Camu o'r pulpud i'r llwyfan stand-yp
- Cyhoeddwyd
Mae deon gyda'r Eglwys yng Nghymru wedi dechrau cyfathrebu gyda chynulleidfa go wahanol i'r arfer wedi i'r Canon Ddoctor Manon Ceridwen James ddechrau perfformio fel digrifwr mewn nosweithiau stand-yp.
Dywed y Canon James, sy'n wreiddiol o Nefyn, ei bod yn mwynhau nosweithiau o'r fath ar ôl perfformio mewn slot gomedi ymylol oedd yn rhan o Ŵyl Gerddorol Ryngwladol Gogledd Cymru.
Mae hi'n cyfadde’ serch hynny bod yr hyn "fedrwch chi ddeud mewn bar yn wahanol i be' fedrwch chi ddweud mewn eglwys."
"Mae pethau dwi'n ei ffindio yn ddoniol yn fy mywyd pob dydd, mae nhw'n mynd yn agos iawn i'r ffin ynde," meddai ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.
Dywedodd, gan smalio, ei bod yn poeni braidd ar adegau "a fyddai'n cael row gan rywun!"
Ar ôl cael ei hordeinio yn ddiacon yn 1994, bu'r Canon James yn giwrad yn Llandudno, ac yna yn ficer yn Llanllechid, Bethesda, Mynydd Llandegai a Phentir.
Yn dilyn hynny roedd yna gyfnod yng ngofal eglwysi Llysfaen ac Abergele a bu'n helpu gyda hyfforddiant yn Esgobaeth Llanelwy.
Ar ôl bod yn pregethu am ryw 30 mlynedd fe wnaeth ei tharo hi pa mor debyg oedd rhai o sgiliau y stand-yp o'i gymharu â gweinidogion.
"O'n i'n meddwl mae 'na bethau 'da ni fel pregethwyr yn gallu dysgu ganddyn nhw. Dwi'n sbïo ar y comedïwyr 'ma yn medru dal sylw y bobl am ryw awr, awr a hanner.
"Nath y cwrs yma ddod i fyny a Kiri Pritchard-McLean oedd yn ei redeg o yn ystod y cyfnod clo a dyna fi'n meddwl 'ia, a'i i hwnna i ddysgu sut i ddal sylw pobl am hirach'."
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
"Dwi'n meddwl hefyd fod pobl yn licio straeon ac maen nhw'n licio ffindio allan am bobl. Dwi'n meddwl mai dyma'r math o gomedi sy'n ddifyr ydi pan 'da chi'n teimlo bo' chi'n siarad gyda pherson go iawn."
Mae'r canon yn hoff o fynd i wyliau comedi, gan gynnwys Machynlleth ac Aberystwyth, ac o ran perfformwyr mae'n dweud ei bod yn hoff o Stewart Lee.
"Does gen i ddim lot o ddiddordeb mewn comedi lle 'da chi'n smalio bo' chi'n rhywun arall.
"Dwi'n meddwl os 'da chi'n chi'ch hun ac yn rhannu gwirioneddau eich bywyd chi mewn ffordd ddoniol, dwi'n teimlo bod pregethu a chomedi yn sôn am wirioneddau bywyd i ryw raddau."
Er bod yna rai pethau i'w dysgu gan gomediwyr, mae hi hefyd yn nodi'r gwahaniaethau sy'n bod rhwng gwneud stand-yp a phregethu o'r pulpud.
"Efo pregethu dwi'n sgwennu pob gair i lawr a dwi'n meddwl am yr union eiriau rwyf am ddefnyddio - dyna sy'n anodd efo stand-yp, 'da chi'n methu defnyddio sgript.
"Dwi ddim yn meddwl fod fy mhregethau fel y rhan fwyaf o bobl yn rhai 'laugh out loud' ond mae yna rhai pobl sydd yn dda iawn am bethau fel 'na - yn ddoniol felly.
Erbyn hyn mae'r Canon James wedi perfformio rhyw wyth gwaith mewn nosweithiau comedi.
Ond mae'r pulpud yn parhau yn drech na'r stand-yp i'r Canon James sy' bellach yng ngofal hyfforddiant cychwynnol i weinidogion yn Athrofa Pedr Sant yng Nghaerdydd.
"Er mwyn gwneud hyn yn rheolaidd byddai'n rhaid mynd i lefydd fel Manceinion a Lerpwl yn rheolaidd ac ar y penwythnos. Dyw'r amser yna ddim gennai. Ond ar ôl dweud hynny mae'n braf cael y cyfle ambell i waith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd20 Awst 2024