Prifathro'n gwneud gwaith gofalwr i arbed arian i ysgol
- Cyhoeddwyd
Pan adawodd gofalwr Ysgol Aberllydan y swydd, penderfynodd y pennaeth nad oedd modd fforddio un newydd ac y byddai'n gwneud y dyletswyddau ei hun.
Mae'n enghraifft o'r pwysau sydd ar gyllidebau, wrth i ymchwil BBC Cymru ddangos bod nifer o ysgolion yn chwilio am ddiswyddiadau.
Ar yr un pryd, mae grŵp o 11 ysgol yn y gogledd yn rhybuddio y gallai toriadau i'r gefnogaeth lles arwain at fwy o waharddiadau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am addysg yng Nghymru, eu bod yn deall y pwysau sydd ar ysgolion.
- Cyhoeddwyd22 Mai
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
Yn ôl Gareth Lewis, mae'r pwysau ar y gyllidebau yn waeth nag ar unrhyw adeg yn ei wyth mlynedd fel pennaeth yr ysgol yn Sir Benfro sydd â 101 disgybl.
Yn hytrach na phenodi gofalwr newydd, cytunodd gyda'r llywodraethwyr mai'r dewis gorau fyddai iddo wneud y gwaith, gan rhyddhau arian am athro dosbarth.
"Mae tamed bach yn stressful i wneud e, mae’n 'neud jobyn fi tamed bach yn fwy anodd", meddai.
"Ond y positif yw, galla i roi athrawon yn y dosbarth a sdim rhaid i fi ddysgu’r plant a galla i roi mwy o amser i welliant yr ysgol."
Mae'n esbonio'r dyletswyddau: "Agor lan yr ysgol yn y bore, cloi e lan yn y nos, 'neud y test larwm, neud test y tŷ pwmp yng nghefn yr ysgol, testo’r dŵr, pethe fel ’na."
Mae'n credu bod yna bwysau arbennig ar ysgolion bach gwledig.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r ysgol wedi gorfod colli rhai staff trwy beidio adnewyddu cytundebau.
Ond eleni roedd modd osgoi diswyddiadau ar ôl derbyn arian ychwanegol gan y cyngor.
"Ma' hwnna wedi bod yn help mawr i ni. Ond ma’r budget ni’n cael at y flwyddyn newydd, dyw e ddim yn ddigon am ysgolion," meddai.
Pryder am waharddiadau
Mae penaethiaid wedi mynd ati mewn sawl ardal, gan gynnwys Sir Ddinbych a Phowys, i ysgrifennu at rieni am effeithiau toriadau ar ddisgyblion.
Ac mae grŵp o 11 ysgol mewn ardaloedd difreintiedig yn y gogledd hefyd wedi rhannu pryderon.
Maen nhw'n poeni mai staff sy'n ymwneud â lles neu bresenoldeb disgyblion fydd yn gorfod cael eu torri gyntaf.
Y perygl yw bod hynny'n arwain at fwy o waharddiadau, plant yn cael eu dadgofrestru a'u haddysgu adref.
Mae bron pob un o'r 11 ysgol, meddai'r grŵp, wedi colli eu llyfrgellydd, a nifer o'r llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd lles oherwydd maint y galw.
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Owain Gethin Davies, Prifathro Ysgol Dyffryn Conwy, yn Llanrwst y gallai'r "effaith hir dymor fod yn andwyol".
"'Da chi'n ystyried pethau mewn ysgolion uwchradd fatha gorfod cynyddu maint dosbarthiadau er mwyn rhedeg y cwricwlwm a hyd yn oed ystyried os ydyn ni'n gallu rhedeg pob cwrs TGAU a Lefel A sydd yn bosib o dan yr amgylchiadau oherwydd bod cyllidebau mor dynn.
"Be da ni'n gorfod cofio ydi'r cydbwysedd rhwng lot o ddatblygiadau newydd, cyffrous 'da ni fel staff isho cyflwyno ond 'da ni'n gaeth o ran y cyllid sydd ganddon ni i wireddu hynny a bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd o ran be sy'n bosib a ddim yn bosib wrth symud 'mlaen."
Mae un o bennaethiaid y de hefyd yn poeni am effaith cyllidebau tynn ar gefnogaeth lles i ddisgyblion.
"Y’n ni ddim yn gallu cyflogi digon o gynorthwywyr dysgu, cynorthwywyr lles a ma'r bobl yma’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywyd pobol ifanc", meddai Trystan Edwards o Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd.
Mae Mr Edwards yn galw am ariannu disgyblion 10 i 16 oed yn well gan fod "heriau cynyddol" yn dod i'r amlwg ymhlith y plant yna.
Ac er mae'n gweld bod digon o bobl sy'n "creu argymhellion, yn gosod y gofynion ac yn creu canllawiau" mae yna brinder "capasiti a staff ar lawr ysgol i wireddu’r gofynion ‘ma a rhoi’r gwaith ‘ma yn weithredol yn ein hysgolion ni".
Ysgolion yn torri staff
Fe ofynnodd BBC Cymru i holl awdurdodau lleol Cymru faint o'u hysgolion oedd wedi bod yn edrych ar ddiswyddiadau gwirfoddol hyd yma yn 2024.
Dywedodd rhai, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe, nad oedden nhw'n gallu rhoi'r wybodaeth, ond o'r 17 cyngor a roddodd ffigyrau, roedd yna gyfanswm o tua 200 ysgol yn edrych ar ddiswyddiadau gwirfoddol.
Roedd y niferoedd yn amrywio o un ysgol yng Nghasnewydd a Thorfaen, i 28 yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd nifer o awdurdodau lleol ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud os fyddai angen diswyddiadau gorfodol.
Ond yn ôl Cyngor Wrecsam mae yna bosibilrwydd o saith neu wyth, a dywedodd cynghorau Gwynedd a Sir y Fflint bod pedair swydd yr un wedi'u clustnodi ar gyfer diswyddo gorfodol hyd yma.
Mae Lisa Williams o Lanrwst yn fam i ddau.
“Mae’n bwysig i’r ysgolion i gael yr arian ma' nhw angen, ac mae’r toriadau o flwyddyn i flwyddyn", meddai.
"O'n i ar y PTA llynedd a ma' nhw just yn cael problemau i gael yr arian i gael y trips, mae’r bysiau yn costio lot a petha' fel 'na.”
Yn dad i dri mae Dewi Prys Watson hefyd yn poeni.
"Dwi’m yn gwbod be 'di’r ateb, achos ma' 'na doriade dros bob peth yn does?
"Ma’r penaethiaid yn trio 'neud y gore fedran nhw efo be sy' gennan nhw.
"‘Swn i yn hoffi mwy o arian i’r ysgolion achos mae o’n bwysig dydy?”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall y pwysau sydd ar ysgolion ac wedi blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys ysgolion, trwy amddiffyn y cynnydd yng nghyllideb llywodraeth leol."
Awdurdodau lleol sy'n penderfynu faint o gyllid sydd yn mynd i gyllidebau ysgolion, dywedodd y llywodraeth, gan addo cydweithio i sicrhau y gorau posib i ddisgyblion.
Ond mae’r Ceidwadwyr yn eu cyhuddo o gamweinyddu’r gyllideb addysg a gadael i safonau ddirywio, tra bod Plaid Cymru’n dweud bod angen gweithredu a chydnabod difrifoldeb y sefyllfa.