Dim ysgol anghenion ychwanegol yn 'sathru ar hawl y plant'
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â chynllun i adeiladu ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Gâr yn "sathru" ar hawliau ac urddas y disgyblion, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae Ysgol Heol Goffa yn Llanelli yn darparu addysg ar gyfer dros 120 o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.
Roedd Cyngor Sir Gâr wedi bwriadu darparu adeilad newydd i'r ysgol, wrth i rieni ddweud nad yw'r cyfleusterau presennol yn addas i'w pwrpas bellach.
Ond dywedodd y cyngor nad oes modd parhau â'r cynllun oherwydd bod y costau adeiladu wedi cynyddu'n sylweddol o'r amcangyfrif gwreiddiol ac "nad oes ganddyn nhw ddewis arall ond ystyried cynlluniau amgen".
Daeth tua 40 o bobl i brotestio yn erbyn y penderfyniad ger Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin fore Mercher.
Fe fuodd ymgyrchwyr yn gwaeddi “gwarth” a “ble mae ein hysgol newydd” y tu allan wrth i’r cyfarfod blynyddol gael ei gynnal tu fewn.
Mae'r amodau yn yr ysgol wedi eu disgrifio fel "ofnadwy" gan undeb sy'n cynrychioli staff.
Mewn llythyr at y cyngor, dywedodd Unsain bod aelodau a staff eraill yn methu credu'r penderfyniad.
"Ers blynyddoedd mae' staff wedi gorfod gweithio mewn amodau ofnadwy a'r hyn sydd wedi'u cynnal yw eu hymrwymiad i'r disgyblion, eu proffesiynoldeb a gwybod y byddai yna ysgol fodern newydd," meddai'r llythyr.
Mae mab Alex Dakin, Jac sy'n chwech oed, wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol ers blwyddyn.
Roedd rhaid "ymladd" am le iddo, meddai Mr Dakin, ac felly'n "falch iawn" i gael lle yn y pendraw.
Dywedodd ei fod yn "siomedig iawn" gyda phenderfyniad y cyngor: "O’dd lot o obaith gyda ni am yr ysgol Jac yn datblygu yn yr ysgol newydd, ond mae’r newyddion wedi bwrw ni’n galed."
“Mae Ysgol Heol Goffa nawr yn ysgol hen. Dyw e ddim yn fit for purpose.
"Mae eisiau pethau newydd, facilities newydd o’dd ddim i’w gael pan o’dd yr ysgol yn cael ei hadeiladu."
Ychwanegodd ei fod yn "becso am ddyfodol" ei fab a phlant eraill heb yr ysgol newydd.
“Fi’n credu bod y plant yn cael yr addysg orau yn yr ardal yn Heol Goffa. Mae’r athrawon yn wych, mae popeth maen nhw’n ei wneud yn wych, ond mae eisiau facilities arnon nhw i wneud y gorau i’r plant.
“Ni’n gallu gweld mae Jac wedi datblygu lot fwy ers bod yn Heol Goffa i gymharu â’r ysgol lleol o’dd e ynddo o’r blaen.
"Mae eisiau ysgol gyda mwy o facilities, pethau modern… Ni’n gwybod bydd e’n datblygu lot fwy.
"Mae e’n rywbeth ni eisiau, na, dim eisiau, mae’n rhaid cael i’n plant ni.”
'Cyfrifoldeb moesol i godi ysgol newydd'
Mae'r penderfyniad, medd cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol, wedi eu "syfrdanu", yn enwedig gan fod y cyngor llawn wedi cymeradwyo codi ysgol newydd yn 2017 yn dilyn ymgyrch hir am well gyfleusterau.
Dywedodd Owen Jenkins wrth raglen Dros Frecwast bod cyflwr yr adeilad presennol mor "warthus" nes byddai'n "amhosib" i'w wella, serch addewid y cyngor i ddarparu'r cyfleusterau gorau bosib ar gyfer disgyblion ac adeiladu ar ymdrechion staff "ymroddgar ac ysbrydoledig".
"Mae hyn wedi sathru ar eu hurddas nhw a'u hawliau dynol fel disgyblion, yn ôl Confensiwn Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig," dywedodd.
"Felly ni'n teimlo bod cyfrifoldeb moesol gyda'r cyngor i fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau yn unol â phenderfyniad y corff llawn."
Dywed Mr Jenkins ei fod yn derbyn bod y cyngor dan bwysau ariannol, ond fe bwysleisiodd mai Llywodraeth Cymru sy'n talu 75% o gost codi ysgolion anghenion arbennig.
Mae hefyd yn dweud nad yw'r llywodraethwyr eto wedi gweld unrhyw ddogfennau swyddogol ynghylch y penderfyniad nag unrhyw graffu arno.
'Yr adeilad yn beryglus'
Mae wyres Gareth Davies o Lanelli, Millie, sy'n dair oed, yn aros i gael lle yn Heol Goffa, ac mae ganddi anghenion dwys: "Bydd hi byth yn medru bod mewn ysgol gyffredin. Fe ddylse hi fod yn yr ysgol nawr.
"Roedden nhw wedi addo lle iddi ym mis Medi, ond nawr mae’n annhebygol y bydd hi’n cael lle cyn ei bod hi’n chwech oed.
"Mae angen mwy o le yn yr ysgol newydd, achos mae gymaint o blant yn aros i gael asesiad.
"Mae’r adeilad presennol yn beryglus. Mae angen rhoi cyfle o leiaf i’n pobl mwy bregus.”
Un arall fu'n cefnogi'r brotest oedd AS Llafur dros Lanelli, Nia Griffith, a alwodd ar y cyngor i "ail-ystyried yr holl beth", a rhoi eglurder i rieni.
"Mae plant, rhieni ac athrawon ddim yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd ac mae'n rhaid iddyn nhw eistedd lawr gyda chymuned yr ysgol i sicrhau bod popeth yn cael ei egluro.
"Mae'n anodd iawn i rai plant fod mewn ysgol prif ffrwd. Mae yna restr aros i fod yn Ysgol Heol Goffa."
Addewid i wella cyfleusterau
Wrth ymateb i bryderon dywedodd y cynghorydd â chyfrifoldeb am addysg, Glynog Davies bod "y cyngor wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu’r cyfleusterau gorau posibl i’ch plant a holl ddisgyblion ADY [anghenion dysgu ychwanegol] yn Llanelli".
"Penderfyniad anodd. Penderfyniad siomedig i fi'n bersonol, ac i'r awdurdod.
"Unwaith cafwyd y pris am yr ysgol arfaethedig fe welwyd bod e tu hwnt i'n gallu ni... llawer, llawer, llawer uwch na'r arian a glustnodwyd ar gyfer yr ysgol.
"Doedden ni ddim yn gallu fforddio'r cynllun felly roedd rhaid atal y cynllun hwnnw yn y fan a'r lle er mwyn dweud wrth y contractwr."
Ychwanegodd: "Mae rhieni Heol Goffa yn bwysig. Ni'n bwriadu gweithio gyda nhw a'r ysgol. Dwi eisoes wedi trafod gyda'r pennaeth.
"Fe fyddwn ni trafod yr hyn sydd angen ei wneud (o ran gwaith atgyweirio/cynnal a chadw). Ni'n barod i wario arian ar yr adeilad presennol.
"Maen nhw'n haeddu y ddarpariaeth orau.
"Mae’r unedau a agorwyd yn ddiweddar yn Ysgol Glan y Môr, Porth Tywyn, Ysgol Gynradd Llangennech ac Ysgol Iau Porth Tywyn yn dyst ac yn enghreifftiau o’n penderfyniad i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion yr holl ddisgyblion ar draws y sir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024