Gobaith ehangu gweithlu Ceredigion wrth brisio cwmni dros £1bn

Mae cwmni Tekever wedi bod yn darparu dronau i fyddin Wcráin o'u safle yn Aberporth
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni technoleg sydd â safle yng Ngheredigion wedi cael ei brisio dros £1bn, yn ôl ei werth diweddaraf.
Mae Tekever yn arloesi mewn amddiffyn a diogelwch drwy systemau deallusrwydd artiffisial (AI), gan gynnwys adeiladu dronau ar gyfer y rhyfel yn Wcráin.
Yn ôl y prif weithredwr, mae'r cwmni'n bwriadu buddsoddi rhagor yn y safle yng Nghymru, sydd wedi'i leoli yn Aberporth.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl rownd ariannu newydd, gyda'r cwmni wedi cael cefnogaeth buddsoddwyr megis Ventura Capital, Baillie Gifford a'r NATO Innovation Fund, ymhlith eraill.
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
- Cyhoeddwyd19 Medi 2024
Yn ôl y cwmni, mae'r cynnydd i'w werth yn cadarnhau Tekever fel "arweinydd Ewropeaidd mewn technoleg amddiffyn", a fydd yn cyflymu ehangiad y cwmni ar draws Ewrop.
Mae'r buddsoddiadau hefyd yn cyd-redeg gyda lansiad rhaglen ddatblygu uchelgeisiol £400m Tekever yn y DU, o'r enw Overmatch.
Nod y rhaglen yw "trawsnewid diwydiant amddiffyn y DU" a "sicrhau bod y DU a'i chynghreiriaid yn parhau i fod ar flaen y gad o ran technoleg sy'n cael ei yrru gan AI".

Mae un o ddau safle Tekever yn y DU ym Mharc Aberporth yng Ngheredigion
Mae gan y cwmni bron i 1,000 o aelodau staff, wedi eu gwasgaru ledled y DU, Portiwgal, Ffrainc a Wcráin.
Mae'r safle ym Mharc Aberporth, ger Maes Awyr Gorllewin Cymru, yn cyflogi tua 50 o bobl.
Mae'r "rhan fwyaf" o'r swyddi wedi eu creu'n lleol, gyda Bae Ceredigion yn ardal ddynodedig i brofi taflegrau a dronau.
Mae safle arall y cwmni yn y DU wedi'i leoli yn Southampton.

Yn ôl Ricardo Mendes, mae cwmni Tekever yn bwriadu ehangu eu gwaith ym Mharc Aberporth
Yn ôl y cwmni, bydd buddsoddiad mewn ymchwil, seilwaith a thechnoleg amddiffyn yn cynhyrchu mwy na 1,000 o swyddi sgiliau uchel, gan ehangu cynhyrchiant dronau Tekever yn y DU.
Er bod Ricardo Mendes, prif weithredwr Tekever, wedi dweud ei bod hi'n "rhy gynnar" i ddweud faint o'r swyddi hyn fydd yn dod i Gymru, ychwanegodd: "Rydym yn gwybod beth yw'r duedd, a'r duedd yw i fuddsoddi mwy, nid llai."
Gan adeiladu ar dair blynedd o arloesi rheng flaen mewn partneriaeth â Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU a lluoedd Wcráin, mae systemau Tekever wedi casglu dros 10,000 o oriau hedfan ymladd ac wedi cyfrannu at ddinistrio gwerth £3bn o asedau milwrol Rwsiaidd.
Yr wythnos ddiwethaf, cafodd ei gyhoeddi hefyd fod Tekever yn cynhyrchu dronau amddiffyn arloesol diweddaraf yr RAF, sef StormShroud, wrth i Brif Weinidog y DU, Keir Starmer, gynyddu galluoedd amddiffyn y DU i wrthsefyll bygythiadau cymhleth yn wyneb ansefydlogrwydd byd-eang.

Drôn AR3 Tekever yn paratoi i gael ei lansio o faes awyr Gorllewin Cymru yn Aberporth
Wrth drafod ymateb uniongyrchol y buddsoddiadau ar y safle yng ngorllewin Cymru, pwysleisiodd Mr Mendes fod Aberporth yn chwarae rôl bwysig yn llwyddiant y cwmni.
"Rydym wedi bod yn Aberporth am beth amser nawr. Mae gyda ni tua 50 o bobl yno ac mae'r tîm yn tyfu'n sylweddol," meddai.
"Mae'n beth pwysig iawn i ni fod yn rhan o'r gymuned ym mhobman, yn enwedig mewn trefi llai.
"Ry'n ni wir yn teimlo bod croeso, mae'n ddiwylliant cryf iawn ac rydym wir yn ei werthfawrogi ac yn hapus i fod yn Aberporth.
"Rydym eisiau parhau i fuddsoddi a buddsoddi mwy, ac rwy'n credu yn ein cyfleusterau presennol, lle byddwn heb os yn datblygu, mae yna botensial i gefnogi ein nodau.
"Rwy'n credu fod ein presenoldeb yn Aberporth yn bwysig iawn… ac rydym yn credu fod gan orllewin Cymru rôl bwysig i'w chwarae yn y rhaglen Overmatch, gan olygu mwy o fuddsoddiad yn ein cyfleusterau ac yn ein tîm."

Mae'r Cynghorydd Clive Davies yn croesawu'r awgrym am ehangu'r gweithlu yng Ngheredigion
Yn ôl y cynghorydd sir dros ward Aberporth a'r Ferwig, Clive Davies, mae cyhoeddiad Tekever i'w groesawu.
"Mae'n dda clywed y newyddion a gobeithio fydd llawer o'r swyddi yma yn dod i orllewin Cymru a'r rhan yma o Geredigion," meddai.
"Rwy'n mawr obeithio y byddan nhw'n sefydlu prentisiaethau yn yr ardal, cydweithio gydag addysg bellach, y cyngor sir a'r ysgolion lleol.
"Mae safon addysg Ceredigion yn uchel iawn am y wlad, ac yn y gorffennol roedd yna 700 o bobl yn gweithio yn Aberporth yn y maes, gyda 100 o brentisiaethau ar gael yn flynyddol yno.
"Byddai'n dda gweld rhywbeth fel yna yn dod yn ôl i'r ardal, ac rwy'n gobeithio bydd y swyddi o safon uchel gyda sgiliau arbenigol yn cael eu datblygu gyda'r bobl maen nhw'n cefnogi."