What’s occuring? Pam fod dewis y lleoliad ffilmio cywir mor bwysig

Cast Gavin and Stacey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynys y Barri yn cael lle amlwg yn y gyfres Gavin and Stacey

  • Cyhoeddwyd

Ar ddydd Nadolig fe fydd Ynys y Barri i’w gweld mewn miliynau o dai wrth i raglen olaf un Gavin and Stacey gael ei darlledu.

Ers i’r gyfres gyntaf fod ar y teledu nôl yn 2007 mae proffil y cyrchfan gwyliau yn nhref Y Barri ger Caerdydd wedi codi’n sylweddol.

Yn ôl y cynhyrchydd teledu Branwen Cennard mae dewis lleoliad yn cael effaith ar y cynhyrchiad ac ar yr ardal lle mae’r ffilmio’n digwydd - a hynny am flynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Ffilmio'r rhaglen olaf o Gavin and Stacey yn ddiweddar

Mewn sgwrs ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru dywedodd: “Ers llwyddiant mawr y gyfres mae ‘na bobl yn dod am dripiau (i'r Barri), mae pobl yn dod i aros am benwythnosau, mae pobl isho cerdded yn ôl troed y cymeriadau maen nhw’n dwlu arnyn nhw.

"Felly mae effaith y gyfres yn amlwg yn fawr yn economaidd i’r Barri sy’n ardal digon difreintiedig ac wedi elwa yn sylweddol."

Portmeirion a The Prisoner

Ychwanegodd Branwen bod ffilmio yn gallu cael effaith ar leoliad am flynyddoedd ar ôl i’r cyfresi ddod i ben:

“Enghraifft arall glasurol yng Nghymru ydi Portmeirion gyda The Prisoner.

"Mae amser hir, hir, hir ers i’r gyfres yna gael ei saethu ond mae pobl dal i gysylltu’r lleoliad gyda’r gyfres. Mae ‘na bobl yn dal i ddod i achlysuron arbennig, i benwythnosau ac felly mae’n gallu neud gwahaniaeth mawr i rywle.”

Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd digwyddiad ym Mhortmeirion yn 2017 i ddathlu hanner canrif ers ffilmio The Prisoner

Un o gynyrchiadau Branwen ydi Teulu, cyfres S4C am ddoctor o Lundain yn dychwelyd i Gymru - ac i Aberaeron. Roedd y pentref lliwgar glan môr yn rhan bwysig o'r ddrama - ond nid Aberaeron oedd y dewis cyntaf.

Yn wreiddiol roedd y ddrama wedi ei gosod ym Mhontypridd ond doedd Branwen ddim yn cael llwyddiant gwerthu'r syniad.

Eglurodd: “Pan benderfynwyd symud y gyfres o Bontypridd i Aberaeron, roedd y penderfyniad yna yn game changer achos mwya’ sydyn roedd comisiynwyr yn gallu gweld ‘ah, mae hwn yn mynd i edrych yn wahanol, mae hwn yn mynd i fod yn ddeniadol, mae’r tai eiconig sydd wedi cael eu peintio yn y lliwiau hyfryd - mae hynny yn mynd i weithio’.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Branwen Cennard ei bod wedi arwain nifer o deithiau Merched y Wawr o gwmpas Aberaeron i drafod y gyfres Teulu

“Oherwydd hynny, yr un oedd stori’r gyfres - ond roedd y lleoliad yn golygu bod y gyfres yn cael ei gwneud.

"Wedyn unwaith mae rhywun yn gwreiddio rhywle mewn tref fel Aberaeron mae effaith wedyn. Mae effaith ar y deialog a’r iaith, mae effaith ar y dafodiaith a’r math o iaith, mae effaith ar y castio achos mae rhywun yn ymdrechu i gael actorion sy’n dod o’r ardal neu yn gallu swnio fel bod nhw ddim yn byw rhy bell o Aberaeron ac mae’r holl beth yn magu traed.

“Wedyn sydyn reit chi’n creu o fewn rhywbeth sydd yn real i chi, chi’n creu blas i’r gynulleidfa o rywle ‘dyn nhw ddim yn adnabod ond maen nhw eisiau dod i adnabod.”

Ffilmio yn Y Senedd

Fe gafodd cynhyrchiad Branwen o Iechyd Da ei ffilmio yn y Cymoedd ac ar gyfer Byw Celwydd - cyfres ddrama am y byd gwleidyddol ym Mae Caerdydd - fe gafodd hi ganiatâd i ffilmio yn siambr Y Senedd.

Meddai: “Gan fod ni wedi lleoli (Iechyd Da) yn ardal Treorci a Cwmparc a Blaenrhondda mi nes i benderfynu cyflwyno cymeriad di-Gymraeg i’r gyfres er mwyn adlewyrchu neu roi blas o leia’ o realiti byw bob dydd i bobl sydd ddim yn adnabod yr ardal.

“Pan gaethon ni ganiatâd i ddefnyddio'r Senedd a chael ffilmio yn y Siambr yn Byw Celwydd roedd effaith hynny ar yr actorion yn fawr achos yn sydyn reit mae rhywbeth yn teimlo yn real iawn.”

O Sblot i Flaenau Ffestiniog

Prosiect nesaf Branwen yw cynhyrchu ffilm sy’n seiliedig ar fonolog Gary Owen Iphigenia in Splott - ar ôl treulio cyfnod hir yn perswadio’r awdur am fanteision symud y lleoliad o Gaerdydd i Flaenau Ffestiniog.

Gan ei bod yn ffilm Cymraeg i S4C a’r monolog gwreiddiol wedi ei ehangu i gynnwys nifer o gymeriadau roedd angen dewis lleoliad lle'r oedd y Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd.

Ac fe fydd y lleoliad yn cael effaith ar naws y ffilm, meddai Branwen.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Blaenau Ffestiniog

“Mae unrhyw un sy’n adnabod Blaenau Ffestiniog yn gallu gweld pam bod hyn mor apelgar achos ffilm sinematig fydd hon ac mae mawredd y tomenni llechi o gylch y dref," meddai.

"Mae’r penderfyniad hynny o safbwynt ieithyddol wedi agor drws gweledol fyddai ddim wedi digwydd mewn ardal fel Sblot. Byddai’r ffilm wedi bod yn wahanol - byddai wedi edrych yn wahanol ac wedi teimlo yn wahanol.

“Dwi wedi bod 10 mlynedd yn trio darbwyllo Gary bod hyn yn syniad da... ond yn amlwg roedd y ddrama yn bwysig iawn iddo fe, roedd Sblot yn bwysig iawn iddo fe - roedd e wedi byw yn Sblot a dyna pam roedd y ddrama yn Sblot.

“Felly dyw newid lleoliad mewn cyd-destun fel yna, dyw e ddim jest yn fater o newid lleoliad. Mae’n fater emosiynol yn fwy nag yn fater daearyddol achos mae e’n newid mawr.”

Pynciau cysylltiedig