Cwmni inswleiddio i greu 140 o swyddi newydd yn y gogledd

Mae disgwyl i'r datblygiad greu tua 140 o swyddi uniongyrchol, a mwy mewn cadwyni cyflenwi lleol
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i thua 140 o swyddi newydd gael eu creu yn sgil buddsoddiad mewn cyfleuster gweithgynhyrchu yn y gogledd ddwyrain.
Mae cwmni Knauf Insulation wedi datgelu cynlluniau i wario £170m i ddatblygu safle yn ardal Shotton, Sir y Fflint.
Gobaith Knauf yw y bydd modd cynhyrchu dros 100,000 o dunelli o ddeunydd inswleiddio anllosgadwy ar y safle bob blwyddyn.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens fod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych i ogledd Cymru ac i genhadaeth Llywodraeth y DU i sbarduno twf economaidd".
"Dyma bleidlais o hyder yn economi Cymru ac yng nghynllun ein llywodraeth i wneud Prydain yn gyrchfan y bydd pobl yn dewis troi ati i fuddsoddi mewn diwydiant," meddai mewn datganiad.
Yn ôl Neil Hargreaves, Rheolwr Gyfarwyddwr Knauf Insulation Gogledd Ewrop, "mae gan y Knauf Group hanes balch o weithgynhyrchu yng Nghymru".
"Gan ddefnyddio'r dechnoleg Ffwrnais Arc Suddedig gyntaf o'i math yn y DU, bydd y ffatri newydd yn cynhyrchu deunydd inswleiddio wedi'i wneud o wlân mwynol sy'n ailgylchadwy, yn garbon isel ac yn anllosgadwy i gefnogi'r angen am adeiladau mwy diogel, mwy ynni effeithlon a chynaliadwy," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd6 Chwefror