Cwmni o'r gogledd eisiau claddu carbon, nid gwastraff

Gwastraff
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle ar Lannau Dyfrdwy yn llosgi 230,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Gallai safle trin gwastraff yng ngogledd Cymru fod yn un o’r rhai cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio technoleg dal a storio carbon.

Mae Parc Adfer yn Sir y Fflint yn creu ynni trwy losgi gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Ond mae’r cwmni sy’n ei redeg, enfinium, yn gobeithio dal y carbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu o’r broses a’i storio yn ddwfn o dan y ddaear.

Maen nhw’n bwriadu buddsoddi £200m ar y safle ac yn cystadlu am gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cafodd Parc Adfer ei agor ar Lannau Dyfrdwy yn 2019 ar ôl i bump o gynghorau’r gogledd ddod at ei gilydd i greu Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC).

Bob blwyddyn, mae’n trin 232,000 tunnell o wastraff nad oes modd ei ailgylchu o gartrefi a busnesau’r ardal.

Mae’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu wrth losgi’r gwastraff yn ddigon i gyflenwi trydan i 30,000 o gartrefi, yn ôl enfinium.

Mynd â'r dechnoleg 'i'r lefel nesaf'

Ond os bydd y cynllun diweddaraf yn llwyddiannus, bydd y carbon deuocsid sy’n cael ei ryddhau o’r ffwrneisi yn lleihau’n sylweddol.

Y bwriad ydy ei gladdu o dan Fôr y Gogledd.

Mae’r datblygiad yn mynd â’r dechnoleg “i lefel ‘dan ni heb weld” yng Nghymru, yn ôl Dr Prysor Williams, sy'n ymchwilio i allyriadau carbon ym Mhrifysgol Bangor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Prysor Williams yn credu y bydd y prosiect yn medru gwneud y dechnoleg yn fwy fforddiadwy

“Yn sicr efo buddsoddiad o’r lefel yma, mae bosib i hyn dyfu i rywbeth llawer mwy," meddai.

“'Dan ni’n gwybod am y dechnoleg ers blynyddoedd. Y broblem oedd bod o’n hynod o ddrud.

“A drwy brosiectau fel hyn ‘dan ni’n gobeithio fydd y dechnoleg yn symud yn ei flaen ac yn fwy fforddiadwy, a’r potensial i dyfu’n sylweddol wedyn.”

'Diogelu swyddi hefyd'

Roedd Uchelgais Gogledd Cymru’n un o’r rhai fu’n cefnogi enfinium ar y datblygiad.

Dywedodd Elgan Roberts, rheolwr rhaglen ynni carbon isel Uchelgais Gogledd Cymru, eu bod yn “hapus iawn” i gefnogi’r prosiect.

“Mae dal carbon yn un o’r opsiynau i ddatgarboneiddio’r prosesau presennol sy’n allyrru carbon deuocsid ar hyn o bryd," meddai.

“Mae hyn hefyd yn medru diogelu swyddi presennol yn ogystal ag ymestyn oes yr isadeiledd sydd yna ar hyn o bryd tra ‘dan ni ar ein ffordd i sero net.”

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y carbon deuocsid sy'n cael ei ryddhau wrth losgi yn cael ei stori yn ddwfn o dan ddaear

Bydd y prosiect ar Lannau Dyfrdwy yn cystadlu gyda cheisiadau eraill am gyllid gan Lywodraeth y DU.

Mae disgwyl cyhoeddiad yn yr haf ar ba brosiectau fydd yn cael eu dewis fod yn rhan o un o raglenni datgarboneiddio diwydiant cyntaf Prydain.

Pynciau cysylltiedig