Cymraeg.

Ond gan fod ysgolion uwchradd Friars ym Mangor a Tywyn yn cael eu hystyried fel rhai trosiannol - sydd ar gyfnod pontio i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg - ni fyddan nhw'n cael eu heffeithio'n syth.

Toni Schiavone
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Toni Schiavone bod gan bob disgybl "yr hawl i adael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg"

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, sy'n croesawu'r cynlluniau, fe ddylai cynghorau eraill yn y gorllewin hefyd ystyried mesurau tebyg yn y blynyddoedd i ddod.

"Un o'r gwendidau yn y system addysg ar hyn o bryd ydy'r diffyg dilyniant o'r cynradd i'r uwchradd ac i ôl-16," meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg y Gymdeithas, wrth BBC Cymru.

"Ac yn bendant o ran y symudiad o uwchradd i ôl-16 mae dipyn o ffordd gan Wynedd i symud.

"Ond mae'n gam i'r cyfeiriad iawn yn bendant, ac mae'n cyd-fynd gyda holl drywydd y Bil Addysg Gymraeg sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd.

"Dwi'n rhagweld bydd siroedd eraill, o ganlyniad i'r Bil Addysg, hefyd yn ailystyried eu polisïau iaith Gymraeg nhw ac yn symud i'r un cyfeiriad... rhai yn gynt na'i gilydd wrth gwrs."

Ychwanegodd: "Mae 'na le i siroedd cyfagos i Wynedd i symud i'r cyfeiriad yna."

Darren Millar ASFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Darren Millar: "Y math yma o bolisi sy'n gwthio pobl i ffwrdd o'r Gymraeg a dwi eisiau i bobl gofleidio'r iaith"

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, wedi datgan ei wrthwynebiad i gynlluniau Gwynedd gan ddweud bod peryg o "wthio pobl i ffwrdd o'r Gymraeg".

"Mae cael gwared ar y cyfle i rieni a disgyblion ddewis cael eu haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn hollol annerbyniol," meddai.

"Tra fy mod yn cefnogi'n llwyr mynediad i addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, dylai selogion ieithyddol gofio bod dwy iaith swyddogol yn ein gwlad a dylai pob cyngor lleol ac awdurdod addysg ddarparu ar eu cyfer; Saesneg a Chymraeg.

"Y math yma o bolisi sy'n gwthio pobl i ffwrdd o'r Gymraeg a dwi eisiau i bobl gofleidio'r iaith."

'Cam naturiol'

Ond mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) o'r farn na fyddai polisi Gwynedd yn cael effaith ddirywiol ar y gweithlu.

Dywedodd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, wrth BBC Cymru: "Mae Gwynedd wedi pwysleisio na fydd y newid yma'n digwydd dros nos, a byddwn yn disgwyl gweld cynlluniau sawl blwyddyn glir i wireddu'r polisi.

"Ni allwn weld y bydd effaith negyddol ar y gweithlu, er y bydd galw i uwch-sgilio o le i le mae'n siŵr.

"Mae tystiolaeth yn dangos nad oes modd trwytho'r Gymraeg yn llwyddiannus oni bai mai dyna yw cyfrwng yr addysgu.

"Mae pwysau annheg wedi bod ar yr ysgolion i ddarparu yn y Saesneg i leiafrif, gan geisio addysgu yn ddwyieithog sydd yn ei dro wedi cael effaith andwyol ar addysg mwyafrif y dysgwyr ac yn cynyddu llwyth gwaith athrawon."

Ioan Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ioan Rhys Jones: "Ni allwn weld y bydd effaith negyddol ar y gweithlu"

Ychwanegodd ei fod yn "gam naturiol" yng Ngwynedd gan fod bron pob ysgol gynradd eisoes yn addysgu drwy'r Gymraeg.

"Mae Ynys Môn, wrth gwrs, yn dilyn polisi tebyg ac mae'n siŵr y gwelwn symud pellach yn yr uwchradd yn fuan.

"Mae Ceredigion ar daith i sicrhau addysg Gymraeg ym mhob ysgol gynradd ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn disgwyl i newidiadau hir dymor ddigwydd yn yr ysgolion uwchradd yn ogystal.

"Ar y llaw arall, mae her gwirioneddol yn wynebu Sir Gâr a mawr obeithiwn y bydd Bil Y Gymraeg ac Addysg, o'i droi yn ddeddf, yn sicrhau y bydd y sir yn gwneud camau i sicrhau addysg ddwyieithog gyflawn yn ei hysgolion cynradd dros y blynyddoedd."

'Ddim digon pell'

O dan y drefn clywodd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi byddai Saesneg fel pwnc yn cynrhychioli tua 15% o'r cwricwlwm, gyda gweddill y ddarpariaeth iaith Saesneg i'w rannu ar draws y meysydd dysgu ac yn allgyrsiol.

Dywedodd Meirion Prys Jones, un o gyd-awduron y polisi drafft, ei fod yn ddogfen "arloesol" ac mai bwriad y polisi oedd sicrhau bod "canran llawer iawn uwch yn dilyn pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg tan eu bod nhw'n 16".

Ychwanegodd y deilydd portffolio addysg, y Cynghorydd Dewi Jones, y byddai "ymgynghoriad cwbl gynhwysfawr" yn cael ei lansio cyn mabwysiadu unrhyw bolisi, a bod sylwadau Darren Millar yn rai "siomedig iawn".

Cadarnhaodd hefyd mai "isafswm o 70%" fyddai'r disgwyliad o ran addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond cododd sawl aelod yn ystod y cyfarfod nad oeddynt eto wedi eu hargyhoeddi byddai monitro boddhaol o effaith y polisi newydd, a barn y Cynghorydd Jina Gwyrfai oedd nad oedd yn mynd ddigon pell.

Meirion Prys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ddogfen "arloesol" yn ôl Meirion Prys Jones

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones, cyn-brifathro yng Ngwynedd, nad oedd amcanion y polisi yn hollol glir, gan alw am ddogfen "mwy cryno", gan ddweud ei fod "yn rhy hawdd ei gam-ddehongli".

Cafodd pryderon hefyd eu codi dros y broblem gyffredinol o recriwtio a chadw athrawon.

Ond penderfyniad y pwyllgor oedd sefydlu grŵp 'tasg a gorffen' i ystyried geiriad y polisi ymhellach.

Bydd y polisi rŵan yn cael ei drafod gan y cabinet cyn ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf.

'Cynnydd da iawn'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion eu bod yn "gwneud cynnydd da iawn" yn erbyn amcanion eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2023.

Mae Cyngor Môn a Chyngor Sir Gâr hefyd wedi cael cais i ymateb.

Buodd Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Gwynedd yn trafod y cynlluniau fore Iau.

Byddan nhw'n cael eu trafod nesaf gan y cabinet ac yna mae disgwyl cyfnod o ymgynghori cyhoeddus cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol.