Sut i gadw planhigion yn 'hapus'
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae mis Ionawr yn fis cenedlaethol planhigion tŷ. Oes gyda chi lond tŷ o blanhigion adref, neu falle eich bod chi eisiau dysgu sut i ofalu am blanhigion?
Mae'r arbenigwr Rhona Duncan, sy'n berchen siop planhigion yn Nhreganna, Caerdydd, yma i helpu.
Bu Rhona yn siarad gyda Heledd Cynwal ar Bore Cothi ar Radio Cymru.
Mae un peth i gofio gyda planhigion, yn ôl Rhona: "Mae wastad yn brysur gyda planhigion – maen nhw wastad angen rhywbeth."
Felly beth yw cyngor Rhona i unrhyw un sy' eisiau cyflwyno mwy o wyrddni i'r cartref?
Meddai: "Mae planhigion yn dod â bywyd i'r tŷ ac yn newid sut ti'n teimlo yn y stafelloedd hefyd."
Felly sut mae dechrau, yn enwedig ym mis Ionawr?
Yn ôl Rhona: "Y peth gyda Ionawr yw mae'n mynd yn dywyll yn glou ac os oes gyda chi lot o blanhigion yn y tŷ, os oes gyda chi spider plant neu rhywbeth mewn cornel tywyll, hwn yw'r amser i gael e mas o'r gornel a rhoi e'n agos i'r ffenest. Hwn yw'r amser maen nhw angen y golau.
Dŵr
Os oes angen rhoi dŵr i'r planhigyn, meddai Rhona ei bod hi'n well gwneud hynny tra bod y gwres ymlaen.
Meddai: "Dyw planhigion ddim yn hoffi bod yn wlyb ac yn oer!
"Hefyd, os yw'n bosib cael dŵr glaw, maen nhw'n hapusach gyda dŵr glaw achos mae llai o gemegion.
"Mae lot o blanhigion yn dod o'r jwngl a llefydd le mae gwres ac os chi'n rhoi dŵr oer i'r gwreiddiau mae'n sioc iddi nhw. Mae'n well rhoi dŵr sy'n dymheredd ystafell.
"Ac os ti'n mynd i ffwrdd mae'n well gadael y planhigion heb ddŵr. Achos ti ddim eisiau gadael planhigion gwlyb mewn tŷ oer achos bydd popeth yn marw neu'n pydru."
Felly oes angen glanhau planhigion?
Meddai Rhona: "Mae'n bwysig iawn i lanhau planhigion, yn enwedig amser yma o'r flwyddyn. Mae lot o lwch yn casglu ar blanhigion.
"Mae angen cael gwared o'r llwch i gyd – mae'n agor y planhigyn lan a gadael mwy o olau i'r planhigyn."
Torri dail
Meddai Rhona: "Y peth pwysig gyda torri dail planhigion yw cael gwared o bethau sy' wedi sychu mas a stems sy' wedi dechrau marw. Ond mae'n bwysig peidio torri mewn i ddail sy' yn fyw.
"Byddan nhw'n hapus os ti'n trio tacluso nhw."
Oes 'na blanhigion sy'n hawdd i'w cadw?
Yn ôl Rhona: "Y peth gorau yw spider plants – os chi ddim yn gallu cadw spider plant yn fyw, peidiwch cael planhigion.
"Maen nhw y math o blanhigion sy'n gallu byw mewn pob math o amgylchedd. Yr unig beth dyw nhw ddim yn hoffi yw bod mewn ffenest sy'n wynebu y de yn yr haf oherwydd mae'r dail yn newid lliw a mynd yn llwyd.
"Y peth gorau gyda spider plant yw dyw nhw ddim yn gallu mynd rhy sych na rhy gwlyb."
Geirfa
cenedlaethol / national
arbenigwr / specialist
gwyrddni / greenery
cemegion / chemicals
gwreiddiau / roots
tymheredd / temperature
pydru / to rot
llwch / dust
cemegion / chemicals
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024