Tân gwyllt: 'Byddwch yn ystyriol o anifeiliaid anwes'
- Cyhoeddwyd
Mae milfeddyg yn dweud ei fod yn gweld mwy o bobl yn gofyn am gyffuriau i dawelu eu hanifeiliaid anwes wrth iddi nesáu at Noson Tân Gwyllt.
Yn ôl Dr Alex Davies o Ben-y-bont, dyna fu "tua thraean" o'i bresgripsiynau dros y dyddiau diwethaf.
Daw hynny wrth i RSPCA Cymru rybuddio y gallai tân gwyllt ddychryn rhai anifeiliaid, gan ofyn i bobl sy'n mynd i ddigwyddiadau i fod yn ystyriol o berchnogion anifeiliaid anwes.
Mae 14 o gynghorau Cymru wedi cyflwyno mesurau diogelwch, sy'n cynnwys hyrwyddo digwyddiadau Noson Tân Gwyllt o flaen llaw, ac annog busnesau lleol i werthu tân gwyllt llai swnllyd.
'Wir yn cyffroi'r anifeiliaid'
Dywedodd Dr Davies ei fod wedi sylwi bod llawer mwy o berchnogion nawr yn ymwybodol o effaith y noson ar eu hanifeiliaid anwes.
"Mae'n ddigwyddiad sydd wir yn cyffroi'r anifeiliaid, ac yn gallu cael effaith wael ar eu lles ac achosi llawer o bryder iddyn nhw," meddai.
Ychwanegodd bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl oedd yn gofyn am gyffuriau i dawelu eu hanifeiliaid dros y cyfnod.
"Gan ein bod ni'n ailadrodd presgripsiynau, eleni'n enwedig rydyn ni wedi sylwi bod tua thraean ohonyn nhw'n rhai sy'n gofyn am feddyginiaeth i gael eu hanifeiliaid anwes nhw drwy Noson Tân Gwyllt," meddai.
"Dwi'n meddwl bod hyn oherwydd bod perchnogion nawr yn fwy ymwybodol o beth sy'n poeni eu hanifeiliaid anwes, ac eisiau eu cael nhw drwy beth sy'n gallu bod yn amser anodd."
Er bod yn rhaid i feddyginiaeth tawelu gael ei roi ar bresgripsiwn gan filfeddyg, mae opsiynau eraill ar gael hefyd, meddai.
"Mae pethau fel teclynnau 'dych chi'n plygio mewn sy'n chwistrellu fferomonau sy'n tawelu'r anifeiliaid anwes, ac mae meddyginiaeth dros-y-cownter fel Zylkene mae llawer o bobl yn ei ddefnyddio hefyd sy'n fwy o gyffur naturiol sy'n newid ymddygiad."
'Y rhan fwyaf o gŵn wedi dychryn'
Mae Kate Thomas, perchennog Kate's Canines Doggy Day Care ym Mhen-y-bont, yn agor eu drysau i gŵn ddod yno i fwynhau Noson Tân Gwyllt ddistawach.
"Mae fel arfer yn noson bryderus, a 'dyn ni'n ffeindio bod y rhan fwyaf o gŵn wedi eu dychryn yn llwyr gan yr holl sŵn," meddai.
"Does dim un ci eisiau cael eu gadael ar ôl yn poeni, felly 'dyn ni jyst yn ceisio creu rhywle saff iddyn nhw a sicrhau eu bod nhw'n hapus."
Dywedodd Billie-Jade Thomas, uwch reolwr materion cyhoeddus RSPCA Cymru, fod sawl peth y gall pobl ei wneud i helpu eu hanifeiliaid anwes ar Noson Tân Gwyllt.
"Er enghraifft, gallwch chi ddod â nhw tu mewn a cheisio sicrhau bod cyn lleied o sŵn â phosib yn dod i mewn i'r tŷ," meddai.
"Gallwch chi greu llefydd saff iddyn nhw yn eich cartref, neu ddefnyddio'r radio neu deledu i foddi sŵn y tân gwyllt."
Ychwanegodd pennaeth diogelwch tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Paul Kay: "Rydyn ni'n tueddu i weld miloedd o bobl yn dod i'r digwyddiadau coelcerth a thân gwyllt sydd wedi cael eu trefnu, sy'n cael eu rheoli'n dda, ac mewn amgylchedd saff a hwyl i'n cymunedau.
"Y digwyddiadau answyddogol sy'n gallu peri risg sylweddol i'r gymuned, a dyna pam rydyn ni'n dweud wrth bobl i geisio mynd i ddigwyddiad swyddogol os yn bosib.
"Beth sy'n bwysig iawn o safbwynt y gwasanaeth tân yw ein bod ni'n annog y gymuned leol i brynu hefyd o fusnesau sefydlog, ac i wastad brynu tân gwyllt gyda'r marc 'CE' arnynt."
'Gadael anifeiliaid i lawr'
Mae Dr Davies yn dweud ei fod eisiau gweld mwy o reoleiddio o ran gwerthiant tân gwyllt.
"Dwi ddim yn meddwl bod digon o reoleiddio ar hyn, yn enwedig i bobl sydd heb anifeiliaid anwes ac heb weld sut maen nhw'n cael eu heffeithio," meddai.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwthio mor galed yn y DU i gael yr hawliau gorau a'r lles gorau i anifeiliaid, ond pan mae'n dod at dân gwyllt, 'dyn ni'n eu gadael nhw lawr wrth beidio rhoi digon o ymdrech ac ymchwil i mewn i sut mae'n effeithio ar eu lles a'u hymddygiad.
"Felly mae'n rhywbeth ddylen ni edrych arno ymhellach."
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes ganddyn nhw bwerau penodol i reoli defnydd tân gwyllt.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Does gan Lywodraeth y DU ddim cynlluniau i wahardd gwerthiant tân gwyllt i'r cyhoedd, ond rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa.
"Rydyn ni'n credu bod y mwyafrif o unigolion yn defnyddio tân gwyllt yn ddiogel ac yn briodol.
"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda sefydliadau lles anifeiliaid a milfeddygol i ledaenu'r neges yma wrth arwain at ddyddiadau pan mae tân gwyllt yn cael eu defnyddio amlaf."
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Tân Gwyllt Prydain, Steve Raper: "Does dim angen rhagor o ddeddfwriaeth.
"Beth sydd ei angen yw bod y deddfau presennol yn cael eu gweithredu'n gywir ac yn llawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021